Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Cynllun Brwydr Rhyfela YsbrydolSampl

Spiritual Warfare Battle Plan

DYDD 5 O 5

DYDD 5: Saith dull i wneud i'r diafol ffoi

Mae Duw wedi addo i ni y bydd yn achosi i'r gelynion sy'n codi'n ein herbyn gael eu trechu o'n blaen. Ond dŷn ni'n gallu bod yn rwystr i'n bendith a gadael i'r gelyn sefyll yn ein herbyn yn lle dianc o'm golwg mewn saith cyfeiriad. Gyda hynny mewn golwg, dyma saith tacteg i wneud i'r diafol ffoi mewn saith dull.

1. Bydd yn ddyfal wrth ufuddhau i lais yr Arglwydd.

2. Edifarhau cyn mynd i fewn i'r frwydr.

3. Sylweddol fod Duw o'th blaid.

4. Rhyfela o safle o fuddugoliaeth.

5. Dalia ati i foli drwy'r cyfan.

6. Gwisga amdanat dy arfwisg.

7. Gweddïa'n ddi-baid a bydd yn wyliadwrus.

Mae torri cylchoedd drygionus yn aml yn fater o wneud dewisiadau gwell, ond pan mae e'n gylch demonig mae angen iti adnabod y dychymyg a'r patrymau meddwl anghywir sy'n caniatáu i ysbrydion drygionus greu hafog yn dy fywyd.

Dos allan, ryfelwr ysbrydol, gyda chlod yn dy galon a gweddi ar dy wefusau, wedi dy wisgo am frwydr. Mae'r frwydr yn eiddo i'r Arglwydd, a bydd y diafol yn ffoi saith ffordd. Does ganddo ddim pan fyddi di'n cyflwyno dy hun i Dduw a'i wrthsefyll. Does yr un cythraul yn uffern yn gryfach nag ewyllys sy'n cyd-fynd â Gair Duw. Mae gras Duw yn gorlifo’r enaid sy’n ceisio teyrnas Dduw a’i gyfiawnder yn gyntaf.

Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Spiritual Warfare Battle Plan

Drwy'r dysgeidiaethau pwerus hyn bydd dealltwriaeth ddyfnach yn cael ei ddatgelu ar sut i greu strategaeth i oresgyn a threchu'r gelyn a rhwystro ei gynllun i ddinistrio dy fywyd

More

Hoffem ddiolch i Charisma House am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://bit.ly/spiritualwarfarebattleplan