Ioan 19
19
A.D. 33. —
1 Fflangellu Crist, a’i goroni â drain, a’i guro. 4 Peilat yn chwennych ei ollwng ef yn rhydd: eto, wedi ei orchfygu gan lefain yr Iddewon, yn ei roddi ef i’w groeshoelio. 23 Bwrw coelbrennau ar ei ddillad ef: 26 yntau yn gorchymyn ei fam i Ioan; 28 ac yn marw. 31 Gwanu ei ystlys ef. 38 Joseff a Nicodemus yn ei gladdu ef.
1Yna gan hynny #Mat 27:26; Marc 15:15y cymerodd Peilat yr Iesu, ac a’i fflangellodd ef. 2A’r milwyr a blethasant goron o ddrain, ac a’i gosodasant ar ei ben ef, ac a roesant wisg o borffor amdano; 3Ac a ddywedasant, Henffych well, Brenin yr Iddewon; ac a roesant iddo #19:3 ffonodiau.gernodiau. 4Peilat gan hynny a aeth allan drachefn, ac a ddywedodd wrthynt, Wele yr wyf fi yn ei ddwyn ef allan i chwi, fel y gwypoch nad wyf fi yn cael ynddo ef un #19:4 achos.bai. 5Yna y daeth yr Iesu allan, yn arwain y goron ddrain, a’r wisg borffor. A Pheilat a ddywedodd wrthynt, Wele’r dyn. 6Yna yr archoffeiriaid a’r swyddogion, pan welsant ef, a lefasant, gan ddywedyd, Croeshoelia, croeshoelia ef. Peilat a ddywedodd wrthynt, Cymerwch chwi ef, a chroeshoeliwch: canys nid wyf fi yn cael dim bai ynddo. 7Yr Iddewon a atebasant iddo, #Lef 24:16Y mae gennym ni gyfraith, ac wrth ein cyfraith ni efe a ddylai farw, am iddo #Mat 26:65; Ioan 5:18; 10:33ei wneuthur ei hun yn Fab Duw.
8A phan glybu Peilat yr ymadrodd hwnnw, efe a ofnodd yn fwy; 9Ac a aeth drachefn i’r dadleudy, ac a ddywedodd wrth yr Iesu, O ba le yr wyt ti? Ond ni roes yr Iesu ateb iddo. 10Yna Peilat a ddywedodd wrtho, Oni ddywedi di wrthyf fi? oni wyddost ti fod gennyf awdurdod i’th groeshoelio di, a bod gennyf awdurdod i’th ollwng yn rhydd? 11Yr Iesu a atebodd, Ni byddai i ti ddim awdurdod arnaf fi, oni bai ei fod wedi ei roddi i ti oddi uchod: am hynny yr hwn a’m traddodes i ti, sydd fwy ei bechod. 12O hynny allan y ceisiodd Peilat ei ollwng ef yn rhydd: ond yr Iddewon a lefasant, gan ddywedyd, Os gollyngi di hwn yn rhydd, nid wyt ti yn garedig i Gesar. #Act 17:7Pwy bynnag a’i gwnelo ei hun yn frenin, y mae yn dywedyd yn erbyn Cesar. 13Yna Peilat, pan glybu’r ymadrodd hwn, a ddug allan yr Iesu; ac a eisteddodd ar yr orseddfainc, yn y lle a elwir y Palmant, ac yn Hebraeg, Gabbatha. 14A #Mat 27:62darpar‐ŵyl y pasg oedd hi, ac ynghylch y chweched awr: ac efe a ddywedodd wrth yr Iddewon, Wele eich Brenin. 15Eithr hwy a lefasant, Ymaith ag ef, ymaith ag ef, croeshoelia ef. Peilat a ddywedodd wrthynt, A groeshoeliaf fi eich Brenin chwi? A’r archoffeiriaid a atebasant, #Gen 49:10Nid oes i ni frenin ond Cesar. 16#Mat 27:26, 31; Marc 15:15; Luc 23:24Yna gan hynny efe a’i traddodes ef iddynt i’w groeshoelio. A hwy a gymerasant yr Iesu, ac a’i dygasant ymaith. 17#Mat 27:31, 33; Marc 15:21Ac efe gan ddwyn ei groes, a ddaeth i le a elwid #19:17 Y benglogfa.Lle’r benglog, ac a elwir yn Hebraeg, Golgotha: 18Lle y croeshoeliasant ef, a dau eraill gydag ef, un o bob tu, a’r Iesu yn y canol.
19 #
Mat 27:37; Marc 15:26; Luc 23:38 A Pheilat a ysgrifennodd deitl, ac a’i dododd ar y groes. A’r ysgrifen oedd, IESU O NASARETH, BRENIN YR IDDEWON. 20Y teitl hwn gan hynny a ddarllenodd llawer o’r Iddewon; oblegid agos i’r ddinas oedd y fan lle y croeshoeliwyd yr Iesu: ac yr oedd wedi ei ysgrifennu yn Hebraeg, Groeg, a Lladin. 21Yna archoffeiriaid yr Iddewon a ddywedasant wrth Peilat, Nac ysgrifenna Brenin yr Iddewon; eithr dywedyd ohono ef, Brenin yr Iddewon ydwyf fi. 22Peilat a atebodd, Yr hyn a ysgrifennais, a ysgrifennais.
23 #
Mat 27:35; Marc 15:24; Luc 23:34 Yna y milwyr, wedi iddynt groeshoelio’r Iesu, a gymerasant ei ddillad ef, ac a wnaethant bedair rhan, i bob milwr ran; a’i bais ef: a’i bais ef oedd ddiwnïad, wedi ei #19:23 gweithio.gwau o’r cwr uchaf trwyddi oll. 24Hwythau a ddywedasant wrth ei gilydd, Na thorrwn hi, ond bwriwn goelbrennau amdani, eiddo pwy fydd hi: fel y cyflawnid yr ysgrythur sydd yn dywedyd, #Salm 22:18Rhanasant fy nillad yn eu mysg, ac am fy mhais y bwriasant goelbrennau. A’r milwyr a wnaethant y pethau hyn.
25 #
Mat 27:55; Marc 15:40; Luc 23:49 Ac yr oedd yn sefyll wrth groes yr Iesu, ei fam ef, a chwaer ei fam ef, Mair gwraig #19:25 Clopas.Cleoffas, a Mair Magdalen. 26Yr Iesu gan hynny, pan welodd ei fam, #Pen 13:23; 21:24a’r disgybl yr hwn a garai efe yn sefyll gerllaw, a ddywedodd wrth ei fam, #Pen 2:4 O wraig, wele dy fab. 27Gwedi hynny y dywedodd wrth y disgybl, Wele dy fam. Ac o’r awr honno allan y cymerodd y disgybl hi i’w gartref.
28Wedi hynny yr Iesu, yn gwybod fod pob peth wedi ei orffen weithian, #Salm 69:21fel y cyflawnid yr ysgrythur, a ddywedodd, Y mae syched arnaf. 29Yr oedd gan hynny lestr wedi ei osod yn llawn o finegr; a #Mat 27:48hwy a lanwasant ysbwng o finegr, ac a’i rhoddasant ynghylch isop, ac a’i dodasant wrth ei enau ef. 30Yna pan gymerodd yr Iesu’r finegr, efe a ddywedodd, #Pen 17:4Gorffennwyd: a chan ogwyddo ei ben, efe a roddes i fyny yr ysbryd. 31Yr Iddewon gan hynny, fel nad arhoai’r cyrff ar y groes ar y Saboth, oherwydd ei bod yn ddarpar‐ŵyl, (canys mawr oedd y dydd Saboth hwnnw,) a ddeisyfasant ar Peilat gael torri eu hesgeiriau hwynt, a’u tynnu i lawr. 32Yna y milwyr a ddaethant, ac a dorasant esgeiriau’r cyntaf, a’r llall yr hwn a groeshoeliasid gydag ef. 33Eithr wedi iddynt ddyfod at yr Iesu, pan welsant ef wedi marw eisoes, ni thorasant ei esgeiriau ef. 34Ond un o’r milwyr a wanodd ei ystlys ef â gwaywffon: ac yn y fan #1 Ioan 5:6daeth allan waed a dwfr. 35A’r hwn a’i gwelodd, a dystiolaethodd; a gwir yw ei dystiolaeth: ac efe a ŵyr ei fod yn dywedyd gwir, fel y credoch chwi. 36Canys y pethau hyn a wnaethpwyd, #Exod 12:46; Num 9:12; Salm 34:20fel y cyflawnid yr ysgrythur, Ni thorrir asgwrn ohono. 37A thrachefn, #Sech 12:10ysgrythur arall sydd yn dywedyd, Hwy a edrychant ar yr hwn a wanasant.
38 #
Mat 27:57; Marc 15:42; Luc 23:50 Ac ar ôl hyn, Joseff o Arimathea (yr hwn oedd ddisgybl i’r Iesu, eithr yn guddiedig, #Pen 9:22; 12:42rhag ofn yr Iddewon) a ddeisyfodd ar Peilat, gael tynnu i lawr gorff yr Iesu: a Pheilat a ganiataodd iddo. Yna y daeth efe ac a ddug ymaith gorff yr Iesu. 39A daeth #Pen 3:1, 2; 7:50Nicodemus hefyd, (yr hwn ar y cyntaf a ddaethai at yr Iesu o hyd nos,) ac a ddug fyrr ac aloes yng nghymysg, tua chan pwys. 40Yna y cymerasant gorff yr Iesu, ac a’i #Act 5:6rhwymasant mewn llieiniau, gydag aroglau, fel y mae arfer yr Iddewon ar gladdu. 41Ac yn y fangre lle y croeshoeliasid ef, yr oedd gardd; a bedd newydd yn yr ardd, yn yr hwn ni ddodasid dyn erioed. 42Ac yno, rhag nesed oedd darpar‐ŵyl yr Iddewon, am fod y bedd hwnnw yn agos, y rhoddasant yr Iesu.
اکنون انتخاب شده:
Ioan 19: BWM1955C
هایلایت
به اشتراک گذاشتن
کپی

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society