Wrth sylwi mòr awyddus oedd y gwesteion i gael y lleoedd uchaf wrth y bwrdd, efe á roddes iddynt yr archeb yma; Pan yth wahodder i neithior, na chỳmer y lle uchaf wrth y bwrdd, rhag bod un anrhydeddusach na thi gwedi ei wahodd, ac i’r hwn à’ch gwahoddodd ill dau ddyfod a dywedyd wrthyt, Dyro le i hwn; ac yna i tithau, drwy gywilydd, gyfodi i gymeryd y lle isaf. Ond pan yth wahodder, dos i’r lle isaf, fel pan ddelo yr hwn à’th wahoddodd di, y gallo efe ddywedyd wrthyt, Gyfaill, dos yn uwch i fyny; oblegid bydd hyny yn anrhydedd i ti yn ngwydd y rhai à fyddont gyda thi wrth y bwrdd. Canys pwybynag à’i dyrchafo ei hun, á ostyngir; a phwybynag á’i gostyngo ei hun, á ddyrchefir.
Darllen Luwc 14
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Luwc 14:7-11
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos