Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Cynllun Brwydr Rhyfela YsbrydolSampl

Spiritual Warfare Battle Plan

DYDD 4 O 5

DYDD 4: Abwyd Chwerwder

Cymorth

Ro'n i'n hel meddyliau ac yn flin. Roedd fy ngŵr wedi fy ngadael i gyda phlentyn dyflwydd oed a mynydd o ddyledion i ddechrau bywyd newydd gyda dynes oedd hanner ei oed, i ddechrau bywyd newydd mewn gwlad estron. Ro'n i'n gandryll ac eisiau dial. Ro'n i'n teimlo chwerwder eithafol a doedd dim angen ysbryd dirnadaeth i weld hynny. Ro'n i'n ei gasáu ac yn flin gyda Duw.

Mae chwerwder yn farwol. Dros amser mae chwerwder yn gallu halogi ein hysbryd a phylu ein gallu i synhwyro presenoldeb Duw neu glywed ei lais. Os wyt ti'n flin gyda Duw, bydd yn onest gydag e. Rho dy ddicter iddo, ac fe wnaiff e droi'r dicter yna yn heddwch a datguddiad mwy o'i sofraniaeth, os wnei di ei ganiatáu.

Arglwydd, dw i'n dewis i faddau i rhai hynny sydd wedi fy mrifo, troseddu'n fy erbyn, fy ngham-drin, cymryd mantais ohono i, neu fy nghyhuddo ar gam. Helpa fi i adnabod strategaeth y gelyn i'm baglu mewn dicter, chwerwder, a bod yn anfaddeugar. Helpa fi i beidio â dal pechodau pobl yn eu herbyn. Dysga fi i osgoi ymateb â chalon feirniadol pan fyddaf yn brifo. Iachau fy emosiynau ac adnewyddu ysbryd iawn ynof. Yn enw Iesu, Amen.

Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Spiritual Warfare Battle Plan

Drwy'r dysgeidiaethau pwerus hyn bydd dealltwriaeth ddyfnach yn cael ei ddatgelu ar sut i greu strategaeth i oresgyn a threchu'r gelyn a rhwystro ei gynllun i ddinistrio dy fywyd

More

Hoffem ddiolch i Charisma House am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://bit.ly/spiritualwarfarebattleplan