Hosea 9
9
PENNOD IX.
1Na lawenha Israel,#9:1 Pan yn mwynhau llawndid; canys yr oedd Israel, er cymaint y bendithion a gawsant, yn euog o ymadael oddiwrth Dduw, ac am hyny yn agored i’r barnau a gyhoeddasid. gan orfoledd, fel y cenedloedd;
Canys puteiniaist, gan ymadael oddiwrth dy Dduw:
Ceraist wobrau ar bob llawr yd.#9:1 Cyfrifai Israel amledd ŷd fel gwobrau a roddid iddynt gan eu gau-dduwiau. Gwel pen. 2:5-9. Yna canlyn y barnau a ddeuai arnynt.
2Nid y llawr-dyrnu na’r gwinwryf a’u portha;
A metha iddynt y gwin newydd.
3Ni chânt drigo yn ngwlad yr Arglwydd;
Ond dychwel Ephraim i’r Aipht,
Ac yn Assyria yr hyn sydd aflan a fwytânt.
4Ni thywalltant i’r Arglwydd win,
Ac ni bydd cymeradwy ganddo eu haberthau;
Fel bara galarwyr y byddant iddynt,
Pawb a’i bwytânt a halogir;
Dïau eu bara a fydd iddynt eu hunain,
Ni ddaw i dŷ yr Arglwydd.#9:4 Yn eu halltudiaeth ni fyddai modd iddynt gyflawni defodau crefyddol fel yn ngwlad Canaan.
5Beth a wnewch ar ddydd yr ymgynnull,
Ac ar ddydd cylchwyl yr Arglwydd?
6Canys, wele ânt ymaith rhag y dinystrydd;
Yr Aipht a’u casgla, Memphis a’u cladd hwynt:#9:6 Sef, byddant farw yn yr Aipht, a chleddir hwynt yn Memphis. Mae “casglu” yn aml yn dynodi marw; Num. 20:26. Memphis oedd dref yn yr Aipht, yn nodedig fel claddfan.
Trysorfanau eu harian, y danadl a’u hetifedda;
Y drain a fydd yn eu pebyll.
7Daeth dyddiau yr ymweliad!
Daeth dyddiau talu’r pwyth!
Adnebydd Israel ef yn ynfyd — y prophwyd,
Yn wallgof, ddyn yr ysbryd:
O herwydd amlder dy anwiredd,
Amlhaodd hefyd y dygasedd.#9:7 Y “dygasedd” oedd y gau-brophwyd, neu “ddyn yr ysbryd,” yr hwn a hònai fod ganddo ysbryd prophwydoliaeth. Yr “anwiredd” oedd eilun-addoliaeth.
8Gwyliedydd Ephraim!
Gyda’m Duw yn brophwyd!#9:8 Sef, yn ol ei broffes, ond nid yn wirioneddol.
Magl yr adarwr yw ar ei holl ffyrdd.
Yn ddygasedd yn nhŷ ei Dduw.#9:8 “Dygasedd,” neu yn beth dygas, ffiaidd, adgas.
9Dwfn ymlygrasant fel yn nyddiau Gibea:#9:9 Gwel Barn. 19:22-30.
Cofia eu hanwiredd,
A gofwya eu pechodau.
10Fel grawnwin#9:10 Grawnwin a ffigys ydynt dra dymunol mewn lle anial. Felly y cyfrifai Duw Israel pan ddygodd hwynt o’r Aipht; ond troisant at Baal-peor. yn yr anialwch y cefais Israel,
Fel blaenffrwyth ar y ffigysbren,
Yn eu dechreu y gwelais eich tadau:
Hwy — aethant at Baal-peor,
Ac ymroddasant i warth,
A daethant yn ffiaidd fel eu cariad.#9:10 Sef yr eilun — Baal-peor; hwn a garent yn lle Duw.
11Ephraim fel aderyn a eheda ymaith,
Felly eu gogoniant oddiwrth enedigaeth,
Ac oddiwrth y bru, ac oddiwrth y beichiogi.#9:11 Eu “gogoniant” oedd eu llïosogiad. Enwa yn gyntaf eni, yna y bru, ac yna beichiogi, gan fyned megys yn ei wrthol.
12Ond os dygant i fyny eu plant,
Eto dygaf hwynt ymaith fel na byddont ddynion:
Yn ddïau hefyd gwae hwynt!
Pan ymadawyf oddiwrthynt.
13Ephraim, yn ol yr hyn a welais yn Tyrus,
Sydd blanigyn mewn cyfanneddle:
Eto rhaid i Ephraim ddwyn allan i’r lleiddiad ei blant!#9:13 Er mor dyner a moethus y magent eu plant, eto magent hwynt i’r lladdfa.
14Rho iddynt, Arglwydd — beth a roddi?
Rho iddynt fru dieppil a bronau sychion.#9:14 Gan feddwl am ddiwedd y plant, chwennychai y prophwyd na fyddai plant iddynt.
15Eu holl ddrygioni sydd yn Gilgal;
O herwydd yno y casëais hwynt:
Am ddrwg eu gweithredoedd, o’m tŷ y gyraf hwynt allan;#9:15 “Tŷ” yma oedd gwlad Canaan. Geilw Duw Israel ei deulu; a thra yr oeddynt yn Nghanaan, yr oeddynt megys yn ei dŷ.
Ni chwanegaf eu caru;
Eu holl dywysogion ydynt wrthgilwyr.
16Tarewir Ephraim; eu gwraidd a wywa;
Ffrwyth ni ddygant; eto os cenedlant,
Lladdaf anwylion eu bru.#9:16 Felly y gelwir plant neu fabanod.
17Gwrthoda fy Nuw hwynt,
Am na wrandawent arno:
A byddant grwydraid yn mysg y cenedloedd.
انتخاب شده:
Hosea 9: CJO
هایلایت
به اشتراک گذاشتن
کپی

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Proffwydi ac Epistolau gan John Owen. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.