Mica 4

4
PENNOD IV.
1Ond bydd yn niwedd y dyddiau,#4:1 Dylai “ond” fod yma, o herwydd yr hyn a ddywedir yn niwedd y bennod flaenorol.
Y bydd mynydd tŷ Iehofa
Yn cael ei osod yn ben y mynyddoedd,#4:1 Felly y gellir cyfieithu y geiriau. Yr oedd y mynydd hwn i fod yn ben ar yr holl fynyddoedd; yr ystyr a roddir yn fwy amlwg yn y llinell a ganlyn; canys nid yw y gair am “fryniau” yn dynodi lleoedd iselach na mynyddoedd, ond gellir ei gyfieithu “bannau:” unrhyw uchelfanau a feddylir.
A dyrchefir ef uwchlaw y bryniau;
A phobloedd a ddylifant iddo;
2Ac ä cenedloedd lawer, a dywedant,
“Deuwch ac esgynwn i fynydd Iehofa,
Ac i dŷ Duw Iacob;
A dysg i ni ei ffyrdd,
A rhodiwn yn ei lwybrau:”
Canys o Sïon y daw allan gyfraith,
A gair Iehofa o Ierusalem;
3A barna rhwng pobloedd lawer,#4:3 Pwy neu beth oedd i farnu? “Gair Iehofa,” medd rhai, ond Iehofa ei hun medd eraill. Mwy cymhwys yw cymeryd y gair, “A cherydda,” &c., neu, “Ac argyhoedda.” Arwydda y gair arddangos peth yn eglur trwy brofion, a hyny er argyhoeddi neu geryddu.
A cherydda genedloedd cedyrn hyd ymhell;
A churant eu cleddyfau yn sychau,
A’u gwaewffyn yn bladuriau;
Ni chyfyd cenedl yn erbyn cenedl gleddyf,
Ac ni ddysgant mwyach ryfel;
4Ond eisteddant pob un dan ei winwydden,
A than ei ffigysbren, heb neb yn peri dychryn;
Canys genau Iehofa y lluoedd a lefarodd hyn;
5Canys yr holl bobloedd sy’n rhodio,
Pob un yn enw ei dduw ei hun,
A ninnau hefyd, rhodio a wnawn
Yn enw Iehofa ein Duw dros oesoedd a byth.#4:5 Nid cyson y cyfieithiad cyffredin â dechreu y bennod, lle dywedir am bobloedd yn dylifo i Sion, a’r “holl bobloedd,” fel ei cawn yn Esay, yr ail bennod, lle y rhoir y brophwydoliaeth hon ymron air yn ngair, ond heb y ddwy adnod olaf hyn. Yr oedd “yr holl bobloedd” yn rhodio y pryd hyny yn enw eu duwiau, ond deuai’r amser y byddent hwy ac Israel i rodio yn enw Iehofa.
6Yn y dydd hwnw,#4:6 Sef y dydd y cyfeiria ato yn nechreu y bennod, hyny yw, dydd yr efengyl yn ei gyflawn ystyr, a dydd dychweliad o Babilon fel cysgod o hono. Y mae’r ddau beth yn cael eu golygu, ond yn benaf, dydd yr efengyl. medd Iehofa,
Casglaf y gloff, a’r gwasgaredig a gynnullaf,
A’r hon a gystuddiais;
7A gwnaf y gloff yn weddill,
A’r hon a yrwyd ymhell yn genedl gref;
A theyrnasa Iehofa arnynt,
Yn mynydd Sïon, o’r pryd hyn hyd byth.
8A thi, tŵr y praidd, caer merch Sïon,
I ti y dygwydd;#4:8 Dywed yn y llinellau a ganlynant beth oedd i ddygwydd neu i ddyfod iddi, sef y llywodraeth flaenorol. Gan lwyth Iowda yr oedd y llywodraeth o’r blaen. Llwyth Iowda a drigai yn Ierusalem, oedd eto ei chael, ac felly y bu.
Ië, daw y llywodraeth flaenorol —
Y deyrnas, i ferch Ierusalem.
9Yn awr, pam y gwaeddi waedd?#4:9 Neu, fel y gellir cyfieithu y geiriau, “Yn awr pam y gwaeddi ‘Drygfyd?’” Gwedi rhoddi addewid o waredigaeth, try at ei genedl oedd mewn mawr drallod, a gofyn yr achos. Yr oedd ganddi eto frenin a chynghorwyr, am mai felly y dylid ystyried y ddau ofyniad. Eto yr oedd mewn gwewyr fel gwraig wrth esgor. Nid addawa iddi seibiant; rhaid iddi fod mewn gwewyr hyd onid aethai i gaethglud; ac wedi hyny y cai esgoriad neu waredigaeth. Hynod o ddarluniadol yw y rhan hon:
Ai nid oes brenin genyt?
A yw dy gynghorydd wedi marw?
Canys cymerodd di wewyr
Fel eiddo gwraig wrth esgor.
10Bydd mewn gwewyr a gruddfana,
Ferch Sïon, fel gwraig wrth esgor;
Canys allan yr ëi yn awr o’r ddinas,
A thrigi yn y maes, ac ëi hyd Babylon:
Oddiyno y gwaredir di,
Yno yr achub Iehofa di o law dy elynion.
11Ond yn awr ymgasglodd yn dy erbyn#4:11 Rhydd yma ddarluniad o amgylchiad y genedl yn amser ei chaethgludiad; llawer yn ei herbyn â’u bryd i’w dinystrio. “Haloger hi,” hyny yw, “dinystrer hi.” Mae “edrych,” ar un yn arwyddo goruchafiaeth neu fuddygoliaeth. Gwel Salm 22:17. “Yn edrych arnaf,” sef fel un wedi ei oresgyn. Gwel hefyd Salm 118:7. “Am hyny caf edrych ar fy nghaseion;” felly y dylid cyfieithu. “Edrych ar Sïon,” oedd gorfoleddu o herwydd ei darostyngiad.
Genedloedd lawer, y rhai a ddywedant,
“Haloger hi, ac edryched ar Sïon ein llygaid.”
12Ond hwy, ni wyddant fwriadau Iehofa,
Ac ni ddeallant ei gynghor;
Canys casgla hwynt fel ysgubau i’r llawrdyrnu:#4:12 Nid oedd y rhai a orfoleddent am iselhad Sïon yn gwybod y caent hwythau eu goresgyn. Addewir yma eu casglu fel ysgubau i’w dyrnu, a gelwir ar Sïon i’r gwaith hwn. Y drefn o ddyrnu y pryd hyny oedd sathru yr ŷd gan draed ychain; am hyny y dywedir yma am “gorn” a “charnau.” Y peth a feddylir yw, y byddai Sïon, sef pobl Israel, yn cael ei chynnysgaethu â gallu digonol er goresgyn ei gelynion, ac y byddai iddi gysegru yr “elw,” sef aur ac arian, a’r “meddiannau,” sef pethau gwerthfawr eraill, i wasanaeth Duw.
13Cyfod a dyrna, ferch Sïon,
Gan y gwnaf dy gorn yn haiarn,
A’th garnau a wnaf yn bres,
Fel y drylliot bobloedd lawer;
A chysegri i Iehofa eu helw,
A’i meddiannau i Arglwydd yr holl ddaear.

انتخاب شده:

Mica 4: CJO

های‌لایت

به اشتراک گذاشتن

کپی

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید