Stori’r NadoligSampl
Cysura fy Mhobl
Mae Stori’r Nadolig yn llawn o’r annisgwyl. Dros y pum niwrnod nesaf wnawn ni deithio ar y ffordd droellog drwy’r stori hynafol hwn a darganfod beth mae’n ei olygu i ni heddiw.
A yw byth yn teimlo fel bod Duw’n bell i ffwrdd? Falle ei bod yn teimlo fel ei fod yn dawel a ddim yn gweld beth rwyt yn mynd drwyddo. Os felly, dwyt ti ddim ar ben dy hun.
Dychmyga dy fod yn rhan o gymuned sydd wedi’i chymryd drosodd gan elynion. Maen nhw’n rheoli dy wlad ac yn gwneud bywyd yn ddiflas. Wnes di dyfu i fyny’n clywed am gariad Duw tuag at dy bobl. Ond wrth i’r blynyddoedd fynd heibio falle dy fod yn meddwl, Tybed os yw Duw gyda ni go iawn?
Dyma sut oedd pobl yn byw yn yr hen Israel ar hyd y blynyddoedd hyd at pan ddaeth Iesu. Roedden nhw wedi’i gormesu a’u cam-drin gan sawl arweinydd twyllodrus. Ond roedd llawer yn credu y byddai Duw’n anfon Gwaredwr i’w rhyddhau a’u hadfer yn gyfan gwbl.
Wyt ti weithiau’n ffeindio dy hun aros a gweddïo am rywbeth i newid ond yn ansicr os gwnaiff Duw ymateb? Os felly, rwyt ti, mae’n debyg, yn teimlo fel roedd pobl Israel yn teimlo. Ond, hy yn oed yn eu disgwyl, roedd Duw gyda nhw.
Ond nid jyst disgwyl oedd Duw. Roedd e’n gweithio yn y cefndir i wneud rhywbeth hollol annisgwyl a mwy rhyfeddol na allai neb ei ddychmygu.
Nid jyst anfon gwaredwr wnaeth e. Daeth e ei hun yn bersonol. Ond nid fel arweinydd pwerus neu ryfelwr cryf. Yn lle hynny, wnaeth e ddarostwng ei hun a dod fel babi yng nghroth merch ifanc o’r enw Mair.
Os wyt ti fyth yn amau os yw Duw gyda thi, meddylia am stori’r Nadolig. Oherwydd mae Duw wastad yn bresennol ac yn gweithio, hyd yn oed os nad ydyn ni’n gweld hynny.
Gweddïa: Annwyl dduw, helpa fi i drystio ynot ti, hyd yn oed pan dw i ddim yn teimlo dy bresenoldeb. Helpa fi i fod â hyder yn dy gariad wrth imi fyfyrio ar stori hyfryd y Nadolig. Yn enw Iesu, Amen.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae i bob stori dro annisgwyl yn y plot - munud annisgwyl sy'n newid popeth. Un o'r digwyddiadau mwyaf annisgwyl yn y Beibl yw Stori'r Nadolig. Dros y pum niwrnod nesaf byddwn yn edrych ar yr un digwyddiad yma wnaeth newid y byd a sut y gall newid dy fywyd di heddiw.
More