Ioan 18

18
A.D. 33. —
1 Jwdas yn bradychu yr Iesu. 6 Y swyddogion yn syrthio i’r llawr. 10 Pedr yn torri clust Malchus. 12 Dal yr Iesu, a’i ddwyn at Annas a Chaiaffas. 15 Pedr yn gwadu Crist. 19 Holi yr Iesu gerbron Caiaffas, 28 a cherbron Peilat. 36 Ei deyrnas ef. 40 Yr Iddewon yn dymuno cael gollwng Barabbas yn rhydd.
1Gwedi #Mat 26:36; Marc 14:32; Luc 22:39i’r Iesu ddywedyd y geiriau hyn, efe a aeth allan, efe a’i ddisgyblion, dros #2 Sam 15:23afon Cedron, lle yr oedd gardd, i’r hon yr aeth efe a’i ddisgyblion. 2A Jwdas hefyd, yr hwn a’i bradychodd ef, a adwaenai’r lle: oblegid mynych y cyrchasai’r Iesu a’i ddisgyblion yno. 3#Mat 26:47; Marc 14:43; Luc 22:47; Act 1:16Jwdas gan hynny, wedi iddo gael byddin a swyddogion gan yr archoffeiriaid a’r Phariseaid, a ddaeth yno â lanternau, a lampau, ac arfau. 4Yr Iesu gan hynny, yn gwybod pob peth a oedd ar ddyfod arno, a aeth allan, ac a ddywedodd wrthynt, Pwy yr ydych yn ei geisio? 5Hwy a atebasant iddo, Iesu o Nasareth. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Myfi yw. A Jwdas, yr hwn a’i bradychodd ef, oedd hefyd yn sefyll gyda hwynt. 6Cyn gynted gan hynny ag y dywedodd efe wrthynt, Myfi yw, hwy a aethant yn wysg eu cefnau, ac a syrthiasant i lawr. 7Am hynny efe a ofynnodd iddynt drachefn, Pwy yr ydych yn ei geisio? A hwy a ddywedasant, Iesu o Nasareth. 8Yr Iesu a atebodd, Mi a ddywedais i chwi mai myfi yw: am hynny os myfi yr ydych yn ei geisio, gadewch i’r rhai hyn fyned ymaith: 9Fel y cyflawnid y gair a ddywedasai efe, #Pen 17:12O’r rhai a roddaist i mi, ni chollais i’r un. 10#Mat 26:51; Marc 14:47; Luc 22:49, 50Simon Pedr gan hynny a chanddo gleddyf, a’i tynnodd ef, ac a drawodd was yr archoffeiriad, ac a dorrodd ymaith ei glust ddeau ef: ac enw’r gwas oedd Malchus. 11Am hynny yr Iesu a ddywedodd wrth Pedr, Dod dy gleddyf yn y wain: #Mat 20:22; 26:39, 42y cwpan a roddes y Tad i mi, onid yfaf ef? 12Yna’r fyddin, a’r milwriad, a swyddogion yr Iddewon, a ddaliasant yr Iesu, ac a’i rhwymasant ef, 13Ac #Edrych Mat 26:57a’i dygasant ef at #Luc 3:2Annas yn gyntaf: canys chwegrwn Caiaffas, yr hwn oedd archoffeiriad y flwyddyn honno, ydoedd efe. #18:13 Ac Annas a ddanfonodd yr Iesu yn rhwym at Caiaffas yr archoffeiriad, ad. 24 14#Pen 11:50A Chaiaffas oedd yr hwn a gyngorasai i’r Iddewon, mai buddiol oedd farw un dyn dros y bobl.
15 # Mat 26:58; Marc 14:54; Luc 22:54 Ac yr oedd yn canlyn yr Iesu, Simon Pedr, a disgybl arall: a’r disgybl hwnnw oedd adnabyddus gan yr archoffeiriad, ac efe a aeth i mewn gyda’r Iesu i #18:15 neuadd.lys yr archoffeiriad. 16#Mat 26:69A Phedr a safodd wrth y drws allan. Yna y disgybl arall yr hwn oedd adnabyddus gan yr archoffeiriad, a aeth allan, ac a ddywedodd wrth y ddrysores, ac a ddug Pedr i mewn. 17Yna y dywedodd y llances oedd ddrysores wrth Pedr, Onid wyt tithau o ddisgyblion y dyn hwn? Dywedodd yntau, Nac wyf. 18A’r gweision a’r swyddogion, gwedi gwneuthur tân glo, oherwydd ei bod hi’n oer, oeddynt yn sefyll, ac yn ymdwymo: ac yr oedd Pedr gyda hwynt yn sefyll, ac yn ymdwymo.
19A’r archoffeiriad a ofynnodd i’r Iesu am ei ddisgyblion, ac am ei athrawiaeth. 20Yr Iesu a atebodd iddo, #Pen 7:26Myfi a leferais yn eglur wrth y byd: yr oeddwn bob amser yn athrawiaethu yn y synagog, ac yn y deml, lle mae’r Iddewon yn ymgynnull bob amser; ac yn ddirgel ni ddywedais i ddim. 21Paham yr wyt ti yn gofyn i mi? gofyn i’r rhai a’m clywsant, beth a ddywedais wrthynt: wele, y rhai hynny a wyddant pa bethau a ddywedais i. 22Wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, un o’r swyddogion a’r oedd yn sefyll gerllaw, #Jer 20:2; Act 23:2a roddes #18:22 ffonnod, neu, wialennod.gernod i’r Iesu, gan ddywedyd, Ai felly yr wyt ti’n ateb yr archoffeiriad? 23Yr Iesu a atebodd iddo, Os drwg y dywedais, tystiolaetha o’r drwg; ac os da, paham yr wyt yn fy nharo i? 24#Mat 26:57Ac Annas a’i hanfonasai ef yn rhwym at Caiaffas yr archoffeiriad. 25#Mat 26:69, 71; Marc 14:69; Luc 22:58A Simon Pedr oedd yn sefyll, ac yn ymdwymo. Hwythau a ddywedasant wrtho, Onid wyt tithau hefyd o’i ddisgyblion ef? Yntau a wadodd, ac a ddywedodd, Nac wyf. 26Dywedodd un o weision yr archoffeiriad, (câr i’r hwn y torasai Pedr ei glust,) Oni welais i di gydag ef yn yr ardd? 27Yna Pedr a wadodd drachefn; ac #Pen 13:38yn y man y canodd y ceiliog.
28 # Mat 27:2; Marc 15:1; Luc 23:1 Yna y dygasant yr Iesu oddi wrth Caiaffas #18:28 Neu, i dŷ Peilat, Mat 27:27 i’r dadleudy: a’r bore ydoedd hi; #Act 10:28; 11:3ac nid aethant hwy i mewn i’r dadleudy, rhag eu halogi; eithr fel y gallent fwyta’r pasg. 29Yna Peilat a aeth allan atynt, ac a ddywedodd, Pa achwyn yr ydych chwi yn ei ddwyn yn erbyn y dyn hwn? 30Hwy a atebasant ac a ddywedasant wrtho, Oni bai fod hwn yn ddrwgweithredwr, ni thraddodasem ni ef atat ti. 31Am hynny y dywedodd Peilat wrthynt, Cymerwch chwi ef, a bernwch ef yn ôl eich cyfraith chwi. Yna yr Iddewon a ddywedasant wrtho, Nid cyfreithlon i ni ladd neb: 32#Mat 20:19; Ioan 12:32Fel y cyflawnid gair yr Iesu, yr hwn a ddywedasai efe, gan arwyddocáu o ba angau y byddai farw. 33#Mat 27:11Yna Peilat a aeth drachefn i’r dadleudy, ac a alwodd yr Iesu, ac a ddywedodd wrtho, Ai ti yw Brenin yr Iddewon? 34Yr Iesu a atebodd iddo, Ai ohonot dy hun yr wyt ti yn dywedyd hyn, ai eraill a’i dywedasant i ti amdanaf fi? 35Peilat a atebodd, Ai Iddew ydwyf fi? Dy genedl dy hun a’r archoffeiriaid a’th draddodasant i mi. Beth a wnaethost ti? 36#1 Tim 6:13Yr Iesu a atebodd, #Pen 6:15Fy mrenhiniaeth i nid yw o’r byd hwn. Pe o’r byd hwn y byddai fy mrenhiniaeth, fy ngweision i a ymdrechent, fel na’m rhoddid i’r Iddewon: ond yr awron nid yw fy mrenhiniaeth i oddi yma. 37Yna y dywedodd Peilat wrtho, Wrth hynny ai Brenin wyt ti? Yr Iesu a atebodd, Yr ydwyt ti yn dywedyd mai Brenin wyf fi. Er mwyn hyn y’m ganed, ac er mwyn hyn y deuthum i’r byd, fel y tystiolaethwn i’r gwirionedd. Pob un a’r #1 Ioan 3:19sydd o’r gwirionedd, sydd yn gwrando fy lleferydd i. 38Peilat a ddywedodd wrtho, Beth yw gwirionedd? Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a aeth allan drachefn at yr Iddewon, ac a ddywedodd wrthynt, #Mat 27:24; Luc 23:4; Ioan 19:4Nid wyf fi yn cael dim #18:38 bai arno.achos ynddo ef. 39#Mat 27:15; Marc 15:6; Luc 23:17Eithr y mae gennych chwi ddefod, i mi ollwng i chwi un yn rhydd ar y pasg: a fynnwch chwi gan hynny i mi ollwng yn rhydd i chwi Frenin yr Iddewon? 40#Act 3:14Yna y llefasant oll drachefn, gan ddywedyd, Nid hwnnw, ond Barabbas. #Luc 23:19A’r Barabbas hwnnw oedd leidr.

اکنون انتخاب شده:

Ioan 18: BWM1955C

های‌لایت

به اشتراک گذاشتن

کپی

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید