Lle i Anadlu Sampl
![Breathing Room](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F9324%2F1280x720.jpg&w=3840&q=75)
Dw i'n cyfaddef: Dw i'n hoffi plesio pobl. (Ti hefyd?) Ond dw i wedi sylweddoli bod rhywbeth o’i le ar hynny. Mae plesio pobl hefyd yn golygu fy mod i'n siomi pobl. Mae gweithio'n hwyr i blesio'r bos yn golygu siomi'r ffrind oedd eisiau mynd i’r gampfa gyda ti. Mae ymuno â'r clwb llyfrau i blesio dy ffrindiau yn golygu siomi dy briod trwy golli cinio teulu. Ti’n gweld? Mae pob ie i blesio rhywun hefyd yn na a allai siomi rhywun arall.
Os wyt ti fel fi, rwyt ti'n talu am yr holl blesio pobl yma drwy hepgor y lle i anadlu er mwyn ceisio gwneud y cyfan. Gwna i fwyta cinio adre a fydda i ond ychydig funudau'n hwyr i’r clwb llyfrau!
Wrth ddod â’r sylwadau ar le i anadlu i ben, dw i am rannu stori o'r Hen Destament - un adnod yn benodol – wnaeth newid fy mywyd yn llwyr ar un adeg. Gannoedd o flynyddoedd cyn dyddiau Iesu, roedd dinas Jerwsalem wedi cael ei choncro a'i dinistrio. Roedd angen ailadeiladu waliau’r ddinas ar frys, a Nehemeia oedd y boi oedd yn arwain y prosiect. Un diwrnod, derbyniodd wahoddiad, a daeth ei ymateb yn bennill ddiffiniol i mi. Dywedodd Nehemeia, “Dw i’n gwneud gwaith pwysig, ac felly alla i ddim dod. Alla i ddim gadael i’r gwaith stopio er mwyn dod i’ch cyfarfod chi”
Pan glywais yr adnod yna gyntaf, roedd gen i dri plentyn bach gartref, roeddwn i'n dysgu’r hynaf gartref, ac roedd fy ngŵr wedi plannu eglwys. Doedd dim lle i anadlu. Ac eto, roedd hi mor anodd i mi wrthod gwahoddiadau a chyfleon.
Yr hyn wnes i ei ddarganfod yng ngeiriau Nehemeia oedd caniatâd i i roi blaenoriaeth i’r bobl bwysicaf yn fy mywyd. Bod yn fam oedd fy “ngwaith pwysig” i. Allwn i ddim ymuno â’r pwyllgor hwnnw neu siarad yn y cwrdd gwragedd hwnnw. Byddai dweud ie wrth y pethau hynny yn golygu dweud na wrth y “gwaith pwysig”, sef fy nheulu.
Ffrindiau, gallwn daflu ein hunain, ein hamser, ein harian, a'n lle i anadlu i ffwrdd nes bod dim ond briwsion i'r rhai rydyn ni'n eu caru fwyaf. Yn lle hynny, gadewch inni ddod â'r lle i anadlu yn ôl trwy roi blaenoriaeth i'n hanwyliaid. Wedyn i bopeth arall, gallwn ateb yn syml, “Dw i’n gwneud gwaith pwysig ac felly alla i ddim dod.”
Os gwnaethoch chi fwynhau'r cynllun hwn, gwyliwch yr astudiaeth fideo 4 rhan y daeth ohoni trwy lawrlwytho yr ap defosiynol am ddim .
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
![Breathing Room](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F9324%2F1280x720.jpg&w=3840&q=75)
Wyt ti’n teimlo weithiau nad wyt ti’n gallu mwynhau unrhyw beth am dy fod yn ceisio gwneud popeth? Amldasgio dy ffordd trwy fywyd gyda'th anwyliaid. . . Rwyt ti’n effeithiol, ond rwyt ti wedi blino'n lân. Ti angen ychydig o le i anadlu. Gydag un gwahoddiad rhyfeddol o syml, mae Duw yn cynnig ffordd i gyfnewid cyflymder llethol bywyd am un a fydd o’r diwedd yn dod â heddwch i ti. Bydd y cynllun hwn yn dangos i ti sut.
More