In ir un ardal we bugeilied in byw mas in i perci, in watsho i neud in shŵr bo ddim byd in digwidd i'r defed in i nos. A dâth angel ir Arglwidd aton nhwy, a fe sheinodd gogoniant ir Arglwidd rownd 'ddyn nhwy i gyd, a gethon nw ofon ofnadw. Gwedodd i'r angel wrthyn nhwy, “Peidwch câl ofon; dwi'n dod â newiddion da i chi, newiddion da am lawenydd i'r bobol i gyd, Heddi, in tre Dafydd, ma Gwaredwr wedi câl 'i eni i chi, fe yw'r Meseia. Fel hyn newch chi nabod e: ffeinidiwch chi fabi, wedi roi miwn dillad, in gorwe miwn mansher. A'n sidan reit we côr o'r nefodd 'da'r angel, a wen nw'n moli Duw a'n gweud,
“Gogoniant i Dduw in i nefodd uchel,
a heddwch ar i ddeiar,
i'r rhei mae e wedi'u dewish.”