Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Stori’r NadoligSampl

The Christmas Story

DYDD 4 O 5

Dŷn ni yma i dalu teyrnged iddo

Mae Duw yn gwahodd dau grŵp o bobl i ddathlu genedigaeth Iesu. Mae'n syndod pwy ydyn nhw, ac mae'r ddau yn dweud rhywbeth wrthym am Dduw.

Mae'r gwahoddiad cyntaf yn mynd at rai bugeiliaid lleol. Mae angel yn ymddangos ac yn dweud y newyddion da wrthyn nhw. Yna mae'r bugeiliaid yn mynd i addoli Iesu.

Mae'r ail wahoddiad yn mynd allan i'r byd. Ar ôl genedigaeth Iesu, cododd seren dros Fethlehem. Gwelodd grŵp o bobl o ran arall o'r byd y seren a'i dilyn. Dydyn ni ddim yn gwybod llawer amdanyn nhw na faint wnaeth y daith. Ond daethon nhw o hyd i Iesu a'i addoli gyda rhoddion.

Felly beth ydyn ni'n ei ddysgu o'r ddwy set yma o ymwelwyr fel rhan o'r stori? Ymhlith pethau eraill, mae'n dangos i ni sut mae Iesu'n dod â phob math o bobl ynghyd.

Roedd y bugeiliaid yn debyg i Mair a Joseff. Roedden nhw i gyd yn bobl gyffredin o bentref bach, yn cael dau ben llinyn ynghyd â swyddi incwm isel.

Ond ni allai’r ymwelwyr tramor fod wedi bod yn fwy gwahanol. Roedden nhw o wlad arall ac mae'n debyg bod ganddyn nhw gredoau gwahanol. Mae’n ymddangos hefyd fod ganddyn nhw gyfoeth a dylanwad, rhywbeth nad oedd gan Mair a Joseff.

Dŷn ni’n gwybod y gall gwahaniaethau rannu pobl. Dŷn ni i gyd wedi ei weld, yn ein perthnasoedd personol ac ym mywydau eraill. Ond mae stori'r Nadolig yn creu cysylltiad i bawb. Mae Duw eisiau cynnwys pawb yn ei deulu. Felly mae Duw yn gwahodd pobl gyfagos a rhai o bell i ddathlu Iesu.

Mae genedigaeth Iesu yn dod â phobl amrywiol at ei gilydd. Dŷn ni’n gweld hyn gyntaf yn stori’r Nadolig, ond mae’n thema sy’n codi dro ar ôl tro ym mywyd Iesu. Adeiladodd berthynas â phobl o gefndiroedd tra gwahanol. A thrwy'r cysylltiadau hynny, fe helpodd i chwalu'r rhwystrau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol sy'n tueddu i'n rhannu.

Mae Duw yn adeiladu teulu byd-eang - felly mae’n ein harwain i ollwng gafael ar feddylfryd “ni yn erbyn nhw”. A dyna un o’r pethau dŷn ni’n ei ddathlu adeg y Nadolig: Iesu yn dangos i ni rym gostyngeiddrwydd, cysylltiad, ac empathi.

Gweddïa: Annwyl Dduw, diolch i ti am fy ngwahodd i fod yn rhan o dy deulu byd-eang. Helpa fi i fod yn ymwybodol o sut y galla i feithrin cysylltiadau â phobl sy'n wahanol i mi. A dangos i mi pwy alla i ei wahodd i berthynas â thi. Yn enw Iesu, Amen.

Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

The Christmas Story

Mae i bob stori dro annisgwyl yn y plot - munud annisgwyl sy'n newid popeth. Un o'r digwyddiadau mwyaf annisgwyl yn y Beibl yw Stori'r Nadolig. Dros y pum niwrnod nesaf byddwn yn edrych ar yr un digwyddiad yma wnaeth newid y byd a sut y gall newid dy fywyd di heddiw.

More

Hoffem ddiolch i Life Church am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.life.church