Logotip YouVersion
Search Icon

Matthew Lefi 18

18
1-6Y pryd hwnw y dysgyblion á ddaethant at Iesu gàn ofyn, Pwy fydd y mwyaf yn Nheyrnasiad y Nefoedd? Iesu á alwodd ato blentyn, ac á’i gosododd ef yn eu canol hwynt, ac á ddywedodd; Yn wir, meddaf i chwi, oddeithr eich cyfnewid, a’ch gwneuthur fel plant, nid ewch chwi byth i fewn i deyrnas y nefoedd. Pwybynag, gàn hyny, á ddelo yn ostyngedig fel y plentyn hwn, á fydd fwyaf yn Ngheyrnasiad y Nefoedd. Na, pwybynag á dderbynio un cyfryw blentyn, yn fy enw i, á’m derbyn i: ond pwybynag á faglo un o’r rhai bychain hyn, á gredant ynof fi, gwell fyddai iddo pe crogid maen uchaf melin o gylch ei wddf, a’i suddo yn yr eigion.
7-14Gwae y byd oblegid maglau! Maglau yn wir raid fod; èr hyny, gwae y maglwr! Am hyny, os dy law neu dy droed á’th fagla, tòr o ymaith, a thafl oddwrthyt: gwell i ti fyned i fewn i’r bywyd yn gloff neu yn anafus, nag â chenyt ddwy law neu ddau droed dy daflu i’r tân tragwyddol. Ac os dy lygad á’th fagla, tỳn o allan, a thafl oddwrthyt: gwell i ti fyned i fewn i’r bywyd yn unllygeidiog, nag â dau lygad genyt, dy daflu i dân uffern. Edrychwch na ddirmygoch yr un o’r rhai bychain hyn: canys yr wyf yn sicrâu i chwi, bod eu hangylion hwy, yn y nefoedd, yn wastad yn gweled wyneb fy Nhad nefol; a daeth Mab y Dyn i gadw yr hyn à gollasid. Beth dybygwch chwi? Pe byddai gàn ddyn gant o ddefaid, a chyfeiliorni o un o honynt, oni âd efe y nawdeg a naw àr y mynyddoedd, a myned i chwilio am y gyfeiliornedig? Ac os dygwydd iddo ei chael hi, y mae yn cael llawenydd mwy oddwrth hòno, nag oddwrth y nawdeg a naw y rhai nad aethant àr gyfeiliorn. Felly nid yw ewyllys eich Tad yn y nefoedd, gyfrgolli yr un o’r rhai bychain hyn.
15-18Am hyny, os trosedda dy frawd yn dy erbyn, dos ac argyhoedda ef rhyngot ti ag ef ei hun. Os gwrendy efe arnat, ti á ennillaist dy frawd; ond os efe ni wrendy, cymer un neu ddau gyda thi, fel drwy dystiolaeth dau neu dri o dystion y sicrâer pob peth. Os diystyra efe hwynt, dywed i’r gynnulleidfa; ac os diystyra efe y gynnulleidfa hefyd, bydded ef i ti fel pagan neu dollwr. Yn wir, meddaf i chwi, bethbynag á rwymoch àr y ddaiar, á fydd rwymedig yn y nef; a phethbynag á ryddâoch àr y ddaiar, á fydd wedi ei ryddâu yn y nef.
19-20Drachefn, yr wyf yn dywedyd wrthych, bethbynag y cyduna dau o honoch àr y ddaiar iddei ofyn, á ganiatêir iddynt gàn fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd. Canys llebynag y mae dau neu dri gwedi ymgynnull yn fy enw, yr ydwyf yn eu canol hwynt.
21-22Yna Pedr gàn ddynesu, á ddywedod wrtho, Feistr, os trosedda fy mrawd yn fynych yn fy erbyn, pa sawl gwaith y rhaid i mi faddau iddo? á raid i mi seithwaith? Iesu á atebodd, Yr wyf yn dywedyd wrthyt, nid seithwaith, ond seithddengwaith seithwaith.
23-35Yn hyn y mae Gweinyddiaeth y Nef yn debyg i frenin, yr hwn á benderfynai wneuthur cyfrif â’i weision. Wedi dechreu cyfrif, dygwyd un yr hwn oedd yn ei ddyled ef o ddeng mil o dalentau. Ond gàn na feddai y gwas hwnw fodd i dalu; ei feistr, i gael tâl, á orchymynodd ei werthu ef, a’i wraig, a’i blant, a’r cwbl à feddai. Yna y gwas, wedi syrthio i lawr, á ymgrymodd o flaen ei feistr, ac á lefodd, Bydd ymarôus wrthyf, fy arglwydd, a mi â dalaf i ti y cydawl. A’i feistr á dosturiodd wrtho, ac a’i gollyngodd ymaith, gàn faddau y ddyled. Ond y gwas hwn, wrth fyned allan, á gyfarfu ág un o’i gydweision, yr hwn oedd yn ei ddyled ef o gànn ceiniog, ac a’i llindagodd ef, gàn ddywedyd, Tal i mi yr hyn sy ddyledus arnat. Ei gydwas, gàn syrthio i lawr, á ymbiliodd ag ef, gàn ddywedyd, Bydd ymarôus wrthyf, a mi á dalaf i ti. A ni wnai efe, ond yn ddiannod á berodd ei garcharu ef, hyd oni thalai y ddyled. Pan welodd ei gydweision hyn, bu ddrwg dros ben ganddynt, a hwy á aethant, ac á fynegasant iddeu meistr yr hyn oll à ddygwyddasai. Yna ei feistr, wedi peri ei alw ef, á ddywedodd wrtho, Tydi was drygionus: mi á faddeuais i ti yr holl ddyled hòno am i ti ymbil â mi. Oni ddylesit tithau dosturio yr un modd wrth dy gydwas, ag y tosturiais innau wrthyt ti? Felly ei feistr, wedi digio, á’i traddododd ef i’r #18:23 Ceidwaid carchar, jailers.geolwyr, i aros yn eu dwylaw hyd oni thalai y ddyled. Felly y gwna fy Nhad nefol i bob un o honoch chwithau, na faddeuo o’i galon iddei frawd.

Currently Selected:

Matthew Lefi 18: CJW

Označeno

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in