Yr oedd yn bresennol y cyfamser hwnw, rai yn mynegi i Iesu am y Galileaid, y rhai y cymysgasai Pilat eu gwaed yn nghyd a’r eiddo eu haberthau. Iesu gàn ateb, á ddywedodd wrthynt, A ydych chwi yn tybied mai y Galileaid hyn oeddynt y pechaduriaid mwyaf yn holl Alilea, am iddynt ddyoddef y cyfryw driniaeth? Nage, meddaf i chwi; eithr oni ddiwygiwch, chwi á ddyfethir oll yn yr un modd; – neu y deunaw hyny, àr y rhai y syrthiodd y tŵr yn Siloam, ac á ’u lladdodd hwynt; a ydych chwi yn tybied mai hwy oeddynt y dyhirod gwaethaf yn Nghaersalem? Nage, meddaf i chwi; eithr oni ddiwygiwch, chwi á ddyfethir oll yn yr un modd.
Darllen Luwc 13
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Luwc 13:1-5
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos