Marc 12
12
Dameg i winllan gâs i rhoi mas ar rent
1-12Âth Iesu mlân i sharad 'da nhwy miwn damegion: “Planodd ryw ddyn winllan; fe gododd e glaw rownd 'ddi, a torrodd e dwll i wasgu'r gwin, a codi tŵr; wedyn roiodd‐e'r lle mas i ffarmwyr a fe âth‐e bant dros i dŵr. Pan ddâth ir amser fe halodd i dyn was at i ffarmwyr i gâl i shâr e o gineia'r winllan. Cijon‐nhwy in i gwas, rhoi crosfa iddo, a'i hala fe bant heb ddim byd. Shwrne 'to halodd i dyn was arall aton nhwy; rhoion‐nhwy glusten i hwnnw a neud pethe cwiliddus iddo fe. Halodd‐e un arall aton nhwy, a lladdon‐nhwy hwnnw; wedyn halodd‐e lot o rei erill, a rhoion‐nhwy grosfa i rhei a lladd i lleill. Dim ond un we 'dag e ar ôl i hala nawr, i unig grwt wedd‐e'n i garu lot fowr. Halodd i dyn inte aton nhwy ddwetha i gyd. ‘Fe barchan‐nhwy'n grwt i’ minte fe. On gwedodd i ffarmwyr wrth i gily, ‘Co i etifedd e'n dwâd. Dewch mlân, gadwch i ni i ladd e, a fe gewn‐ni i etifeddieth e.’ Fe ddalon‐nhwy fe a'i ladd e, a towlu i gorff e mas o'r winllan. Beth neith i dyn sy pia'r winlla nawr? Deith‐e 'i unan a lladd i ffarmwyr, a rhoi'r winllan i ddinion erill. Senoch‐chi ariôd wedi darllen be sy'di cal i reito,
‘Ma'r garreg nâth i mashwned i thowlu bant
wedi dwâd in bart pwysica'r tŷ;
ir Arglwi sy wedi neud hyn,
a mae e'n fendigedig in in golwg ni’?”
Drichon nhwy am ffordd i gâl u dwylo arno fe, on we ofon i crowd arnon nhwy, achos wên‐nhwy'n gwbod bo fe wedi gweud i ddameg in u herbyn nhwy. Gadon‐nhwy fe fod a mynd bant.
Talu trethi i Cesar
13-17Halon‐nhwy rei o'r Ffariseied a'r Herodied ato fe i dreial i ddala fe mas wrth bledo. Dethon‐nhwy a gweu‐'tho fe, “Mishtir, ŷn‐ni'n gwbod di fo ti'n ddyn onest, a bo dim ofon neb arno ti, achos senot‐ti'n drich ar beth yw dyn ar i tu‐fas, on in disgu ffordd Duw in onest. Ody 'ddi'n iawn i dalu'r dreth i Cesar neu beido? Ddilen‐ni dalu fe neu ddilen‐ni ddim?” We Iesu'n gwbod mor ddou‐wynebog wên‐nhwy a gwedodd‐e wrthon‐nhwy, “Pam ŷch‐chi'n treial in ddala i mas fel 'yn? Rhowch geinog i fi gâl gweld.” Rhoion‐nhwy geinog iddo fe, a gwedodd‐e wrthon nhwy, “Llun pwy? a enw pwy sy arni?” “Cesar”, wedon‐nhwy wrtho fe. Gwedodd Iesu wrthon nhwy, “Rhowch chi be sy pia Cesar i Cesar, a be sy pia Duw i Dduw.” Ffeilon‐nhwy weud dim byd wrtho fe.
Holi obitu codi o farw
18-27Dâth rhei o'r Sadiwceied ato fe — senon‐nhwy'n credu bo dinion in mynd i godi o farw in i lle cinta — a fe ofinon‐nhwy iddo fe, “Mishtir, reitodd Moses hyn i ni, ‘Os ma brawd dyn in marw a'n gadel gwraig heb 'ddi gâl plant, dile'i frawd briodi'r widw a magu plant dros i frawd.’ Nawr 'te, shwrne, we saith brawd i gâl. Priodo'r cinta wraig a marwodd e heb gâl plant. Priodo'r ail frawd i widw a marwodd e heb blant; a fel 'ny buodd‐i gida'r tridydd. Priodo bob un o'r saith i widw ond marw heb gâl plant. O'r diwedd fe farwodd i fenyw i hunan. Pan fiddan‐nhwy'n codi, amser bydd pob un in codi o farw, gwraig i pwy bidd‐i? Achos buodd‐i'n wraig i'r saith onon nhwy.” Gwedodd Iesu wrthon nhwy, “Senoch‐chi mynd in rong cyn dachre? achos senoch‐chi'n gwbod i Sgruthur, na crifder Duw? Achos pan bydd dinion in codi o farw biddan‐nhwy ddim in priodi na'n câl u rhoi bant i briodi; na, biddan‐nhwy fel ir angilion in i nefodd. Ond am i ffaith bo'r marw in mynd i godi in i lle cinta — senoch chi wedi darllen in llifyr Moses, in i part am i llwyn in llosgi, shwt wedo Duw wrtho fe, ‘Fi yw Duw Abraham, Duw Isaac a Duw Jacob’? Ddim Duw i meirwon yw e ond Duw i rhei sy'n fyw. Chi'n bell bant o'ni bois!”
I gorchimyn mowr
28-34Dâth un o'r rhei we'n disgu'r Gifreth a we wedi'u cliwed nhwy'n pledo at Iesu. Gwelodd‐e bo Iesu wedi'u hateb nhwy'n dda a gofinodd‐e iddo, “P'un yw'r gorchimin cinta'n deg?” Atebo Iesu, “Co'r gorchimyn cinta'n deg, ‘Gronda, O Isrel, ma'r Arglwi in Duw ni in un Arglwi, a rhaid i ti garu'r Arglwi di Dduw di 'da di galon i gyd, 'da di ened i gyd, 'da di feddwl i gyd, a 'da di nerth i gyd.’ Co'r ail un wedyn, ‘Rhaid i ti garu di gwmodog fel ti d'unan.’ Sdim gorchimyn arall i gâl sy'n fwy na rhei'na.” Gwedo'r un we'n disgu'r Gifreth wrtho fe, “Ti'n gweud hi'n iawn, Mishtir! Gwedes‐di'r gwir i fod e in un a bo neb arall ond fe i gâl, a bod i fod i garu fe 'da'r galon i gyd, 'da'r diall i gyd a 'da'r nerth i gyd, a bo caru cwmodog fel dyn i unan, in fwy na popeth sy'n câl u hoffrimu a'u llosgi i Dduw.” Gwelo Iesu i fod e wedi ateb 'da sens a gwedodd‐e, “Senot‐ti'n bell bant o Deyrnas Duw.” Mentrodd neb arall ofyn rhagor o gweshjwne iddo fe.
Holi obitu crwt Dafydd
35-37In ddiweddarach, pan wedd‐e'n disgu in i Demel, gwedo Iesu, “Shwt ma‐i bo'r rhei sy'n disgu'r Gifreth in gweud taw crwt Dafydd yw'r Meseia? Gwedodd Dafydd i unan, wrth ir Isbryd Glân i arwen e,
‘Ma'r Arglwi'n gweu'th in Arglwi i,
“Ishtedda ar in ochor dde i,
Hys nes bo fi'n rhoi di elinion
dan di drâd di.”’
Os ma Dafydd i unan in i alw fe in ‘Arglwi’, shwt gall e fod in grwt iddo fe?” We'r rhan fwya o'r crowd in enjoio grondo arno fe.
Gweud i feddwl wrth i rhei we'n disgu'r Gifreth
38-40Wrth ddisgu gwedodd‐e, “Watshwch chi mas am i rhei sy'n disgu'r Gifreth sy'n cered rownd in gwishgo dillad hir, fel bo dinion in u nhabod nhwy in i shope, a ishte in i sête mowr in i sinagoge a'r llefydd gore amser i ciniawe. Co'r dinion sy'n mynd bant â be sy 'da'r widw, a man‐nhwy'n gweddïo'n hir jwst am show. Bydd u cosb nhwy'n fwy byth.”
Casglad i widw
41-44Ishteddodd‐e lawr goddereb â'r lle wen‐nhwy'n casglu in i Demel a welodd‐e shwt we'r crowd in rhoi arian in i casglad. We lot o'r dinion abal in rhoi lot fowr o arian. Dâth gwidw llwm â rhoi dwy fferllyng, neu ddime in i casglad. Galwo Iesu ar i ddisgiblion a gweu‐'thon nhwy, “Dwi'n gweud i gwir wrthoch chi, ma'r widw 'ma wedi rhoi mwy in i casglad na neb arall. Achos man‐nhwy wedi rhoi mas o'u digonedd, on ma'r fenyw 'ma in llwm a wedi rhoi popeth we 'da hi, popeth we 'da hi i fyw arno.”
Выбрано:
Marc 12: DAFIS
Выделить
Поделиться
Копировать

Хотите, чтобы то, что вы выделили, сохранялось на всех ваших устройствах? Зарегистрируйтесь или авторизуйтесь
Y Beder Ifingyl gan Lyn Lewis Dafis. Hawlfraint – M ac R Davies