Yr oedd rhyw ŵr goludog, yr hwn á wisgai borphor a llian main, ac á gỳmerai fyd da yn helaethwych beunydd. Yr oedd hefyd ddyn tylawd a’i enw Lazarus, yn friwiau i gyd drosto, gwedi ei ddodi wrth ei borth ef; ac á chwennychai gael ei borthi â’r briwsion à syrthient oddar fwrdd y gŵr cyfoethog; ië, hyd yn nod y cwn á ddaethant ac á lyfasant ei friwiau ef. A bu i’r dyn tylawd farw, a chael ei ddwyn gàn angylion i fynwes Abraham: y goludog hefyd á fu farw, ac á gladdwyd. Ac yn hades, ac efe mewn poenau, efe á gododd ei olwg, ac á ganfu Abraham o hirbell, a Lazarus yn ei fynwes, ac á lefodd, gàn ddywedyd, O dad Abraham, trugarâa wrthyf, ac anfon Lazarus i drochi pen ei fys mewn dwfr, ac oeri fy nhafod; canys fe ’m poenir yn y fflam hon. Abraham á atebodd, Fab, cofia i ti, yn dy fywyd, dderbyn pethau da, ac i Lazarus dderbyn pethau drwg; ond yn awr y mae efe mewn llawenydd, a thithau mewn poenau. Heblaw hyn oll, rhyngom ni a chwithau y sicrâwyd gagendor mawr, fel na allo y rhai á fỳnent, dramwy oddyma atoch chwi; na’r sawl à fỳnent dramwy oddyna atom ni. Y llall á adatebodd, Yr wyf yn attolwg i ti, gàn hyny, O dad, ei ddanfon ef i dŷ fy nhad; canys y mae gènyf bump o frodyr, fel y rhybyddio efe hwynt, rhag dyfod o honynt hwythau hefyd i’r arteithfa hon. Abraham á atebodd, Y mae ganddynt Foses a’r Proffwydi; gwrandawant arnynt hwy. Na, meddai yntau, y tad Abraham, eithr pe bai un oddwrth y meirw yn myned atynt, hwy á ddiwygient. Abraham á adatebodd, Oni wrandawant ár Foses a’r Proffwydi, ni ddarbwyllid hwynt ychwaith, pe codai un oddwrth y meirw.