Mica 3

3
PENNOD III.
1A dywedais,#3:1 Wedi cyhoeddi y farn oedd ar ddyfod yn niwedd y bennod flaenorol, cyfeiria yma ei ymadrodd at benaethiaid y bobl — y barnwyr; dengys eu creulondeb trwy eu cymharu i gigyddion; ac o herwydd y creulondeb hwn, pan ddelai y farn, ni byddai i Dduw eu gwrandaw, er gwaeddi o honynt arno. — gwrandewch attolwg, benaethiaid Iacob,
A llywodraethwyr tŷ Israel:
Onid i chwi y perthyn gwybod barn? —
2Yr ydych yn casáu’r da ac yn caru’r drwg;
Yn blingo eu croen oddi am danynt,
A’u cig oddiwrth eu hesgyrn!
3Ac o herwydd y bwytasant gnawd fy mhobl,
A’u croen oddi am danynt y blingasant,
A’u hesgyrn y drylliasant ac y briwasant,
Fel yr hyn sydd yn y crochan,
Ac fel cig sydd o fewn y badell;#3:3 Dryllid yr esgyrn i’w rhoi mewn crochan; briwid y cig i’w roi mewn padell.
4Ië, er y gwaeddant ar Iehofa,
Eto nid ateba hwynt;
A chuddia ei wyneb rhagddynt y pryd hwnw,
O herwydd yn ddrwg y gwnaethant eu gweithredoedd.
5Fel hyn y dywed Iehofa,
Am y prophwydi a ŵyrdroant fy mhobl,#3:5 Neu, “a dwyllant fy mhobl;” hyny yw, trwy addaw iddynt heddwch pan nad oedd heddwch.
Y rhai a gnoant â’u dannedd,#3:5 Sef cnoi bwyd; tra y caffent ymborth, yr oeddent yn prophwydo heddwch; ond os na chaent “y dorth a’r pysgod,” cyhoeddent ryfel yn y fan.
Ac a waeddant, “Heddwch;”
Ond y neb na roddo yn eu penau,
Darparant yn ei erbyn ryfel:
6O herwydd hyn nos fydd i chwi, heb weledigaeth;#3:6 Neu, “yn lle gweledigaeth,” ac felly yn y llinell nesaf, “yn lle dewiniaeth.” Felly y cyfieitha Calvin.
A thywyllwch fydd i chwi, heb ddewiniaeth;
Ië, machluda’r haul ar y prophwydi,
A dua arnynt y dydd:
7Yna cywilyddia y gweledyddion,
A chythrudda y dewiniaid;#3:7 Neu daroganwyr, y rhai a ragddywedant am bethau i ddyfod. Nid ystyr dda sydd i’r gair yn gyffredin; a gelwir felly, y rhan amlaf, y gau-brophwydi. “Gorchuddio’r genau,” oedd nod o alar ac o warth. Gwel Lef. 13:45; Esec. 24:22.
A gorchuddiant eu genau, bawb o honynt,
Gan na fydd ateb oddiwrth Dduw.
8Ond diau myfi, llawn wyf o nerth gan Ysbryd Iehofa,
O iawn-farn hefyd ac o wroldeb,#3:8 “Nerth.” Gwel Luc 1:17; 24:49. “Nerth” oedd y gallu goruwchnaturiol a dderbyniasai tuag at gyflawni ei swydd fel prophwyd. Ynghyd a hyn oedd “iawn-farn” i wahaniaethu rhwng pethau; a “gwroldeb,” neu ddewrder ysbryd, i wynebu pob dirmyg a gwawd: tri pheth anghenrheidiol eto er cyflawni y swydd weinidogaethol.
I ddatgan i Iacob ei drosedd
Ac i Israel ei bechod.
9Clywch attolwg hyn, benaethiaid tŷ Iacob,
A llywodraethwyr tŷ Israel;
Y rhai a ffieiddiant farn
A phob uniondeb a wyrdroant;
10Gan adeiladu Sïon â gwaed,
Ac Ierusalem â chamwedd!#3:10 Wrth “farn” y deallir yn aml iawn, farn, neu farniad cywir. Ffieiddient hyn, a chollfarnent y gwirion er cael ei feddiannau i adeiladu Sïon. Gŵyrdröent y peth oedd gywir, a dyma y “camwedd” a ddefnyddient er adeiladu Ierusalem. Gellir troi y geiriau, “A phob peth union a gamant.”
11Ei phenaethiaid, am wobr y barnant,
A’i hoffeiriaid, am gyflog y dysgant,
A’i phrophwydi, am arian y dewinant;
Eto ar Iehofa y gorphwysant,
Gan ddywedyd, “Onid yw Iehofa yn ein canol?
Ni ddaw arnom ddrwg.”
12Am hyny, o’ch achos chwi,
Sïon fel maes a erddir,
Ac Ierusalem yn garneddau a fydd,
A mynydd y tŷ#3:12 Sef y deml, a elwir yn neillduol “y tŷ.” fel uchelfanau coedwig.

انتخاب شده:

Mica 3: CJO

های‌لایت

به اشتراک گذاشتن

کپی

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید