Hosea 13

13
PENNOD XIII.
1Pan lefarai Ephraim, yr oedd dychryn;#13:1 Ofnid ei awdurdod; a’r mwyaf oedd yn mysg y deg llwyth.
Dyrchafwyd ef yn Israel;
Ond troseddodd trwy Baal, a bu farw.
2Ac yn awr chwanegant bechu,
A gwnant iddynt dawdd-ddelw o’u harian,
Trwy eu celfyddyd, eilunod —
Gwaith y cywrain oll o hono:
O’u herwydd hwy a ddywedant,
“Aberthwch y dynion a gusanant y lloi.”#13:2 Felly yr hen gyfieithiadau oll o ran y gair “aberthwch.” Y chwanegol “bechu” oedd gwneuthur “eilunod” o’u harian, ac erlid y rhai a addolent ddim arall. O ran eu prydedd dros eu heilunod newyddion, gorchymynent aberthu neu ladd y dynion a gusanent neu a addolent y lloi. Er bod addoli y lloi yn bechadurus, eto gan eu cyfrifid hwynt yn cynddelwi y gwir Dduw, nid oedd eu haddoliad mor ddrwg ag eilunaddoliaeth. Gwelwn yn pen. 5:2, y byddid yn lladd addolwyr Duw, cymaint oedd gelyniaeth eilun-addolwyr tuag atynt. Ond yn awr, dyma chwanegiad; gan y cydnabyddid y gwir Dduw gan addolwyr y lloi, cymaint oedd prydedd eilun-addolwyr fel y gorchymynent eu lladd hwythau hefyd.
3Am hyny y byddant fel cwmwl y boreu,
Ac fel gwlith boreuol yn ymadael,
Fel us a yrir o’r llawrdyrnu,
Ac fel y mwg o’r ffumer.
4Ond myfi yr Arglwydd —
Dy Dduw a fu’m o wlad yr Aipht,
A Duw hebof fi nid adwaenit,
Neu Waredydd onid myfi.
5Myfi — adwaenais di yn y diffeithwch,
Yn nhir y sychder mawr;
6Fel yn eu porfa,#13:6 Sef, yn ngwlad Canaan, lle cawsent bob llawndid. Mae “adwaen” yn dynodi gofal a rhagluniaeth. Gofalai Duw am danynt yn yr anialwch, ac felly hefyd wedi eu dwyn i Ganaan. pan eu digonwyd:
Digonwyd hwynt, a dyrchafodd eu calon;
O herwydd hyny anghofiasant fi.
7Ond byddaf iddynt megys llew,
Fel llewpard ar y ffordd y dysgwyliaf:
8Cyfarfyddaf â hwynt fel arth a amddifadwyd,
A rhwygaf orchudd eu calon,
A difäaf hwynt yno fel llew;
Bwystfil y maes — llarpia hwynt.
9Dy ddinystr, Israel!#13:9 Darlunir ei dinystr yn yr adnodau blaenorol.
Pwy yn fy erbyn a fydd yn borth i ti?
10P’le mae dy frenin yn awr,
Fel yr achubo di yn dy holl ddinasoedd?
Dy farnwyr hefyd? canys dywedaist,
“Rho i mi frenin a thywysogion:”
11Rhoddais i ti frenin yn fy nigder,
A chymerais ef ymaith yn fy nigllonedd.
12Clymwyd ynghyd anwiredd Ephraim,
Gosodwyd megys mewn dirgelfan ei bechod.#13:12 Yn llythyrenol, “Dirgelwyd ei bechod;” ond arwydda “dirgelu,” yr hyn a wneir pan y gosodir peth mewn lle dirgel i’r dyben i’w gadw yn ddïogel: hyn a feddylir yma. “Clymu ynghyd” a arwydda yr un peth. Ni wnai Duw anghofio anwiredd Ephraim na’i bechod, ei eilun-addoliaeth na’i ddrwg weithredoedd; ond cofiai hwynt er eu cosbi.
13Dirloesau un yn esgor a ddeuant arno:
Efe — mab heb ddoethineb yw,
Canys ni ddylai yn awr aros yn esgorfa’r plant.#13:13 Poenau esgor oeddynt farnau Duw, a ddanfonai er eu diwygio. Ni ddaeth esgorfa, ni ddaeth diwygiad. Pe esgorasid, pe diwygiasid, yna gwnaethai Duw trostynt yr hyn a ddywed yn yr adnod ganlynol: pe buasent yn ngafael “angeu” a’r “bedd,” gwaredasai hwynt.
14 Onide, o law y bedd yr achubwn hwynt,
Rhag angeu y gwaredwn hwynt;
Byddwn yn ddystryw i ti, angeu,
Byddwn yn ddifrod i ti, fedd:
Ond edifeirwch a guddir o’m golwg.#13:14 Ni chafai le neu achos i edifarhau o ran y barnau a fygythiodd.
15Dïau efe — yn mysg brodyr y mae’n ffrwythlawn;#13:15 Ystyr y gair Ephraim yw “ffrwythlawn:” ac felly yr oedd yn ol prophwydoliaeth Iacob. Gen. 49:22.
Daw dwyreinwynt, gwynt yr Arglwydd,#13:15 Sef, a ddanfonid gan yr Arglwydd.
O’r anialwch y daw i fyny;
A sycha ei ffynnon, a dïyspydda ei darddell:
Hwn#13:15 Brenin Assyria, a ddynoda y gwynt. 6 a anrheithia drysorfan pob llestr dymunol.
16Euogfernir Samaria;
Canys gwrthryfelodd yn erbyn ei Duw;
Trwy’r cleddyf y syrthiant,
Eu babanod a ddryllir,
A rhwygir eu beichiogion.

انتخاب شده:

Hosea 13: CJO

های‌لایت

به اشتراک گذاشتن

کپی

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید