Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Lle i Anadlu Sampl

Breathing Room

DYDD 1 O 5

Yng nghanol cyflymder anhrefnus cyfarfodydd, digwyddiadau, rhwymedigaethau, rhedeg plant o gwmpas, gofalu am rieni, gwasanaethu eraill, dod o hyd i “amser i mi,” rhedeg negeseuon, rhedeg ar draws y dref, rhedeg nes teimlo fel gwlanen, a rhedeg allan o egni. . . Weithiau, rydw i eisiau “gorwedd mewn porfa hyfryd,” neu eistedd wrth ymyl “dŵr glân sy’n llifo’n dawel.” (Er y byddwn i'n setlo am ddim ond paned o goffi ar y soffa. Ti hefyd?) < / p>

Mae angen lle i anadlu arnom.

Lle i anadlu yw'r gofod rhwng dy ruthr a’th ffin derfyn. Mae'n sgwrs hamddenol â'th ffrind gorau. Mae'n ginio o gwmpas y bwrdd yn lle'r ‘drive-thru’. Mae'n allu i roi yn hael am nad wyt wedi gwario pob ceiniog sydd gen ti. Mae lle i anadlu yn fywyd sy’n fwriadol arafach, llai, wedi'i ail-flaenoriaethu.

Dw i'n gwybod y byddi’n cytuno bod byw ffel yna’n swnio'n llawer gwell na'r teimlad gwyllt, brawychus o fod wedi gor-ymrwymo a'th orlethu. Ac eto, mae cymryd cipolwg ar dy restr o bethau i’w gwneud yn dangos - fel gyda ni i gyd – dy fod yn cael trafferth i arafu.

Felly beth sy'n dy wthio i fyw y tu hwnt i'th derfynau?

Mae'n anodd cydnabod y peth ac ychydig yn anodd ei gyfaddef, ond i mi, y broblem ydy ofn. Mae gen i ofn colli allan, felly rydw i'n ceisio gwasgu i mewn ginio gyda'r merched er bod fy niwrnod wedi bod yn llethol. Mae gen i ofn peidio cadw i fyny gyda phobl eraill, felly dwi'n pori ar-lein am gar newydd er bod yr un sydd gen i yn berffaith iawn. Mae gen i ofn siomi pobl, felly rwy'n cytuno i ymuno â'r pwyllgor er nad ydw i'n frwd iawn am y prosiect. . . ydy hyn yn swnio'n gyfarwydd?

Mae ofn yn sibrwd y celwyddau ein bod ni'n cael ein gadael allan neu'n gadael ar ôl, felly rydyn ni'n llenwi ein calendrau ac yn gwagio ein cyfrifon banc. Mae ofn yn dwyn ein lle i anadlu . Ond wyt ti’n gwybod beth ydy’r gorchymyn sy’n cael ei ailadrodd amlaf yn y Beibl? Paid bod ag ofn . Mae Duw yn dweud wrthym nad oes raid i ni adael i ofn ein bwlio. Mae'n cynnig ffordd hynod syml i ni oresgyn ofn.

Yfory byddwn yn edrych ar y ffordd mae Duw wedi bod yn ein gwahodd (ers miloedd o flynyddoedd) i ddod â rhywfaint o le i anadlu yn ôl i'n bywydau. Yn y cyfamser, edrycha ar dy galendr a gofyn i ti dy hun: Oes yna un peth dw i wedi cytuno i’w wneud dim ond am fy mod yn ofni colli allan neu siomi rhywun trwy ddweud na?

Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Breathing Room

Wyt ti’n teimlo weithiau nad wyt ti’n gallu mwynhau unrhyw beth am dy fod yn ceisio gwneud popeth? Amldasgio dy ffordd trwy fywyd gyda'th anwyliaid. . . Rwyt ti’n effeithiol, ond rwyt ti wedi blino'n lân. Ti angen ychydig o le i anadlu. Gydag un gwahoddiad rhyfeddol o syml, mae Duw yn cynnig ffordd i gyfnewid cyflymder llethol bywyd am un a fydd o’r diwedd yn dod â heddwch i ti. Bydd y cynllun hwn yn dangos i ti sut.

More

Hoffem ddiolch i North Point Ministries a Sandra Stanley am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth, ewch i: http://breathingroom.org