Matthew Lefi 17
17
1-8Ar ol chwe diwrnod, Iesu á gymerodd Bedr, ac Iägo, ac Iöan brawd Iägo, o’r neilldu i ben mynydd uchel, ac á weddnewidiwyd yn eu gwydd hwynt. Ei wyneb á ddysgleiriai fel yr haul; a’i ddillad oedd cỳn wỳned â’r goleuni. Ac yn ebrwydd yr ymddangosodd iddynt Moses ac Elias yn ymddyddan ag ef. Pedr, àr hyn, gàn gyfarch Iesu, á ddywedodd, Feistr, da yw i ni aros yma; gwnawn yma, os mỳni, dri bwth; un i ti, ac un i Foses, ac un i Elias. Tra y llefarai efe, wele! cwmwl goleu á’u cysgododd hwynt, ac allan o’r cwmwl y daeth llef, yr hon á ddywedai, Hwn yw fy Mab, yr anwylyd, yn yr hwn yr ymhyfrydwyf; gwrandewch arno ef. Y dysgyblion wedi clywed hyn, á syrthiasant àr eu hwynebau, ac á ddychrynasant yn ddirfawr. Ond Iesu á ddaeth ac á gyfhyrddodd â hwynt, gàn ddywedyd, Cyfodwch; nac ofnwch. Yna gwedi codi eu golygon i fyny, ni welent neb ond Iesu.
9-13Fel yr oeddynt yn myned i waered o’r mynydd, Iesu á orchymynodd iddynt, gàn ddywedyd, Na fynegwch i neb beth á welsoch, hyd oni chyfodo Mab y Dyn oddwrth y meirw. Yna y dysgyblion á ofynasant iddo, gàn ddywedyd, Paham y dywed yr ysgrifenyddion bod yn raid i Elias ddyfod yn gyntaf? Iesu gàn ateb, á ddywedodd wrthynt, Er cwblâu y cyfan, rhaid i Elias, yn wir, ddyfod yn gyntaf. Ond yr wyf yn dywedyd wrthych ddyfod o Elias eisioes, èr nad addefasant ef, ond á wnaethant iddo fel yr oeddynt yn gweled yn dda. Felly y gwnant i Fab y Dyn hefyd. Yna y dysgyblion á ddëallasant mai am Iöan y Trochiedydd yr oedd efe yn llefaru.
14-18Gwedi eu dyfod at y dyrfa, daeth ato ddyn, yr hwn, gàn benlinio, á ddywedodd, Syr, tosturia wrth fy mab; oblegid y mae yn cael ei boeni yn dost gàn loerigrwydd; mynych y syrthia i’r tân, a mynych i’r dwfr, a mi a’i cyflwynais ef i dy ddysgyblion; ond ni allasent hwy ei iachâu ef. Iesu gàn ateb, á ddywedodd, O genedlaeth annghrediniol a throfâus! Pa hyd y byddaf gyda chwi? pa hyd y goddefaf chwi? Dygwch ef yma ataf fi. Yna Iesu á geryddodd y cythraul, ac efe á ddaeth allan; a’r bachgen á iachâwyd yn y màn.
19-21Yna y dysgyblion á ddaethant ato o’r neilldu, gàn ddywedyd, Paham nad allasem ni fwrw y cythraul hwn allan? Iesu á atebodd, O herwydd eich hannghrediniaeth; canys, yn wir, yr wyf yn dywedyd wrthych; pe byddai genych ffydd, ond fel gronyn o had cethw, gallech ddywedyd wrth y mynydd hwn, Symud i’r fàn yna, ac efe á symudai: ïe, ni byddai dim yn annichon i chwi. Y rhywogaeth hyn, pa fodd bynag, nid â allan, ond drwy weddi ac ympryd.
22-23Tra yr arosent yn Ngalilea, Iesu á ddywedodd wrthynt, Mab y Dyn á draddodir i ddwylaw dynion, y rhai á’i lladdant ef: ond y trydydd dydd efe á gyfodir drachefn. Hwythau á dristâasant yn ddirfawr.
24-27Gwedi eu dyfod i Gapernäum, y casglyddion á ddaethant at Bedr, ac á ddywedasant, Onid yw eich athraw chwi yn talu y #17:24 Dau ddrachma; yn nghylch pymtheg ceiniog.didrachma? Yntau á ddywedodd, Ydyw. Gwedi ei ddyfod i’r tŷ, cyn iddo siared, Iesu a ddywedodd wrtho, Beth yw dy farn di, Simon? Oddar bwy y mae breninoedd y ddaiar yn codi teyrnged neu dreth? oddar eu meibion eu hunain, ynte oddar ereill? Pedr á atebodd, Oddar ereill. Iesu á atebodd, Gan hyny, y mae y meibion yn ryddion. Er hyny, rhag i ni roddi tramgwydd iddynt, dos i’r môr a thafl linyn, tyn allan y pysgodyn cyntaf à facher, a gwedi agoryd ei safn, ti á gai #17:24 Dau ddidrachma.stater; cymer hwnw a dyro fo iddynt drosof fi a thithau.
Currently Selected:
Matthew Lefi 17: CJW
Označeno
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Yr Oraclau Bywiol gan John Williams 1842. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.