Logotip YouVersion
Search Icon

Matthew Lefi 20

20
1-16Canys Gweinyddiaeth y Nefoedd a fydd debyg i ymddygiad meistr tŷ, yr hwn á aeth allan yn gynnar yn y bore i gyflogi llafurwyr iddei winllan. Wedi cyduno â rhai èr ceiniog y dydd, efe á’u hanfonodd hwynt iddei winllan. Yn nghylch y drydedd awr, efe á aeth allan, ac wrth weled ereill yn segur yn y farchnadfa, á ddywedodd wrthynt, Ewch chwithau i’m gwinllan, a mi á roddaf i chwi y peth sy resymol. Yn ganlynol, hwy á aethant. Darchefn, yn nghylch y chwechfed awr, ac yn nghylch y nawfed, efe á aeth allan, ac á wnaeth yr un modd. Yn ddiweddaf, yn nghylch yr unfed awr àr ddeg, efe á aeth allan, ac wrth ganfod ereill yn sefyll, á ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn sefyll yma àr hyd y dydd heb wneuthur dim? Hwy á atebasant, Am na chyflogodd neb ni. Yntau á ddywedodd wrthynt, Ewch chwithau hefyd i’m gwinllan, a chwi á dderbyniwch y peth sy resymol. Pan ddaeth y nos, perchenog y winllan á ddywedodd wrth ei oruchwyliwr, Galw y llafurwyr, a thal eu cyflog iddynt, gàn ddechreu gyda ’r rhai olaf, a diweddu gyda’r rhai blaenaf. Yna y rhai à gyflogasid àr yr unfed awr àr ddeg, á ddaethant ac á dderbyniasant bob un geiniog. Pan ddaeth y rhai cyntaf, hwy á dybiasant y derbynient fwy; ond ni chawsant ond pob un geiniog. Wedi ei derbyn, grwgnach á wnaethant yn erbyn meistr y tŷ, gàn ddywedyd, Ni weithiodd y rhai olaf hyn ond un awr; eto ti á’u gwnaethost hwynt gystal â ninnau, y rhai á ddygasom bwys y dydd a’r gwres. Yntau gàn ateb, á ddywedodd wrth un o honynt, Gyfaill, nid ydwyf yn gwneuthur cam â thi. Onid èr ceiniog y cydunaist â mi? Cymer yr hyn sydd eiddot, a dos ymaith. Yr wyf yn ewyllysio rhoddi i’r olaf hwn gymaint ag i tithau. Ac onid allaf wneuthur à fỳnwyf â’r eiddof fy hun? A ydyw dy lygad di yn ddrwg, am fy mod i yn dda? Felly y rhai olaf fyddant flaenaf, a’r rhai blaenaf yn olaf; canys y mae llawer wedi eu galw, ond ychydig wedi eu dewis.
DOSBARTH XI.
Y Mynediad i fewn i Gaersalem.
17-19Pan oedd Iesu àr y ffordd i Gaersalem, efe á gymerodd y deg a dau ddysgybl o’r neilldu, ac á ddywedodd wrthynt, Yr ydym yn awr yn myned i Gaersalem, lle y traddodir Mab y Dyn i’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, y rhai á’i collfarnant ef i farw, ac á’i traddodant i’r cenedloedd iddei watwar a’i fflangellu, a’i groeshoelio; ond y trydydd dydd efe á adgyfyd.
20-23Yna mam meibion Zebedëus á ddaeth ato gyda ’i meibion, a chàn ymgrymu, á ddeisyfodd arno ganiatâu iddi ei dymuniad. Yntau á ddywedodd wrthi, Beth yr wyt yn ei ewyllysio? Hithau á atebodd, Bod yn dy Deyrnasiad, i un o’m meibion hyn gael eistedd àr dy ddeheulaw, y llall àr dy aswy. Iesu gàn ateb, á ddywedodd, ni wyddoch beth yr ydych yn ei ofyn. A allwch chwi yfed y fath gwpan, ag sy raid i mi ei hyfed? Dywedasant wrtho, Gallwn. Yntau á atebodd, Chwi á yfwch yn wir y fath gwpan. Ond eistedd àr fy neheulaw, ac àr fy aswy, nis gallaf ei roddi, ond i’r sawl y darparwyd iddynt gàn fy Nhad.
24-28Y deg, wedi clywed hyn, á sòrasant wrth y ddau frawd; ond Iesu á’u galwodd hwynt ato, ac á ddywedodd, Chwi á wyddoch bod tywysogion y cenedloedd yn tra‐arglwyddiaethu arnynt, a’r mawrion yn tra‐awdurdodi arnynt. Nid felly y bydd yn eich plith chwi; yn y gwrthwyneb, pwybynag á fỳno fod yn fawr yn eich plith chwi, bydded yn weinidog i chwi; a phwybynag á fỳno fod yn bènaf yn eich plith, bydded yn was i chwi: megys y daeth Mab y Dyn, nid iddei wasanaethu, ond i wasanaethiu, ac i roddi ei einioes yn bridwerth dros lawer.
29-34Fel yr oeddynt yn gadael Iericho, yn cael eu dylyn gàn dyrfa fawr, dau o ddeillion, à eisteddent wrth ymyl y ffordd, wedi clywed bod Iesu yn myned heibio, á lefasant, gàn ddywedyd, Feistr, Fab Dafydd, tosturia wrthym. Y dyrfa á’u ceryddodd hwynt i dewi; hwythau á waeddasant yn uwch, gàn ddywedyd, Feistr, Fab Dafydd, tosturia wrthym. Yna Iesu á safodd, á’u galwodd hwynt ac á ddywedodd, Beth sydd arnoch eisieu i mi ei wneuthur i chwi? Hwythau á atebasant, Syr, gwneuthur i ni weled. Iesu á dosturiodd, ac á gyfhyrddodd â’u llygaid hwynt. Yn ddiattreg hwy á gawsant olwg, ac á’i canlynasant ef.

Currently Selected:

Matthew Lefi 20: CJW

Označeno

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in