Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Lladd Kryptonite Gyda John BevereSampl

Killing Kryptonite With John Bevere

DYDD 3 O 7

/

Wyt ti'n cofio Angela o defosiwn ddoe? Dysgon ni fod ei godineb yr un fath â sut mae'r Beibl yn disgrifio godineb yn erbyn Duw. Ond ydy hyn, mewn gwirionedd, yn broblem yn yr eglwys heddiw? Yn anffodus, ydy, mae e'n fater go iawn.

O edrych ar Angela, gwreiddyn ei godineb oedd ei hawch. Gair arall am awch yw trachwant.

dydy trachwant ddim yn rywbeth dŷn ni'n siarad ryw lawer amdano y dyddiau hyn, felly gad i mi ei ddiffinio. Yn ôl Merriam-Webster, trachwant yw, "Dymuniad i gael rywbeth ys'n ymddangos yn dda." Nawr, gad i mi nodi persbectif arall o drachwant o Colosiaid, pennod 3, adnod 5 ble mae Paul yn dweud, " Felly lladdwch y pethau drwg, daearol sydd ynoch chi: anfoesoldeb rhywiol, budreddi, pob chwant, a phob tuedd i wneud drwg a bod yn hunanol - addoli eilun-dduwiau ydy peth felly!"

Welais ti hynny? Mae Paul yn dweud chwant yw godineb! Fe allen ni edrych ar eilunaddoliaeth fel delwau a phethau tebyg, ond y gwreiddyn tu cefn i'r cwbl yw chwant anghyfiawn.

Mae Duw wedi rhoi'r allwedd i ni ar gyfer goroesi chwant, a bodlonrwydd yw hwnnw. Mae bodlonrwydd yn ein pellhau oddi wrth godineb ac yn agosach at galon Duw, tra bod chwant yn ein pellhau oddi wrth Dduw ac yn ein gyrru i gyfeiriad allorau godineb.

Dyma pam mae awdur Hebreaid yn sgwennu, "Peidiwch gadael i gariad at arian eich meddiannu chi! – byddwch yn fodlon gyda'r hyn sydd gynnoch chi. Wedi'r cwbl mae Duw ei hun wedi dweud, “Wna i byth eich siomi chi, na throi fy nghefn arnoch chi. Felly gallwn ni ddweud yn hyderus, “Yr Arglwydd ydy'r un sy'n fy helpu i; fydd gen i ddim ofn. Beth all pobl ei wneud i mi?” (Hebreaid, pennod 13, adnodau 5 i 6).

Gelli weld yn glir o'r darn hwn bod chwant run fath â godineb. Roedd Angela yn chwenychu dynion eraill, heb ystyried y byddai Justin yn ddigon i'w hanghenion. Yma dwedir wrthym i fod yn fodlon gyda Duw, gan wybod y bydd yn cwrdd â'n hanghenion i gyd. Os byddwn yn troi at ffynhonnell arall, n=heblaw amdano e, a'i ffordd penodedig e o fyw, mae hynny yn odineb!

Dyma mae hyn y nei olygu. Pan mae crediniwr yn gwybod beth yw ewyllys Duw, ond eto yn fwriadol ddewis ei ddymuniadau ei hun yn lle, mae hynny'n odineb. Mae e wedi dewis addoli ei chwantau yn lle Duw.

Wrth edrych ar dy fwriadau, blaenoriaethau, ac arferion, pa un fydde ti'n ddweud sydd gryfaf yn dy fywyd - trachwant neu bodlonrwydd? Sut fedri di fynd ar ôl bywyd gymaint mwy bodlon?

Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Killing Kryptonite With John Bevere

Fel Superman ei hun sy'n gallu gorchfygu pob gelyn, mae gen ti fel dilynwr Crist y gallu goruwchnaturiol i orchfygu'r heriau sy'n dy wynebu. Ond y broblem i ti a Superman ydy, mae yna kryptonite sy'n dwyn dy nerth. Bydd y cynllun hwn yn dy helpu i ddadwreiddio kryptonite ysbrydol o dy fywyd, fel y gelli gyflawni dy botensial ges ti gan Dduw i gofleidio bywyd heb gyfyngiadau

More

Hoffem ddiolch i John a Lisa Bevere (Messenger Rhyngwladol) am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i http://killingkryptonite.com