Luc 2:41-52

Luc 2:41-52 DAFIS

We'i dad a'i fam in mynd i Jerwsalem bob blwyddyn amser Gŵyl y Pasg. Pan wedd‑e'n ddouddeg mlwydd wed fe âth‑e lan i'r Demel fel wen‑nw'n arfer neud amser ir Ŵyl. Pan fennodd ir Ŵyl ethon‑nhwy getre, ond arhosodd Iesu ar ôl in Jerwsalem, ond weno'i dad na'i fam in gwbod. Wen‑nhwy'n meddwl i fod e gida dinion erill, a ethon‑nhwy am ddwarnod cifan; wedyn ddrichon nw amdano fe 'da'u perthnase a ffrindie. Achos bo nhwy heb 'i ffeindo fe fe droion‑nhwy nôl i Jerwsalem i wilio amdnao fe. Ar ôl tri dwarnod fe ffeindon‑nhwy e in i Demel, in ishte ing ganol i rhei we'n disgu, in grondo arnyn nhwy a'n gofyn cwestjwne. We pobun we'n 'i gliwed e in sinnu mor dda wedd‑e'n ateb. Pan welodd 'i dad a'i fam e, we nw wedi'u sinnu 'fyd, a gwedodd 'i fam wrtho fe, “In grwt i, pam wyt ti wedi neud hyn? Ma di dad a fi wedi bod in whilio amdano ti?” Gwedodd‑e wrthyn nhwy “Pam we ishe ichi whilio amdana i? Wenoch‑chi'n gwbod bo'n rhaid i fi fod in tŷ in Dad?” Wenon‑nhwy'n diall beth wedd‑e wedi gweu 'tho nhwy. Âth‑e lawr gida nhwy a dod i Nasareth, a grondodd‑e arnyn nhwy. Cofiodd i fam i pethe 'ma i gyd. Wrth iddo diddu, nâth Iesu ddod in ddoethach a ffafr gida Duw a dinion.

Читать Luc 2