Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Cynllun Brwydr Rhyfela YsbrydolSampl

Spiritual Warfare Battle Plan

DYDD 1 O 5

DYDD 1: Y Frwydr yn erbyn Drygioni

Pan gefais dröedigaeth ro'n i'n my byddwn i'n treulio fy mywyd yn gorwedd mewn porfa hyfryd; ac yn fy arwain at ddŵr glân sy'n llifo'n dawel. Doedd gen i ddim syniad bod cofleidio Iesu'n golygu ymuno fel milwr ym myddin Duw.

Ers hynny dw i wedi dysgu fod credinwyr yn filwyr ac nid dod â heddwch wnaeth e, ond cleddyf. Dw i wedi darganfod mod i'n fwy na choncwerwr yn g Nghrist, sydd hefyd yn dweud wrtho i bod lluoedd annuwiol a chuddiedig yn ceisio fy ngorchfygu.

Cadwa'r gwirionedd hyn mewn cof: mae'r gelyn yn dod i ladd, dwyn, a dinistrio. Mae gan bob cythraul yr un bwriad. Mae'r ffordd y maent yn mynd ati - eu strategaethau a'u tactegau - yn wahanol. Er enghraifft mae ysbryd ofn yn ymosod ar dy ffydd, tra bod ysbryd gwrthod yn ymosod ar dy hunaniaeth. Mae Satan yn strategol. Mae ei fyddin yn drefnus iawn, ac mae'n anfon ysbrydion penodol yn erbyn credinwyr i'w baglu o'u pwrpas ar gyfer y deyrnas.

Fy ngweddi yw y byddi di'n magu craffter i adnabod ysbrydion sy'n gwrthwynebu dy fywyd - a bywydau'r rhai rwyt yn eu caru - a datblygu sgiliau ysbrydol i frwydro yn ôl. Gall caethiwed ysbrydol amlygu ei hun mewn sawl ffordd, ond y newyddion da yw y gall buddugoliaeth fod yn eiddo i ni. Trwy gerdded yn ein hawdurdod a roddwyd gan Dduw, gallwn, i bob pwrpas, frwydro ac ennill wrth ryfela.

Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Spiritual Warfare Battle Plan

Drwy'r dysgeidiaethau pwerus hyn bydd dealltwriaeth ddyfnach yn cael ei ddatgelu ar sut i greu strategaeth i oresgyn a threchu'r gelyn a rhwystro ei gynllun i ddinistrio dy fywyd

More

Hoffem ddiolch i Charisma House am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://bit.ly/spiritualwarfarebattleplan