Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Lladd Kryptonite Gyda John BevereSampl

Killing Kryptonite With John Bevere

DYDD 6 O 7

Mae yna dri senario gwahanol wrth i ni ystyried credinwyr a phechod.

I ddechrau, mae yna gredinwyr sy'n proffesu sy'n esgeuluso pechod oherwydd calonnau caled. Yn ail, mae yna Gristnogion sy'n credu'r celwydd ein bod yn ein natur yn bechaduriaid, fod gwaed Iesu yn ddigon nerthol i'n rhyddhau ni o gosb, ond ni o'r gaethiwed iddo. Mae'r ddau grŵp yma roddir i bechod, fel kryptonite yng nghorff Crist, gan ddod â gwendid i'r corff cyfan oherwydd eu anudd-dod bwriadol i Grist.

Fodd bynnag, nae yna drydydd grŵp - credinwyr sydd mew nstrygl i dorri'n rhydd bechod. Dyma'r grŵp dw i eisiau siarad i heddiw.

Y peth cyntaf dw i eisiau ei ddweud yw, wnaiff Iesu fyth stopio maddau i chi. Mae e'n gweld y boen mae'r pechod yn ei achosi bob tro dych chi'n methu. Mae e'n gwybod eich bod eisiau bod yn gwbl rydd. A drwy ei ras, fe all y geiriau hyn eich helpu heddiw.

Roeddwn i'n rhan o'r grŵp hwn am flynyddoedd oherwydd caethiwed i bornograffi. Cefais fy nghaethiwo flynyddoedd cyn dod o hyd i Grist ac hyd yn oed ar ôl priodi a gweithio mewn gweinidogaeth, roeddwn i'n methu torri'n rhydd. Un tro arddodwyd dwylo arna i gan un o weinidogion amlygaf America a gweddïo i mi gael fy rhyddhau o'r gaethiwed. Weithiodd ddim.

Ddaeth y rhyddid ddim nes fy mod wedi newid fy mlaenoriaethau. Ar y dechrau, roeddwn i eisiau i Dduw fy rhyddhau gan fy mod yn poeni fod y pechod yn mynd i fod yn rwystr yn fy ngweinidogaeth. Ond yna, newidiodd ffocws y galon a dechreuais sylwi ar sut oedd fy mhenderfyniadau yn effeithio fy agosatrwydd at Iesu. Dechreuais bryderu am pa effaith roedd fy mhechod yn ei gael ar Dduw.

Yn 2 Corinthiaid, pennod 7, adnod 10 mae Paul yn cymharu dau fath o ofid - Gofid duwiol sy'n arwain at iachawdwriaeth, a gofid bydol sy'n arwain at farwolaeth. Mae fy stori i yn darlunio'r ddau ofid yma. Ar y dechrau, roedd fy ngofid yn fydol, ble roeddwn i'n poeni am beth fyddai'n digwydd i mi. Ond, yn ddiweddarach, trodd fy ngofid yn dduwiol, gan boeni am sut roedd fy mhechod yn brifo Duw ac eraill.

Fy ffrind annwyl, mae nerth Duw ar gael i'th ollwng yn rhydd ac i roi i ti fywyd goruwchnaturiol. dos ar ôl edifeirwch dduwiol, derbynia faddeuant Duw, byw dy fywyd newydd yn eofn yng Nghrist.

Diwrnod 5Diwrnod 7

Am y Cynllun hwn

Killing Kryptonite With John Bevere

Fel Superman ei hun sy'n gallu gorchfygu pob gelyn, mae gen ti fel dilynwr Crist y gallu goruwchnaturiol i orchfygu'r heriau sy'n dy wynebu. Ond y broblem i ti a Superman ydy, mae yna kryptonite sy'n dwyn dy nerth. Bydd y cynllun hwn yn dy helpu i ddadwreiddio kryptonite ysbrydol o dy fywyd, fel y gelli gyflawni dy botensial ges ti gan Dduw i gofleidio bywyd heb gyfyngiadau

More

Hoffem ddiolch i John a Lisa Bevere (Messenger Rhyngwladol) am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i http://killingkryptonite.com