Lle i Anadlu Sampl
![Breathing Room](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F9324%2F1280x720.jpg&w=3840&q=75)
Does dim rhaid i ti fod yn grefyddol i wybod am neu i ymarfer y syniad o Saboth - diwrnod o orffwys. Rydyn ni i gyd yn mwynhau ymlacio ar benwythnos araf, falle'n cysgu’n hwyr a chymryd hoe o brysurdeb y gwaith. Ond os wyt ti'n meddwl am Saboth dim ond fel dydd Sul tawel, rwyt ti'n colli'r rhan orau - y rhan fydd o'r diwedd yn rhoi lle i ti anadlu.
Beth am fynd yn ôl ychydig yn y stori sy’n arwain at y rhan heddiw o Exodus lle mae Duw yn cyflwyno’r Saboth. Roedd pobl Israel yn gaethion yn yr Aifft am 400 mlynedd, yn gweithio trwy'r dydd, bob dydd. Yna maen nhw'n cael eu rhyddhau ac mae'r genedl gyfan yn cerdded trwy'r anialwch am 40 mlynedd. Ac yma mae Duw yn rhoi'r gorchymyn iddyn nhw gadw’r Saboth - cymryd un diwrnod i ffwrdd bob wythnos.
Mae Duw yn dweud wrth grŵp o bobl oedd wedi bod yn gweithio rownd y cloc ers cannoedd o flynyddoedd, ac sydd bellach yn ceisio dod o hyd i ddigon o fwyd i fwydo miloedd o bobl yng nghanol anialwch, y dylen nhw gymryd diwrnod i ffwrdd. Mae'n rhaid ei fod wedi swnio'n hurt! Os na fydden nhw’n gweithio y diwrnod hwnnw, fydden nhw ddim yn bwyta'r diwrnod hwnnw.
Ond roedd gan Dduw gynllun. Yn Exodus 31:13, mae’n egluro y bydd cadw Saboth yn arwydd i’r Israeliaid mai “Fi ydy’r Arglwydd…” Roedd Duw yn dweud wrthyn nhw (ac wrthon ni), dw i am brofi i chi y gallwch fy nhrystio i. Dw i’n gwybod eich bod chi'n ofni mynd heb fwyd. Ond bydda i’n profi, wythnos ar ôl wythnos, y gallwch fy nhrystio i.
Falle eich bod chi'n gwybod gweddill y stori. Gyda’r manna a’r soflieir, ymatebodd Duw i’w hofnau o fynd heb fwyd trwy ddarparu bwyd bob dydd iddyn nhw, hyd yn oed ar gyfer y diwrnod roedd wedi gofyn iddyn nhw orffwys a pheidio gweithio.
Mae gorchymyn Duw ein bod ni'n gorffwys yn wahoddiad i’w drystio fo. Pan fyddwn yn ofni y bydd dweud na wrth y gwahoddiad yn brifo teimladau ein ffrind, gallwn drystio Duw i amddiffyn ein cyfeillgarwch. Pan fyddwn yn ofni bod ein tŷ yn rhy fach, bod ein car yn rhy hen, neu fod ein dillad yn rhy blaen, gallwn drystio Duw nad ydy’n gwerth ni yn cael ei fesur gan y pethau materol hynny. Trystio Duw yn lle gwthio’n hunain heibio ein terfynau ydy'r ffordd i ddod o hyd i le parhaol i anadlu.
Am y Cynllun hwn
![Breathing Room](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F9324%2F1280x720.jpg&w=3840&q=75)
Wyt ti’n teimlo weithiau nad wyt ti’n gallu mwynhau unrhyw beth am dy fod yn ceisio gwneud popeth? Amldasgio dy ffordd trwy fywyd gyda'th anwyliaid. . . Rwyt ti’n effeithiol, ond rwyt ti wedi blino'n lân. Ti angen ychydig o le i anadlu. Gydag un gwahoddiad rhyfeddol o syml, mae Duw yn cynnig ffordd i gyfnewid cyflymder llethol bywyd am un a fydd o’r diwedd yn dod â heddwch i ti. Bydd y cynllun hwn yn dangos i ti sut.
More