Lle i Anadlu Sampl
Os wyt ti wedi dathlu pen-blwydd, astudio ar gyfer arholiadau terfynol, priodi, cael babi, neu ddathlu'r Nadolig, yna rwyt ti wedi “cyfrif dy dyddiau.” (BCN). Mae'n debyg na wnest ti ei alw'n hynny, ond roeddet ti’n gwybod yn union faint o ddiwrnodau siopa, diwrnodau astudio, neu ddiwrnodau sengl oedd ar ôl cyn y digwyddiad mawr.
Yn yr adnod heddiw o Salm 90, mae Moses yn gofyn i Dduw ein helpu i fyw bob dydd gyda’r math o eglurder a gawn pan mae’n rhaid cwblhau rhywbeth cyn rhyw ddyddiad arbennig — “dysg ni i gyfrif ein dyddiau.” Pan mae’r Nadolig dridiau i ffwrdd ac mae gen ti anrhegion i'w prynu o hyd, dwyt ti ddim yn eistedd ar y soffa yn gwylio ffilmiau. Mae gen ti bethau i'w gwneud. Mae gwybod bod amser yn brin yn dy orfodi i gyfyngu ar yr hyn rwyt yn ei wneud â'th amser.
Bydd digwyddiadau i'w mynychu bob amser, prosiectau i fynd i'r afael â nhw, pwyllgorau i ymuno â nhw, teithiau i'w cymryd, a phethau i'w gwneud. A bydd ofn yn sibrwd gwell i ti wneud y cyfan neu byddi'n syrthio’n fyr. Ond mae cyfrif dy ddyddiau yn hidlo’r holl alwadau hynny am dy amser. Mae'n ffordd o flaenoriaethu'r bobl a'r tasgau pwysicaf.
Y pwyllgor gest ti dy dwyllo gan euogrwydd i ymuno ag o? Nid yw'n bwysig. Y trip gwaith fydd yn dy gadw draw o'th blant trwy'r wythnos? Na am y tro.
Pan ddechreuwn weld fod ein hamser yn brin, gallwn benderfynu yn beth, neu'n bwysicach fyth, pwy sy'n haeddu ein hamser cyfyngedig. Dywed Moses y byddwn yn “cael calon ddoeth.” Os wyt ti wedi gordrefnu, gorymrwymo, neu wedi dy orlethu, cyfra dy ddyddiau. Cydnabod (er dy fod yn gobeithio byw am flynyddoedd eto) bod dy amser yn gyfyngedig, felly mae'n rhaid i ti gyfyngu ar yr hyn rwyt yn ei wneud â'th amser. Rwy'n addo, bydd defnyddio'r hidlydd hwnnw yn rhoi'r lle i anadlu rwyt ti wedi bod yn hiraethu amdano.
Yfory byddwn yn edrych ar hidlydd tebyg all dy helpu i ddod â lle i anadlu i’th ddefnydd o arian. Yn y cyfamser, gofynna i ti dy hun: Beth yw un rôl neu dasg nad ydw i eisiau treulio fy amser cyfyngedig arni bellach?
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Wyt ti’n teimlo weithiau nad wyt ti’n gallu mwynhau unrhyw beth am dy fod yn ceisio gwneud popeth? Amldasgio dy ffordd trwy fywyd gyda'th anwyliaid. . . Rwyt ti’n effeithiol, ond rwyt ti wedi blino'n lân. Ti angen ychydig o le i anadlu. Gydag un gwahoddiad rhyfeddol o syml, mae Duw yn cynnig ffordd i gyfnewid cyflymder llethol bywyd am un a fydd o’r diwedd yn dod â heddwch i ti. Bydd y cynllun hwn yn dangos i ti sut.
More