Matthew Lefi 21

21
1-11Pan oeddynt yn agos i Gaersalem, wedi dyfod i Fethphage, gèr mynydd yr Oleẅwydd, Iesu á ddanfonodd ddau o’i ddysgyblion, gàn ddywedyd, Ewch i’r pentref sy gyferbyn â chwi, lle y cewch asen wedi ei rhwymo, a’i hebol gyda hi; gollyngwch hwynt, a dygwch hwynt yma. Os dywed neb ddim wrthych, dywedwch bod àr eich Meistr eu heisieu hwynt, ac efe á’u henfyn hwynt yn uniawn. A hyn oll á wnaethwyd, fel y cyflawnid geiriau y Proffwyd, “Dywedwch wrth ferch Seion, Wele y mae dy Frenin yn dyfod atat yn addfwyn, yn marchogaeth àr asen, sef llwdn anifail gweithio!” Yn ganlynol, y dysgyblion á aethant, a gwedi gwneuthur fel y gorchymynasai Iesu iddynt, á ddygasant yr asen a’r ebol, a gwedi eu gorchuddio â’u mantelli, á wnaethant iddo farchogaeth. A’r rhan fwyaf á daenasant eu mantelli àr y ffordd, ereill á dòrasant gangau o’r gwŷdd, ac á’u taenasant àr hyd y ffordd, tra yr oedd y dyrfa oedd yn myned o’r blaen, a’r hon oedd yn canlyn, yn gawrfloeddio, gàn ddywedyd, Hosanna i Fab Dafydd! Bendigedig fyddo yr Hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd! Hosanna yn y goruchafion. Pan aeth efe i fewn i Gaersalem, yr holl ddinas á derfysgodd, pawb yn gofyn, Pwy yw hwn? Y dyrfa á atebodd, Iesu y Proffwyd o Nasareth yn Ngalilëa.
12-17Yna yr aeth Iesu i fewn i deml Duw, ac á ỳrodd allan oddyno bawb à werthent ac à brynent yn y deml, ac á ddymchwelodd fyrddau y newidwyr arian, ac ystalon y rhai à werthent golomenod, ac á ddywedodd wrthynt, Ysgrifenedig yw, “Tỳ gweddi y gelwir fy nhŷ i, ond chwi á’i gwnaethoch yn ffau ysbeilwyr.” Yna daeth y deillion a’r cloffion ato yn y deml, ac efe á’u hiachâodd hwynt. Eithr yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, wrth weled y rhyfeddodau à wnaethai efe, a’r bechgyn yn llefain yn y deml, Hosanna i Fab Dafydd, á ddywedasant wrtho gyda digllonrwydd, A wyt ti yn clywed beth y mae y rhai hyn yn ei ddywedyd? Iesu á atebodd, Ydwyf. Oni ddarllenasoch chwi erioed, “O enau mabanod a rhai yn sugno y perffeithiaist foliant.” A gwedi eu gadael hwynt, efe á aeth allan o’r ddinas i Fethania, lle yr arosodd efe y noson hòno.
18-22Wrth ddychwelyd i’r ddinas yn y bore, yr oedd arno eisieu bwyd, a gwedi gweled ffigysbren unig wrth y ffordd, efe á aeth ato; ond wrth ganfod dim ond dail arno, á ddywedodd, Na thyfed ffrwyth arnat ti o hyn allan. A’r ffigysbren á wywodd yn ebrwydd. Pan welai y dysgyblion ef, dywedasant dàn sỳnu, Mòr ebrwydd y gwywodd y ffigysbren! Iesu á atebodd, Yn wir, meddaf i chwi, pe byddai genych ffydd ddiysgog, gallech wneyd nid yn unig gymaint ag á wnaethwyd i’r ffigysbren, ond pe dywedech wrth y mynydd hwn, Coder di i fyny, a thafler di i’r môr, hyny á fyddai. Bethbynag á ofynwch mewn gweddi, gàn gredu, chwi á’i derbyniwch.
23-27Gwedi dyfod o hono i’r deml, yr archoffeiriaid a henuriaid y bobl á nesasant, fel yr oedd efe yn dysgu, ac á ddywedasant, Drwy ba awdurdod yr wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn? a phwy á roddodd i ti yr awdurdod hwn? Iesu gàn ateb, á ddywedodd wrthynt, Y mae genyf finnau holiad iddei gynyg, yr hwn os atebwch fi, mi á ddywedaf i chwi drwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn. O ba le y cafodd Iöan awdurdod i drochi? Ai o’r nef, ynte oddwrth ddynion? Yna yr ymresymasant fel hyn ynynt eu hunain: Os dywedwn, O’r nef, efe á wrtheba, Paham, gàn hyny, na chredasech ef? Ac os dywedwn, Oddwrth ddynion, y mae arnom ofn y lliaws, yn mhlith y rhai y cyfrifir Iöan yn gyffredinol megys Proffwyd. Am hyny, hwy á’i hatebasant ef, Nis gwyddom. Iesu á atebodd, Nid wyf finnau yn dywedyd i chwi, drwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.
28-32Ond beth dybygwch chwi am hyn? Yr oedd gàn ŵr ddau fab, ac efe á ddywedodd wrth ei fab hynach, Fab, dos gweithia heddyw yn fy ngwinllan. Yntau á atebodd, Nac af, ond wedi hyny á edifarâodd ac á aeth. Yna y dywedodd efe wrth yr ieuengach am wneuthur yr un modd. Yntau á atebodd, Yn ebrwydd, Syr, ond nid aeth. Yn awr, pa un o’r ddau á ufyddâodd iddei dad? Dywedasant, Y cyntaf. Iesu á atebodd, Yn wir, meddaf i chwi, y mae hyd yn nod y tollwyr a’r puteiniaid yn dangos i chwi y ffordd i deyrnas Duw. Canys daeth Iöan atoch yn ffordd santolaeth, a ni chredasoch ef; ond y tollwyr a’r puteiniaid á’i credasant ef; chwithau gwedi gweled hyn, nid edifarasoch wedi hyny, a’i gredu ef.
33-41Gwrandewch ddameg arall; meistr tir á blànodd winllan, ac á gaeodd o’i hamgylch, ac á gloddiodd winsang ynddi, ac á adeiladodd dŵr; a gwedi ei gosod hi i lafurwyr, á aeth oddicartref. Pan nesâodd amser gwinaethu, efe á ddanfonodd ei weision at y llafurwyr i dderbyn y ffrwythau. Ond hwy á ddaliasant ei weision ef, á gurasant un, á ỳrasant un arall ymaith â chèryg, ac a laddasant un arall. Drachefn, efe á ddanfonodd weision ereill mwy parchus; ond hwythau á gawsant yr un driniaeth. Yn ddiweddaf, efe á ddanfonodd ei fab atynt; canys efe á ddywedodd, Hwy á barchant fy mab. Ond pan welodd y llafurwyr y mab, hwy á ddywedasant yn eu plith eu hunain, Dyma yr etifedd, deuwch, lladdwn ef, a chadẅwn feddiant o’i etifeddiaeth ef. Yna y daliasant ef, á’i bwriasant allan o’r winllan, ac á’i lladdasant. Gan hyny, pan ddel perchenog y winllan, pa beth á wna efe i’r llafurwyr hyny? Hwythau á atebasant, Efe á ddyry yr adynod hyny i farwolaeth resynus, ac á esyd y winllan i ereill, à roddant iddo y ffrwythau yn y tymmor.
42-44Iesu á atebodd, Oni ddarllenasoch chwi erioed yn yr ysgrythyrau, “Maen à wrthododd yr adeiladwyr á wnaed yn ben y gongl. Hyn á wnaeth yr Arglwydd, a rhyfedd yw yn ein golwg ni.” Gwybyddwch, gàn hyny, y dygir teyrnas Duw oddarnoch chwi, ac y rhoddir hi i genedl à ddwg ei ffrwythau. Canys pwy bynag á syrthio àr y maen hwn, á falurir; ond àr bwybynag y syrthio y maen hwn, efe a’i mâl ef yn chwilfriw.
45-46Yr archoffeiriaid a’r Phariseaid, wedi clywed ei ddamegion ef, á wybuant mai am danynt hwy yr oedd efe yn llefaru; ond èr eu bod yn ewyllysio ei ddal ef, yr oedd arnynt ofn y werin, y rhai á’i cyfrifent ef megys proffwyd.

Currently Selected:

Matthew Lefi 21: CJW

Označeno

Deli

Kopiraj

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in