Luwc 16
16
1-9Efe á ddywedodd hefyd wrth ei ddysgyblion, Yr oedd gàn ryw wr goludog oruchwyliwr, yr hwn á gyhuddid wrtho ei fod yn gwastraffu ei dda ef. Wedi iddo, gàn hyny, ei alw ef, efe á ddywedodd, Pa beth yw hyn yr wyf yn ei glywed am danat? Dyro gyfrif o’th oruchwyliaeth, canys ni chai fod mwy yn oruchwyliwr. A’r goruchwyliwr á ddywedodd ynddo ei hun, Pa beth á wnaf? Y mae fy meistr yn dwyn yr oruchwyliaeth oddarnaf; cloddio nis gallaf, a chardota sy gywilyddus genyf. Yr wyf yn penderfynu pa beth á wnaf, fel pan ym diswyddir, y byddo rhywrai à’m derbyniant iddeu tai. Gwedi danfon, gàn hyny, am holl ddyledwyr ei feistr, bob yn un ac un, efe á ofynodd i’r cyntaf, Pa faint sydd arnat ti o ddyled i’m meistr? Yntau á atebodd, Cànn #16:1 Saith galwyn a hanner.bath o olew. Cỳmer dy #16:1 A bill.ddyleb yn ol, meddai y goruchwyliwr, eistedd i lawr yn uniawn, ac ysgrifena ddeg a deugain. Yna y gofynodd i un arall, Pa faint sydd arnat ti? Yntau á atebodd, Cànn #16:1 Seithdeg a phumm galwyn a phumm peint.homer o wenith. Cỳmer dy ddyleb yn ol, meddai efe, ac ysgrifena bedwar ugain. Y meistr á ganmolodd gallineb y goruchwyliwr annghyfiawn; oblegid y mae plant y byd hwn yn gallach wrth drin eu gorchwylion na phlant y goleuni. Am hyny, yr wyf yn dywedyd i chwi, Gwnewch i chwi gyfeillion â’r golud twyllodrus, y rhai, pan ych gollynger ymaith, a’ch derbyniant i’r trigfanau tragwyddol.
10-13Y neb sy ffyddlawn mewn ychydig, sy ffyddlawn hefyd mewn llawer; a’r neb sydd annghyfiawn mewn ychydig, sydd annghyfiawn hefyd mewn llawer. Am hyny, os na buoch onest yn y golud twyllodrus, pwy á ymddiried i chwi am y gwir olud? Ac os buoch drefnidwyr anfyddlawn dros arall, pwy á rydd i chwi ddim iddei drin drosoch eich hunain? Ni ddichon yr un gwas wasanaethu dau feistr; canys naill ai efe á gasâa y naill, ac á gâr y llall; ai efe á lŷn wrth y naill, ac á esgeulusa y llall. Ni ellwch wasanaethu Duw a mamon.
14-15Pan glybu y Phariseaid, y rhai oeddynt ariangar, y pethau hyn oll, hwy á’i gwatwarasant ef. Yntau á ddywedodd wrthynt, Am danoch chwi, yr ydych yn proffesu eich hunain yn gyfiawn gèr bron dynion, ond Duw á ŵyr eich calonau chwi; canys yr hyn à fawrygir gàn ddynion, á ffieiddir gàn Dduw.
16-17Yr oedd gènych y gyfraith a’r proffwydi hyd ddyfodiad Ioan; èr amser hwnw y cyhoeddir teyrnas Duw, a phob deiliad sydd yn myned i fewn iddi drwy drais. Ond cynt y darfydda nef a daiar, nag y bydd i un tipyn o’r gyfraith ballu.
18Pwybynag á ysgaro ei wraig, ac á gymero un arall, y mae efe yn godinebu; a phwybynag á briodo yr hon à ysgarwyd, y mae efe yn godinebu.
19-31Yr oedd rhyw ŵr goludog, yr hwn á wisgai borphor a llian main, ac á gỳmerai fyd da yn helaethwych beunydd. Yr oedd hefyd ddyn tylawd a’i enw Lazarus, yn friwiau i gyd drosto, gwedi ei ddodi wrth ei borth ef; ac á chwennychai gael ei borthi â’r briwsion à syrthient oddar fwrdd y gŵr cyfoethog; ië, hyd yn nod y cwn á ddaethant ac á lyfasant ei friwiau ef. A bu i’r dyn tylawd farw, a chael ei ddwyn gàn angylion i fynwes Abraham: y goludog hefyd á fu farw, ac á gladdwyd. Ac yn hades, ac efe mewn poenau, efe á gododd ei olwg, ac á ganfu Abraham o hirbell, a Lazarus yn ei fynwes, ac á lefodd, gàn ddywedyd, O dad Abraham, trugarâa wrthyf, ac anfon Lazarus i drochi pen ei fys mewn dwfr, ac oeri fy nhafod; canys fe ’m poenir yn y fflam hon. Abraham á atebodd, Fab, cofia i ti, yn dy fywyd, dderbyn pethau da, ac i Lazarus dderbyn pethau drwg; ond yn awr y mae efe mewn llawenydd, a thithau mewn poenau. Heblaw hyn oll, rhyngom ni a chwithau y sicrâwyd gagendor mawr, fel na allo y rhai á fỳnent, dramwy oddyma atoch chwi; na’r sawl à fỳnent dramwy oddyna atom ni. Y llall á adatebodd, Yr wyf yn attolwg i ti, gàn hyny, O dad, ei ddanfon ef i dŷ fy nhad; canys y mae gènyf bump o frodyr, fel y rhybyddio efe hwynt, rhag dyfod o honynt hwythau hefyd i’r arteithfa hon. Abraham á atebodd, Y mae ganddynt Foses a’r Proffwydi; gwrandawant arnynt hwy. Na, meddai yntau, y tad Abraham, eithr pe bai un oddwrth y meirw yn myned atynt, hwy á ddiwygient. Abraham á adatebodd, Oni wrandawant ár Foses a’r Proffwydi, ni ddarbwyllid hwynt ychwaith, pe codai un oddwrth y meirw.
Dewis Presennol:
Luwc 16: CJW
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Yr Oraclau Bywiol gan John Williams 1842. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.