Stori’r NadoligSampl
Mab Dafydd
Sut mae dweud wrth dy ddyweddi dy fod yn feichiog gyda Gwaredwr gafodd ei addo gan Dduw? Dyna gwestiwn wnaeth Mair falle ofyn iddi'i hun ar ôl cael y newyddion da. Pan ddaeth Joseff i wybod, fe benderfynodd ddechrau cefnu ar eu perthynas. Ond roedd Duw eisiau cynnwys Joseff yn y stori hon hefyd.Yn yr Ysgrythurau heddiw, mae Duw yn anfon negesydd at Joseff i dawelu ei feddwl. Mae'r negesydd yn galw Joseff yn “fab Dafydd,” sy'n rhyfedd, oherwydd nid Dafydd yw enw tad Joseff.
Bu Dafydd fyw gannoedd o flynyddoedd cyn Mair a Joseff. Roedd yntau hefyd yn hanu o dref fechan, ac roedd yn byw bywyd cyffredin fel bugail. Ond un diwrnod, anfonodd Duw negesydd i Fethlehem i ddweud wrth Dafydd iddo gael ei ddewis i deyrnasu.
Yn ddiweddarach, addawodd Duw y byddai un o ddisgynyddion Dafydd yn creu teyrnas newydd a gwell a allai fendithio’r byd i gyd. Roedd Dafydd a'i ddisgynyddion yn ddiffygiol ac yn aml yn gwneud dewisiadau niweidiol, a arweiniodd at gwymp eu teyrnas. Roedd y bobl yn gwybod os oedden nhw'n mynd i gael teyrnas newydd a gwell, bod angen Dafydd newydd a gwell arnyn nhw. Felly am genedlaethau, roedd pobl yn aros i “Fab Dafydd” gyrraedd.
Mae hyn yn dod â ni yn ôl at Joseff, un o ddisgynyddion y bugail a ddaeth yn frenin. Roedd Joseff yn amherffaith, fel holl ddisgynyddion eraill Dafydd hyd hynny, ond roedd Mab gwir a di-ffael Dafydd yn dod i'r byd trwy Mair - a ymunodd â theulu Joseff yn wraig iddo. Felly er nad oedd Joseff yn dad biolegol i Iesu, fe gododd Iesu ochr yn ochr â Mair - a darparu cyswllt teuluol â Dafydd.
Cymerodd Joseff Mair i Fethlehem, tref enedigol Dafydd. Ac yno rhoddodd Mair enedigaeth i Iesu, gwir Fab Dafydd. A phwy oedd y bobl gyntaf i ddysgu am Fab Dafydd? Bugeiliaid, wrth gwrs.
Mae stori’r Nadolig yn ein hatgoffa ein bod ni’n rhan o rywbeth mwy na ni ein hunain. Trwy gydol hanes, mae Duw wedi bod yn gweithio gyda phobl i wneud y ddaear yn debycach i'r nefoedd. Roedd gan Dafydd ran i'w chwarae, ac felly hefyd Joseff. Ond mae'r stori'n dal i fynd yn ei blaen, a nawr ein tro ni yw hi.
Felly sut byddwn ni'n dilyn eu hesiampl? Wel, mae un cliw yn y darnau heddiw. Edrycha ar sut mae Joseff yn ymateb i alwad Duw. Fe sylwi ei fod yn gwrando, yn ymddiried ac yn aberthu i helpu eraill. Pan dŷn ni’n gwneud dewisiadau tebyg, dŷn ni’n symud stori Duw ymlaen.
Gweddïa: Annwyl Dduw, diolch i ti am ein gwahodd i'th stori. Dw i'n gwybod bod gennyf ran i'w chwarae i wneud y ddaear yn debycach i'r nefoedd. Felly helpa fi i fod yn ymwybodol o sut rwyt ti'n fy ngalw i wneud gwahaniaeth ym mywydau eraill. Yn enw Iesu, Amen.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae i bob stori dro annisgwyl yn y plot - munud annisgwyl sy'n newid popeth. Un o'r digwyddiadau mwyaf annisgwyl yn y Beibl yw Stori'r Nadolig. Dros y pum niwrnod nesaf byddwn yn edrych ar yr un digwyddiad yma wnaeth newid y byd a sut y gall newid dy fywyd di heddiw.
More