Stori’r NadoligSampl
Pam fod gen i’?
Mae stori’r Nadolig yn newyddion da os wyt ti erioed wedi teimlo’n ddi-nod, heb gymwysterau, neu wedi dy anwybyddu. Pam? Achos y math yna o bobl yw prif gymeriadau stori'r Nadolig.
Am eiliad, anghofia bopeth rwyt ti'n ei wybod am stori'r Nadolig. Barod? Iawn, dychmyga dy fod wedi darganfod bod Duw ar fin dod i'r ddaear, a dy fod yn gwybod y byddai'n cael ei eni i deulu dynol. Pa fath o bobl fyddai Duw yn eu dewis i fod yn rhieni iddo?
Falle teulu crefyddol pwerus, iawn? Os nad nhw, mae'n debyg mai cwpl priod sydd ag adnoddau, sgiliau arbennig, a chrynhoad o gyflawniadau ysbrydol.
Ond cofia, mae stori’r Nadolig yn llawn digwyddiadau annisgwyl. Felly dydy Duw ddim yn dewis pâr priod cyfoethog, pwerus. Yn lle hynny, mae'n dewis un o'r bobl olaf y byddet ti'n eu disgwyl.
Roedd Mair yn ifanc ac yn sengl, yn byw mewn tref fechan. Doedd ganddi ddim pŵer ac ychydig iawn o ddylanwad. Roedd hi'n gyffredin, ond dewisodd Duw hi i wneud rhywbeth anghyffredin.
Mae negesydd oddi wrth Dduw yn dweud wrth Mair ei bod yn feichiog gyda’r Gwaredwr oedd wedi’i addo, er ei bod yn wyryf. Heddiw byddwn yn darllen sut mae Mair yn ymateb i ddarganfod ei rôl syfrdanol yn stori Duw. I Mair, mae’r newyddion yn arwydd bod Duw yn gweld ac yn gofalu am bobl yn union fel hi. Ac y byddai'r Gwaredwr hwn yn dyrchafu'r bobl y mae’r byd yn eu hystyried yn ddibwys.
Mae stori’r Nadolig yn gwrthod y syniad bod angen cyfoeth, dylanwad neu lwyfan arnat i wneud gwahaniaeth. Mae pobl ddi-nod, cyffredin, ac anghymwys yn bwysig i Dduw. Felly mae'n dewis partneru â nhw i ddangos i'r byd ei fod yn gofalu am bawb.
Y tro nesaf y byddi di'n teimlo'n ddi-nod neu'n anghymwys, cofia stori'r Nadolig. Mae’n ein hatgoffa’n bwerus fod ein gwerth yn dod oddi wrth Dduw, sy’n ein gweld, yn ein caru ni, ac yn dymuno partneru â ni i wahodd eraill i deulu Duw.
Gweddïa: Annwyl Dduw, dw i mor ddiolchgar am dy gariad. Helpa fi i seilio fy hunanwerth ar ba mor ddwfn rwyt ti’n fy ngharu i, nid ar farn unrhyw un arall. Arweinia fi tuag at helpio pobl a allai deimlo'n ddi-nod, fel y galla i estyn yr un gofal yr wyt wedi'i ddangos i mi. Yn enw Iesu, Amen.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae i bob stori dro annisgwyl yn y plot - munud annisgwyl sy'n newid popeth. Un o'r digwyddiadau mwyaf annisgwyl yn y Beibl yw Stori'r Nadolig. Dros y pum niwrnod nesaf byddwn yn edrych ar yr un digwyddiad yma wnaeth newid y byd a sut y gall newid dy fywyd di heddiw.
More