Matthew Lefi 19
19
DOSBARTH X.
Ceiseb y Goludog.
1-2Pan orphenasai Iesu yr ymadrawdd hwn, efe á adawodd Alilea, ac á ddaeth i gyffiniau Iuwdea, àr yr Iorddonen, a thyrfëydd mawrion á’i dylynasant ef yno, ac efe á iachâodd eu cleifion hwynt.
3-12Yna rhyw Phariseaid á ddaethant ato, a chán ei brofi, á ofynasant, A all dyn yn gyfreithlawn, am bob ffugesgus, ysgaru ei wraig? Yntau á atebodd, Oni ddarllenasoch, ddarfod, yn y dechreuad, pan wnaeth y Crëawdwr ddyn, iddo lunio gwryw a benyw, a dywedyd, “O herwydd hyn y gedy dyn dad a mam, ac y glŷn wrth ei wraig, a hwy fyddant ill dau yn un cnawd.” Oblegid hyny, nid ydynt mwy yn ddau ond yn un cnawd. Yr hyn, gàn hyny, á gyssylltodd Duw, na wahaned dyn. Hwythau á atebasant, Paham ynte y gorchymynodd Moses roddi llythyr ysgar iddi, a’i gollwng ymaith? Yntau á atebodd, Moses, yn wir, oblegid eich tuedd anhydrin, á oddefodd i chwi ysgaru eich gwragedd; ond, o’r dechreuad, nid felly yr oedd. Am hyny, yr wyf yn dywedyd i chwi, bod pwybynag á ysgaro ei wraig, ond o achos puteindra, ac á briodo un arall, yn gwneuthur godineb; a phwybynag á briodo yr ysgaredig, y mae efe yn godinebu. Ei ddysgyblion á ddywedasant wrtho, Os dyna yw sefyllfa y gwr, gwell yw byw heb briodi. Yntau á atebodd, Hwynthwy yn unig á allant fyw fel hyn, i’r rhai y rhoddwyd y gallu. Oblegid y mae rhai yn ddysbeiddiaid o’u genedigaeth; ereill á wnaethwyd gàn ddynion yn ddysbeiddiaid; ac ereill, èr mwyn teyrnas y nefoedd, á wnaethant eu hunain yn ddysbeiddiaid. Y sawl à allo wneuthur hyn, gwnaed.
13-15Yna y cyflwynwyd plant iddo, fel y gosodai ei ddwylaw arnynt, a gweddio; ond y dysgyblion á’u ceryddasant hwynt. Iesu á ddywedodd, Gadewch i’r plant, a na rwystrwch iddynt ddyfod ataf fi; canys eiddo y cyfryw rai yw teyrnas y nefoedd. A gwedi dodi ei ddwylaw arnynt, efe á ymadawodd oddyno.
16-22Gwedi hyny, un gàn ddynesu, á ddywedodd wrtho, Athraw da, pa dda sy raid i mi wneuthur i gael bywyd tragwyddol? Yntau á atebodd, Paham y gelwi fi yn dda? Duw yn unig sy dda. Os mỳni fyned i fewn i’r bywyd hwnw, cadw y gorchymynion. Dywedodd yntau wrtho, Pa rai? Iesu á atebodd, “Na lofruddia. Na odineba. Na ladrata. Na chamdystiolaetha. Anrhydedda dad a mam; a char dy gymydog fel ti dy hun.” Y gwr ieuanc á atebodd, Mi á gedwais y rhai hyn oll o’m hieuenctid. Yn mha beth yr wyf eto yn ddiffygiol? Iesu á atebodd, Os mỳni fod yn berffaith, dos gwerth dy feddiannau, a dyro y gwerth i’r tylodion, a thi á gai drysor yn y nef; yna dyred a chanlyn fi. Y gwr ieuanc, wedi clywed hyn, á aeth ymaith yn athrist, oblegid yr oedd ganddo feddiannau lawer.
23-25Yna Iesu á ddywedodd wrth ei ddysgyblion, Yn wir, meddaf i chwi, peth anhawdd yw i oludog fyned i fewn i deyrnas y nefoedd: dywedaf, yn mhellach, haws yw i gammarch fyned drwy grai nydwydd, nag i oludog fyned i fewn i deyrnas Duw. Y dysgyblion, y rhai á glywsent hyn gyda syndod, á ddywedasant, Pwy, gàn hyny, a ddichon fod yn gadwedig? Iesu, gwedi edrych arnynt, á atebodd, Gyda dynion annichon yw hyn, ond gyda Duw pob peth sy ddichonadwy.
26-30Yna Pedr gàn ateb, á ddywedodd, Am danom ni, nyni á adawsom bob peth, ac á’th ganlynasom di; beth gàn hyny fydd ein gobr? Iesu a atebodd, Yn wir, meddaf i chwi, yn yr Adnewyddiad, pàn seddir Mab y Dyn àr ei orsedd ogoneddfawr, cewch chwi, fy nghanlynwyr, eistedd àr ddeg a dwy orsedd, yn barnu deg a dau lwyth Israel. A phwybynag á adawo dai, neu frodyr, neu chwiorydd, neu dad, neu fam, neu wraig, neu blant, neu diroedd, o’m hachos, i, á dderbyn gànn cymaint, a bywyd tragwyddol á etifedda efe. Ond llawer o’r rhai olaf fyddant yn flaenaf, ac o’r rhai blaenaf yn olaf.
Currently Selected:
Matthew Lefi 19: CJW
Označeno
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Yr Oraclau Bywiol gan John Williams 1842. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.