Efe á ddywedodd hefyd, Yr oedd gàn ryw ŵr ddau fab. A’r ieuach o honynt á ddywedodd wrth ei dad, Fy nhad, dyro i mi fy nghyfran o’r da. Yntau á ddosbarthodd iddynt eu rhànau. Yn mhen ychydig wedi, y mab ieuach á gasglodd y cwbl yn nghyd, ac á gymerodd ei daith i wlad bell, ac yno efe á wastraffodd ei eiddo mewn gloddestrwydd. Wedi iddo dreulio y cwbl, y cododd newyn mawr drwy y wlad hòno, ac yntau á ddechreuodd fod mewn eisieu. Yna efe á aeth ac á lynodd wrth un o breswylwyr y wlad hòno, yr hwn á’i hanfonodd iddei feusydd i gadw moch. Ac efe a chwennychai dòri ei newyn â’r cibau à fwytäai y moch; herwydd nid oedd neb yn rhoddi dim iddo. O’r diwedd, pan ddaeth ato ei hun, efe á ddywedodd, Pa sawl gwas cyflog o’r eiddo fy nhad sydd yn cael eu gwala a’u gweddil o fara, a minnau yn marw o newyn! Mi á godaf ac á af at fy nhad, ac á ddywedaf wrtho, Fy nhad, pechais yn erbyn y nef a thithau, a mwyach nid ydwyf deilwng i’m galw yn fab i ti; gwna fi fel un o’th weision cyflog. Ac efe á gododd ac á aeth at ei dad. A phan oedd efe eto yn mhell oddwrtho; ei dad á’i canfu ef, ac á dosturiodd, ac á redodd ac á syrthiodd àr ei wddf ef, ac á’i cusanodd. A’r mab á ddywedodd, Fy nhad, pechais yn erbyn y nef a thithau, a mwyach nid ydwyf deilwng i’m galw yn fab i ti. Ond y tad á ddywedodd wrth ei weision, Dygwch yma y wisg bènaf, a gwisgwch am dano ef, a rhoddwch fodrwy àr ei fys, ac esgidiau am ei draed; dygwch hefyd y llo pasgedig, a lleddwch ef; a bwytawn a byddwn lawen; canys fy mab hwn oedd farw, ac aeth yn fyw drachefn; efe á gollesid, ac á gaed. Felly hwy á ddechreuasant fod yn llawen.