Cynllun Brwydr Rhyfela YsbrydolSampl
DYDD 2: Ysbryd Jesebel
Mae ysbryd Jesebel yw ceisio camarwain ac yn aml yn gweithio drwy ddysgeidiaeth a phroffwydo. Mae'r ysbryd yn camarwain y seintiau i mewn i eilunaddoliaeth ac anfoesoldeb. Mae'n bosib y bydd yr ysbryd hwn yn defnyddio rheolaeth a chamdriniaeth i wneud ei waith. ond yn y pen draw nid hynny yw ei agenda. Agenda Jesebel yw llofruddiaeth. Cyflog pechod yw marwolaeth, ac mae Jesebel yn arwain pobl at bechu.
Mae gweinidogion - neu unrhyw un mewn gwirionedd - ymysg tlysau Jesebel. Os wyt ti'n gwneud unrhyw beth dros Dduw, mae Jesebel eisiau rhwystro dy lais. Os na all Jesebel rwystro dy lais, fe wnaiff wyrdroi dy lais drwy dy gamarwain i halogi dy hun drwy oddef ei weithredoedd.
Dydy Jesebel ddim yn rywbeth y gelli di ei orchfygu unwaith ac am byth, ond mi rwyt ti'n gallu ei anwybyddi a gwrthod ei oddef.
O Dad, dw i'n edifarhau am oddef Jesebel ac yn gofyn am dy faddeuant yn enw Iesu. Dw i'n gofyn iti iachau fy nghalon a chanfod unrhyw friwiau, clwyfau, troseddau, poenau, balchder, gwrthod, gwrthryfel, neu unrhyw ddrws agored arall all fod wedi gadael i Jesebel ddod i mewn i'm mywyd.
Dw i'n torri ar ddewiniaeth Jesebel, ei reoli o bwerau, gwenieithu, twyll, melltithion geiriau, ymosodiadau ofnus, camgyhuddiadau, dywediadau proffwydol llygredig, camarwain cynnil, dewinio, bygythiadau, a gweithrediadau aflan eraill, yn enw Iesu. Amen.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Drwy'r dysgeidiaethau pwerus hyn bydd dealltwriaeth ddyfnach yn cael ei ddatgelu ar sut i greu strategaeth i oresgyn a threchu'r gelyn a rhwystro ei gynllun i ddinistrio dy fywyd
More