Hosea 8
8
PENNOD VIII.
1At dy enau yr udgorn!
Fel eryr, yn erbyn tŷ yr Arglwydd:#8:1 “Eryr,” nôd o gyflymdra. “Tŷ,” nid y deml, ond pobl Israel, a elwid yn dŷ neu deulu Duw. Dyma yr ystyr, fel y dengys y geiriau a ganlynant.
O herwydd torasant fy nghyfammod,#8:1 Gwel pen. 6:7.
Ac yn erbyn fy neddf y troseddasant.
2Arnaf y gwaeddant, “Fy Nuw,
Adwaenwn ni Israel dydi.”
3Bwriodd Israel ymaith ddaioni;#8:3 Sef gwir grefydd.
Y gelyn a’i hymlidia.
4Hwy a deyrnasasant, ond nid trwof fi;
Llywodraethasant, ond nis gwyddwn:#8:4 Felly yr hen gyfieithiadau oll ond y Targum. Nis “gŵyr” Duw y peth nad yw yn ol ei ewyllys. Tan y fath lywodraeth y tröent eu harian a’u haur i wneuthur delwau.
Eu harian a’u haur a wnaethant iddynt eu hun yn
ddelwau.
Am hyny torir hwynt ymaith.
5Bwria ymaith dy lo, Samaria: —
Poethodd fy nigder i’w herbyn;
Pa hyd ni oddefant lanhâd!
6Yn wir o Israel ydyw, ïe efe;#8:6 Sef y llo a wnaethant i’w addoli. Nid o’r cenedloedd, ond o Israel yr oedd: ei ddechreu oedd yn yr anialwch; Ecsod. 32.
Y celfydd a’i gwnaeth ac nid Duw ydyw:
Dïau yn ddarnau y bydd llo Samaria.
7Yn ddïau gwynt a hauant,
Ond y corwynt a fedant:
Corsen ni bydd iddo;#8:7 Sef i’r hyn a hauent.
Gronyn ni ddwg y dywysen;
Ac os dwg, estroniaid a’u llyncant.
8Llyncir Israel;#8:8 Hyny yw, y meddiannau a berthynent i Israel. “Yn awr,” neu yn fuan: felly ei ystyr yn aml. yn awr byddant yn mysg y cenedloedd,
Fel llestr heb hoffder ynddo:
9Canys hwy — esgynant i Assyria;
Asyn gwyllt yn unig wrtho ei hun y bu Ephraim;
Cyflogasant gariadau.
10Ïe, am y cyflogant yn mysg y cenedloedd,
Yn awr casglaf hwynt, fel eu poener,
Dros ychydig gan faich brenin y tywysogion.#8:10 Cyfeirir yma at eu caethglud: mae eu “casglu” yn dangos hyn. “Brenin y tywysogion” oedd Brenin Assyria.
11Am yr amlhaodd Ephraim allorau er pechu,
Buont iddo allorau fel y pechai.#8:11 Caniatëid iddo y cyfle i bechu: felly y gwna Duw yn aml yn ei ragluniaeth. Pan byddo ewyllys i bechu, rhydd Duw, fel cosb, y rhwyddineb i gyflawni yr ewyllys.
12Ysgrifenais iddo fawrion bethau fy neddf;
Megys peth estronol y cyfrifwyd hwynt.
13Fy aberthau! fy offrymau gwastadol!
Aberthant gig a bwytânt;#8:13 Cyflawnant eu dyledswydd o ran aberthu ac offrymu; ond eu dyben oedd ymborthi ar y cig, a boddloni eu chwant.
Yr Arglwydd nis hoffodd hwynt.
Yn awr y cofia eu hanwiredd,
A gofwya eu pechodau:
Hwy — i’r Aipht y dychwelant.#8:13 Dynoda yr ymadrodd gaethiwed; nid am y byddai iddynt ddychwelyd yn wirioneddol i’r Aipht, gan y dynodir yn pen. 11:7, na chaent ddychwelyd yno, ond myned i Assyria: — “Buoch mewn caethiwed yn yr Aipht, cewch fyned eto i gaethiwed tebyg i’r un y buoch gynt ynddo.”
14Fel yr anghofiodd Israel ei Wneuthurwr,
Ac yr adeiladodd demlau;
Felly Iowda a amlhaodd ddinasoedd caerog:
Ond danfonaf dân i’w ddinasoedd,
Fel y difao ei balasau.
انتخاب شده:
Hosea 8: CJO
هایلایت
به اشتراک گذاشتن
کپی

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Proffwydi ac Epistolau gan John Owen. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.