Hosea 7

7
PENNOD VII.
1Pan yr oeddwn yn iachâu Israel,
Yna dadguddiwyd anwiredd Ephraim,
A drygioni Samaria;#7:1 Israel yma, fel yn pen. 7:10, oedd y naw llwyth, yn wahanol oddiwrth Ephraim. “Anwiredd,” oedd eilun-addoliaeth, a “drygioni” oedd drwg weithredoedd yn gyffredin.
Canys gweithredasant yn dwyllodrus;
A’r lleidr, daw i mewn;
Anrheithiodd yr yspeilydd oddiallan,
2Ac ni ddywedant wrth eu calon,#7:2 Hyny yw, nid ystyriant, ni feddyliant.
Y cofiaf eu holl ddrygioni:
Yn awr amgylcha hwynt eu gweithredoedd;#7:2 Yr oeddynt yn ngolwg Duw yn nghanol eu pechodau, yn cael eu hamgylchu ganddynt.
Ger bron fy wyneb y maent.
3Yn eu drygioni y llawenha’r breninoedd,#7:3 “Breninoedd:” felly yr hen gyfieithiadau, oddieithr y Vulgate. Gwel adn. 7. Cyd-ddrygioni eu breninoedd a’u tywysogion a ddynodir.
Ac yn eu celwyddau, y tywysogion.
4Hwynt oll ydynt odinebwyr!#7:4 Sef yn eilun-addolwyr. Mae pob drygioni yn cydfyned âg eilun-addoliaeth. Celwyddai y tywysogion wrth Dduw ac wrth eu breninoedd: addawent ffyddlondeb, ond tröent oddiwrth Dduw at eilunod, a lladdent eu breninoedd.
Maent fel ffwrn a ennynir gan bobydd:
Gorphwysa rhag cynhyrfu,
Rhag tylino y toes hyd oni lefeinia.#7:4 Rhydd y pobydd dân yn y ffwrn; arosa nes y twymno, ac nes y lefeinio y toes. Dynodai hyn ymddygiad y tywysogion; yr oedd tân cynllwyn yn eu calonau hyd yn nod ar ddydd gwledd eu brenin, mewn cof am ei enedigaeth, neu am ddechreu ei deyrnasiad. Arosent, fel y pobydd, nes byddai pob peth yn barod, ac yna y tân oedd ynddynt a dorai allan yn fflam ddinystriol.
5Dydd ein brenin! dechreuodd y tywysogion boethi gan win;
Estynodd efe ei law gyda gwatwarwyr!#7:5 Unai y brenin â hwynt i watwar gwir grefydd.
6Pan nesasant, fel ffwrn oedd eu calon gan eu cynllwyn;
Yr holl nos cysgodd eu poethder,
Y bore fe a gynneuodd fel tân fflamllyd.
7Hwynt oll — ymboethant fel ffwrn;
A difasant eu barnwyr;
Eu holl freninoedd a syrthiasant:
Ac ni alwodd neb o’u herwydd arnaf fi.#7:7 Er bod lladd eu breninoedd yn arwydd eglur o farn Duw, eto ni wnai hyn beri iddynt alw ar Dduw; anghofient yn hollol ei ragluniaeth.
8Ephraim — â’r cenedloedd yr ymgymysgodd efe;#7:8 Trwy eilun-addoliaeth a chynghreiriau.
Ephraim — daeth yn deisen heb ei throi:#7:8 Yn dda i ddim — wedi llosgi ar un ochr, ac yn does ar y llall.
9Difaodd estroniaid#7:9 Y Syriaid, ac eraill. ei gryfder,
Ond efe nid yw yn gwybod;
Penwyni hefyd a ymdaenodd arno,
Ond efe nid yw yn gwybod;
10Ac iselhawyd balchder Israel sydd yn ei wyneb:#7:10 Gwel pen. 5:5.
Ond ni ddychwelasant at yr Arglwydd eu Duw,
Ac ni cheisiasant ef er hyn oll.
11A bu Ephraim fel colomen wirion heb ddeall;#7:11 “Heb galon,” yn llythyrenol; ond calon, yn Hebraeg, a ddynoda yn fynych y meddwl, y deall, yr amgyffred.
Ar yr Aipht y galwasant,
At yr Assyriad yr aethant.
12Pan yr elont, taenaf drostynt fy rhwyd;
Ac fel adar y nefoedd, dygaf hwynt i lawr;
Cosba hwynt fel y mynegwyd i’w cynnulleidfa,#7:12 Gwel pen. 5:9.
13Gwae hwynt! o herwydd ffoisant oddiwrthyf;
Dinystr iddynt! o herwydd gwrthryfelasant i’m herbyn:
A Myfi — gwaredais hwynt;
Ond hwy — dywedasant wrthyf gelwyddau;#7:13 Trwy addaw ufudd-dod, a myned ar ol eilunod.
14Ac ni waeddant arnaf â’u calon,
Pan udant ar eu gwelyau:
Am yd a gwin newydd yr ymgasglant;#7:14 Sef yn nhemlau eu heilunod.
Troant yn fy erbyn.
15Wedi eu ceryddu, cryfheais eu breichiau;
Ond yn fy erbyn y dychymygant ddrwg;#7:15 Ceryddu oedd trwy rybuddion a barnau. Cryfhau y fraich oedd chwanegu eu gallu a’u golud. Dychymygu “drwg” oedd trefnu ffordd i droi at eilun-addoliaeth, neu i gael help gan yr Aipht neu Assyria.
16Dychwelant — nid ataf fi;
Maent fel bwa twyllodrus:#7:16 Addawent droi at Dduw, yn lle hyny tröent at eilunod; — y bwa a annelid at un nôd yn troi at nôd arall.
Syrthia gan y cleddyf eu tywysogion,
O herwydd rhyfyg eu tafod:#7:16 Eu “rhyfyg” oedd tori eu haddewidion: syrthiad eu tywysogion oedd yn farn am hyn: a byddai hyn yn warth iddynt gan yr Aiphtiaid, y rhai a ddangosent fawr barch i’w tywysogion.
Hyn fydd yn wawd iddynt yn ngwlad yr Aipht.

انتخاب شده:

Hosea 7: CJO

های‌لایت

به اشتراک گذاشتن

کپی

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید