Canys Gweinyddiaeth y Nefoedd a fydd debyg i ymddygiad meistr tŷ, yr hwn á aeth allan yn gynnar yn y bore i gyflogi llafurwyr iddei winllan. Wedi cyduno â rhai èr ceiniog y dydd, efe á’u hanfonodd hwynt iddei winllan. Yn nghylch y drydedd awr, efe á aeth allan, ac wrth weled ereill yn segur yn y farchnadfa, á ddywedodd wrthynt, Ewch chwithau i’m gwinllan, a mi á roddaf i chwi y peth sy resymol. Yn ganlynol, hwy á aethant. Darchefn, yn nghylch y chwechfed awr, ac yn nghylch y nawfed, efe á aeth allan, ac á wnaeth yr un modd. Yn ddiweddaf, yn nghylch yr unfed awr àr ddeg, efe á aeth allan, ac wrth ganfod ereill yn sefyll, á ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn sefyll yma àr hyd y dydd heb wneuthur dim? Hwy á atebasant, Am na chyflogodd neb ni. Yntau á ddywedodd wrthynt, Ewch chwithau hefyd i’m gwinllan, a chwi á dderbyniwch y peth sy resymol. Pan ddaeth y nos, perchenog y winllan á ddywedodd wrth ei oruchwyliwr, Galw y llafurwyr, a thal eu cyflog iddynt, gàn ddechreu gyda ’r rhai olaf, a diweddu gyda’r rhai blaenaf. Yna y rhai à gyflogasid àr yr unfed awr àr ddeg, á ddaethant ac á dderbyniasant bob un geiniog. Pan ddaeth y rhai cyntaf, hwy á dybiasant y derbynient fwy; ond ni chawsant ond pob un geiniog. Wedi ei derbyn, grwgnach á wnaethant yn erbyn meistr y tŷ, gàn ddywedyd, Ni weithiodd y rhai olaf hyn ond un awr; eto ti á’u gwnaethost hwynt gystal â ninnau, y rhai á ddygasom bwys y dydd a’r gwres. Yntau gàn ateb, á ddywedodd wrth un o honynt, Gyfaill, nid ydwyf yn gwneuthur cam â thi. Onid èr ceiniog y cydunaist â mi? Cymer yr hyn sydd eiddot, a dos ymaith. Yr wyf yn ewyllysio rhoddi i’r olaf hwn gymaint ag i tithau. Ac onid allaf wneuthur à fỳnwyf â’r eiddof fy hun? A ydyw dy lygad di yn ddrwg, am fy mod i yn dda? Felly y rhai olaf fyddant flaenaf, a’r rhai blaenaf yn olaf; canys y mae llawer wedi eu galw, ond ychydig wedi eu dewis.