Marc 7

7
Dilyn beth we'r henuried in disgu
1-23Dâth i Ffariseied a'r rhei o'r dinion we'n disgu'r Gifreth lan o Jeriwsalem, a dwâd at Iesu. A silwon‐nhwy bo'i ddisgiblion e'n bita bwyd da dwylo bowlyd, heb u golchi nhwy. (Ma'r Ffariseied a'r rhan fwya o'r Iddewon in dilyn beth we'r henuried in disgu: senon‐nhwy'n bita dim byd heb olchi u dwylo ginta reit lan hyd i garddwn; a pan man‐nhwy'n dwâd getre o'r farced senon‐nhwy'n bita heb olchi ginta. Ma lot o bethe erill man‐nhwy'n u neud, fel golchi cwpane, sosbanne a dishgle copor.) So gofinodd i Ffariseied a'r rhei wen disgu'r Gifreth iddo fe, “Pam seno di ddisgiblion di in neud fel we'r heuried in i ddisgu, in lle bita 'da dwylo bowlyd?” Atebodd Iesu nhwy, “We Eseia'n iawn pan broffwydodd e amdanoch chi'r bobol ddou‐wmedog. Co beth gas i reito,
‘Ma'r dinion 'ma in gweud u bo nhwy'n in barchu i, on dim ond 'da'u gwefuse,
Ma'u calonne'n nhwy'n bell bant wrtha i.
Wast o amser yw‐i iddyn nhwy in addoli i,
Achos dim ond pethe sy'n meddilie dyn man‐nhwy'n i ddisgu!’
Ŷch‐chi troi'ch cewne ar beth ma Duw in gweu‐'tho chi, ac in lle ni'n dilyn beth ma dinion in i weud.” A gwedodd Iesu wrthon nhwy weth, “Na fois da ŷch‐chi am beido cofio beth wedo Duw fel ich bo chi'n galler neud beth ŷch‐chi moyn i neud! Achos wedo Moses, ‘Parchwch ich tad a'ch mam’, a ‘Ma'n rhaid i'r dyn sy'n gweud pethe cas wrth i dad ne'i fam gâl i ladd.’ Ond ŷch‐chi'n gweud, ‘Os ma dyn in gweu‐'th i dad ne'i fam, “Dwi wedi addo rhoi i Dduw (am byth) ir arian allen i fod wedi hala i ofalu amdanoch chi”, sdim ishe iddo fe neud dim dros i fam na'i dad byth to.’ Ffor‐'na ŷch‐chi'n neud in erbyn Gair Duw 'da'r pethe ma ŷch‐chi'n u disgu; a ŷch‐chi'n neud shwt gwmint o bethe erill sy'n gowir run peth â nhwy.”
Galwodd‐e ar i crowd i ddwâd ato fe siwrne 'to, a gwedodd‐e wrthon nhwy, “Grondwch arna i, bob un 'no chi, a triwch ddiall. Sdim byd sy'n mynd miwn i ddyn o'r tu fas in i neud e'n fowlyd; i pethe sy'n dwâd mas o ddyn sy'n i neud e'n fowlyd. Os wes cluste 'da chi, iwswch nhwy.”
Wedi 'ddo fe fynd bant wrth i crowd a nôl miwn i'r tŷ, gofinodd i ddisgiblion iddo fe am i ddameg wedd‐e newy weud. Atebodd e nhwy, “Odych‐chi mor dwp â'r lleill 'te? Senoch‐chi'n diall bo ddim byd sy'n mynd miwn i ddyn in i neud e'n fowlyd, achos seno'r pethe 'ny'n mynd i galon e, ond i'r stumog a wedyn mas o'r corff?” (Wrth weud hyn wedd‐e'n neud hi'n blaen bo pob short o fwyd in lân.) Wedodd‐e, “I pethe sy'n dwâd mas o ddyn sy'n i neud e'n fowlyd; achos o'r tu fiwn, o feddwl dinion, ma meddilie drwg in dwâd: neud pethe mochedd, dwgyd, lladd, mynd 'da gŵr neu wraig riwun arall, bod in whant pethe dinion erill, drwgioni, twyllo, mochdra, bod in jelos, gweud celwy am rywun, meddwl bo chi'n gwbod in well na pob un arall, bod in ddihidans o Dduw — ma'r pethe hyn i gyd in dwâd o'r tu fiwn i ddyn a'n i neud e'n fowlyd.”
Ffydd i baganes
24-30Âth Iesu o'r lle 'na a i wlad Teirus. Âth‐e miwn i dŷ fan'ny, a weno‐fe am i neb wbod bo fe na. Ond alle‐fe ddim cwato. Whap fe ddâth menyw ato we'i rhoces hi ag isbryd drwg indi hi. Towlodd i fenyw i hunan lawr ar i llawr o'i flân e. Paganes we'r fenyw, hanner Sirian a hanner Ffenishan, a gofinodd‐hi 'ddo fe hala'r cithrel mas o'i rhoces hi. Gwedodd Iesu wrthi, “Gadwch i'r plant gâl digon i fita i ddachre, achos seno 'ddi'n iawn mynd â bwyd bant wrth i plant a'i dowlu fe i'r cŵn fita”. Atebodd‐i e, “Itha gwir, Syr, a ma hyd 'n‐ôd i cŵn bach sy dan i ford in bita'u shâr o friwshon i plant.” Gwedodd‐e wrthi, “Achos bo ti wedi gweud 'na, cer; ma'r cithrel wedi mynd mas o di ferch di.” Âth hi getre a gweld i plentyn in gorwe ar i gwely, a we'r cithrel wedi mynd mas oni.
Gwella'r dyn we ffeilu cliwed
31-37Dâth Iesu nôl o ardal Teirus a fe âth‐e trw Seidon a Gwlad i Deg Tre a lawr at Fôr Galilea. Dethon‐nhwy â dyn ato fe we'n fiddar a'n cecian; begianon‐nhwy arno fe i roi i law arno fe. Cwmrodd Iesu i dyn bant o'r crowd ar ben i unan a rhoi'i fise in cluste'r dyn. Powrodd Iesu a cwrdd â tafod i dyn; drichodd Iesu lan i'r nefodd a gweu‐'tho fe, “Epffatha”, sy'n goligu, “Agorwch”. Whap dâth clyw i dyn nôl, a we ddim byd in bod ar i dafod e whaith, wedd‐e'n sharad in iawn. Rhoiodd Iesu ordors iddon nhwy beido gweud wrth neb, on mwya gyd wedd‐e'n gweu‐'thon nhwy mwya gyd wên‐nhwy'n gweud ir hanes amdano fe wrth ddinion. Wên‐nhwy wedi'u sinnu'n ofnadw a gwedon‐nhwy, “Mae‐e wedi neud popeth in iawn; mae‐e'n neud i'r dinion biddar i gliwed a'r dinion sy'n ffeilu sharad i sharad.”

اکنون انتخاب شده:

Marc 7: DAFIS

های‌لایت

به اشتراک گذاشتن

کپی

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید

YouVersion از کوکی ها برای شخصی سازی تجربه شما استفاده می کند. با استفاده از وب سایت ما، استفاده ما از کوکی ها را همانطور که در خط مشی رازداریتوضیح داده شده است، می پذیرید