Hosea 10
10
PENNOD X.
1Gwinwydden ordyfol#10:1 Arwydda y gair arloesi: trwy arloesi y nodd y daw tyfiant. Dyma ystyr yr hen gyfieithiadau oddieithr y Targum, a’r unig ystyr sy’n cydweddu â’r lle. Yr oedd y ffrwyth yn cyfateb i’w thyfiant; yn ol amlder y ffrwyth yr oedd amlder yr allorau i gau-dduwiau; ac yn ol daioni neu ffrwythlondeb y tir, yr oedd addurniadau y delwau. yw Israel;
Y ffrwyth a gyfateb iddi ei hun:
Yn ol amlder ei ffrwyth, yr amlhaodd allorau;
Yn ol daioni ei dir, yr harddasant ddelwau.
2Ymranodd eu calon,#10:2 Rhwng Duw ac eilunod. yn awr berni hwynt yn euog;
Efe — tor i lawr eu hallorau, dystrywia eu delwau.
3Ond yn awr dywedant, “Nid oes brenin genym,
O herwydd nid ofnasom yr Arglwydd;
A brenin — beth a all wneyd i ni?”
4Llefarasant eiriau, llwon ofer,
Wrth wneuthur cyfammod;
Felly egina farnedigaeth fel y wermod#10:4 Amrywia deonglwyr o ran y gair hwn: tebyg yw mai y chwyn mwyaf naturiol i’r tir a feddylir. Fel y tyf peth o’r fath hyn pan aradir y ddaear, felly barnau Duw a welid tros wyneb yr holl wlad.
Sydd ar hyd rhychau y maes.
5Am lo mawr#10:5 Felly yr Esgob Horsley; ac felly y dywedir am dano yn y geiriau a ganlynant — “drosto” — “ei bobl” — “ei ogoniant,” &c. Beafen
Y dychryna preswylwyr Samaria;
Canys galara drosto ei bobl,
Ei offeiriaid hefyd (am dano a orfoleddent)
O herwydd ei ogoniant, gan yr ymadawodd oddiwrtho;
6Efe hefyd i Assyria a ddygir
Yn anrheg i’r brenin cynhenus:
Gwarth a dderbyn Ephraim,
Ïe, cywilyddia Israel am ei gynghor,#10:6 Yn cefnogi delw-addoliaeth.
7Dinystrir Samaria; ei brenin,
Bydd fel ewyn ar wyneb y dwfr:
8A dystrywir uchelfëydd Afen — pechod Israel;
Drain a mïeri a dyfant dros eu hallorau,
A dywedant wrth y mynyddoedd, “Cuddiwch ni,”
Ac wrth y bryniau, “Syrthiwch arnom.”
9Er dyddiau Gibea pechaist di, Israel;
Yno y safasant:#10:9 Y maent yr un ag oeddynt y pryd hyny.
Ni fena arnynt y rhyfel yn Gibea yn erbyn plant trawsder:#10:9 Ni chymerant un rhybudd oddiwrth yr hyn a ddygwyddodd i lwyth Beniamin. Gwel Barn. 19:22-30.
10Yn fy mwriad y mae, a cheryddaf hwynt;
A chasgla yn eu herbyn genedloedd,
Pan y ceryddwyf hwynt am eu dau anwiredd.#10:10 Felly yn ol yr hen gyfieithiadau oll, oddieithr y Targum. Y “ddau anwiredd” oeddynt y llo a addolent, a’r Baalim a aberthent iddynt.
11Ond Ephraim — anner a ddysgwyd yw, yn caru dyrnu;#10:11 Ni fynai aredig — y gwaith caletaf — ond gwell oedd ganddi ddyrnu yr yd, ac ymborthi arno.
A myfi — aethum heibio iddi o herwydd harddwch ei gwddf:#10:11 “Aethum heibio iddi,” heb osod arni yr iau. Yna y canlyn yr hyn a drefnodd Duw i Ephraim, i Iowda, ac i Iacob, a arwydda yma y naw llwyth. Noda hefyd yr hyn a orchymynodd iddynt — hau yn gyfiawn a medi yn drugarog. Nid oeddynt i hau heb fraenaru, na gwneyd un o’r pethau heb geisio gan Dduw roddi y gwlaw yn ei bryd. Ond yn lle trin y tir fel hyn, gwnaethant yn hollol i’r gwrthwyneb, fel y dangosir yn yr adnod ganlynol.
“Gwnaf Ephraim i farchogaeth,
Ardda Iowda, llyfna iddo Iacob:
12Heuwch i chwi yn ol cyfiawnder,
Medwch yn ol yr hyn a ofyn trugaredd;
Braenarwch i chwi fraenar;
Yna’r pryd a fydd i geisio yr Arglwydd,
Hyd oni ddelo ac y gwlawio gyflawnder i chwi.”#10:12 Sef, cyflawn fesur o wlaw. Y gair am gyflawnder sydd yn arwyddo cyflawn fesur, neu gyflawn bwys; Lef. 19:36.
13 Ond arddasoch anghyfiawnder,
Gormes a fedasoch:
Ymborthasoch ar ffrwyth twyll;
Canys ymddiriedaist yn dy ffordd dy hun,
Yn amlder dy gedyrn.
14Ond cyfyd terfysg yn mysg dy bobloedd,
A’th holl gaerfanau a ddinystrir,
Fel y dinystriodd Salman Beth-arbel;#10:14 Bernir mai Salman oedd Salmaneser. Nid oes hanes am y lladdfa hwn; ond dïammhau mai adnabyddus oedd yn gyffredin yn nyddiau y prophwyd.
Ar ddydd y rhyfel,
Y fam yn nghyd â’i phlant a ddrylliwyd.
15Fel hyn y gwna Bethel i chwi,
O herwydd drygedd eich drygioni:
Yn fore#10:15 Sef, yn fuan. gan ddinystrio y dinystrir brenin Israel!
انتخاب شده:
Hosea 10: CJO
هایلایت
به اشتراک گذاشتن
کپی

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Proffwydi ac Epistolau gan John Owen. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.