Ioan 17

17
A.D. 33. —
1 Crist yn gweddïo ar ei Dad am ei ogoneddu ef: 6 am gadw ei apostolion 11 mewn undeb, 17 a gwirionedd: 20 am eu gogoneddu hwy, a’r holl ffyddloniaid eraill, gydag ef yn y nefoedd.
1Y pethau hyn a lefarodd yr Iesu, ac efe a gododd ei lygaid i’r nef, ac a ddywedodd, Y Tad, #Pen 12:23; 16:32daeth yr awr; gogonedda dy Fab, fel y gogoneddo dy Fab dithau: 2#Mat 11:27; 28:18; Ioan 3:35; 5:27; 1 Cor 15:25; Phil 2:10; Heb 2:8Megis y rhoddaist iddo awdurdod ar bob cnawd, fel am y cwbl a roddaist iddo, y rhoddai efe iddynt fywyd tragwyddol. 3A #Esa 53:11; Jer 9:24hyn yw’r bywyd tragwyddol; iddynt dy adnabod di yr unig wir Dduw, a’r hwn a anfonaist ti, Iesu Grist. 4#Pen 13:31; 14:13Mi a’th ogoneddais di ar y ddaear; #Pen 4:34; 19:30mi a gwblheais y gwaith a roddaist i mi i’w wneuthur. 5Ac yr awron, O Dad, gogonedda di fyfi gyda thi dy hun, â’r gogoniant #Pen 1:1, 2; 10:30; 14:9oedd i mi gyda thi cyn bod y byd. 6Mi a eglurais dy enw i’r dynion #Pen 6:37, 39; 10:29a roddaist i mi allan o’r byd: eiddot ti oeddynt, a thi a’u rhoddaist hwynt i mi; a hwy a gadwasant dy air di. 7Yr awron y gwybuant mai oddi wrthyt ti y mae’r holl bethau a roddaist i mi: 8Canys y geiriau #Pen 8:28; 12:49; 14:10a roddaist i mi, a roddais iddynt hwy; a hwy a’u derbyniasant, #Pen 16:27, 30ac a wybuant yn wir mai oddi wrthyt ti y deuthum i allan, ac a gredasant mai tydi a’m hanfonaist i. 9Drostynt hwy yr wyf fi yn gweddïo: nid dros y byd yr wyf yn gweddïo, ond dros y rhai a roddaist i mi; canys eiddot ti ydynt. 10A’r eiddof fi oll sydd eiddot ti, #Pen 16:15a’r eiddot ti sydd eiddof fi: a mi a ogoneddwyd ynddynt. 11Ac nid wyf mwyach yn y byd, ond y rhai hyn sydd yn y byd, a myfi sydd yn dyfod atat ti. Y Tad sancteiddiol, #1 Pedr 1:5; Jwdas 1cadw hwynt #17:11 yn.trwy dy enw, y rhai a roddaist i mi; #Pen 17:21, & cfel y byddont un, #Pen 10:30megis ninnau. 12Tra fûm gyda hwynt yn y byd, #Pen 6:39; 10:28|JHN 10:28; Heb 2:13mi a’u cedwais yn dy enw: y rhai a roddaist i mi, a gedwais, ac #Pen 18:9; 1 Ioan 2:19ni chollwyd ohonynt #Pen 6:70; 13:18ond mab y golledigaeth; #Salm 109:8fel y cyflawnid yr ysgrythur. 13Ac yr awron yr wyf yn dyfod atat: a’r pethau hyn yr wyf yn eu llefaru yn y byd, fel y caffont fy llawenydd i yn gyflawn ynddynt eu hunain. 14Myfi a roddais iddynt hwy dy air di: #Pen 15:18, 19a’r byd a’u casaodd hwynt, oblegid nad ydynt o’r byd, megis nad ydwyf finnau o’r byd. 15Nid wyf yn gweddïo ar i ti eu cymryd hwynt allan o’r byd, eithr #Mat 6:13; Gal 1:4; 2 Thess 3:3; 1 Ioan 5:18ar i ti eu cadw hwynt rhag y drwg. 16O’r byd nid ydynt, megis nad wyf finnau o’r byd. 17#Pen 15:3; Act 15:8; Eff 5:26; 1 Pedr 1:22Sancteiddia hwynt #17:17 â’th wirionedd.yn dy wirionedd: #2 Sam 7:28; Ioan 8:40dy air sydd wirionedd. 18#Pen 20:21Fel yr anfonaist fi i’r byd, felly yr anfonais innau hwythau i’r byd. 19Ac #1 Cor 1:2, 30; 1 Thess 4:7; Heb 10:10er eu mwyn hwy yr wyf yn fy sancteiddio fy hun, fel y byddont hwythau wedi eu #17:19 gwir sancteiddio.sancteiddio #17:19 Neu, gan.yn y gwirionedd. 20Ac nid wyf yn gweddïo dros y rhai hyn yn unig, eithr dros y rhai hefyd a gredant ynof fi trwy eu hymadrodd hwynt: 21#Pen 17:11, 22, 23; Gal 3:28Fel y byddont oll yn un; megis #Pen 10:38; 14:11yr wyt ti, y Tad, ynof fi, a minnau ynot ti; fel y byddont hwythau un ynom ni: fel y credo’r byd mai tydi a’m hanfonaist i. 22A’r gogoniant a roddaist i mi, a roddais iddynt hwy: #Pen 14:20fel y byddont un, megis yr ydym ni yn un: 23Myfi ynddynt hwy, a thithau ynof fi; fel y byddont wedi eu perffeithio yn un, ac fel y gwypo’r byd mai tydi a’m hanfonaist i, a charu ohonot hwynt, megis y ceraist fi. 24#Pen 12:26; 14:3; 1 Thess 4:17Y Tad, y rhai a roddaist i mi, yr wyf yn ewyllysio, lle yr wyf fi, fod ohonynt hwythau hefyd gyda myfi; fel y gwelont fy ngogoniant a roddaist i mi: oblegid ti a’m ceraist cyn seiliad y byd. 25Y Tad cyfiawn, #Pen 15:21; 16:3nid adnabu’r byd dydi: eithr #Pen 7:29; 8:55; 10:15mi a’th adnabûm, #Ad. 8 Ioan 16:27a’r rhai hyn a wybu mai tydi a’m hanfonaist i. 26Ac mi a hysbysais iddynt dy enw, ac a’i hysbysaf: fel y byddo ynddynt hwy y cariad #Pen 15:9â’r hwn y ceraist fi, a minnau ynddynt hwy.

انتخاب شده:

Ioan 17: BWM1955C

های‌لایت

به اشتراک گذاشتن

کپی

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید