Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Lladd Kryptonite Gyda John BevereSampl

Killing Kryptonite With John Bevere

DYDD 5 O 7

Sut wnaeth Iesu ffug Iawe esblygu yn Israel, a sut mae Iesu ffug yn esblygu yn yr eglwys heddiw? Mae'r ddau yn ganlyniad calon galed ac absenoldeb edifeirwch go iawn.

Nawr, paid mynd yn nerfus. Dw i'n gwybod fod edifeirwch wedi'i bregethu mewn ffordd sy'n creu caethiwed, ond nid edifeirwch Beiblaidd yw hynny. Y gwir amdani yw, dŷn ni angen edifeirwch, oherwydd hebddo fe, fedrwn ni ddim profi'r bywyd dydd gan Dduw ar ein cyfer.

Os dŷn ni'n edrych ar beth mae'r Beibl yn ei ddweud, dŷn ni'n darganfod fod bron pob llais yn y Testament Newydd yn dweud yn glir a phenodol fod edifeirwch yn ran allweddol o'n bywyd yng Nghrist. Y bobl sy'n dweud hyn yw Pedr, Paul, Ioan, Iago, disgyblion eraill, Iesu ei hun, a hyd yn oed Duw y Tad. Mae e'n wirionedd mawr a chwbl glir.

Mae hyn yn golygu na all unrhyw ffydd go iawn fod yn Iesu Grist ond trwy edifeirwch oddi wrth bechod. Beth yw pechod? Pechod yw'r gwrthgyferbyniad i'r gorau mae Duw eisiau ar ein cyfer.

Mae hyn yn golygu na allwn droi at Grist, os dŷn ni'n gwrthod cerdded i ffwrdd oddi wrth anfoesoldeb rhywiol, cario clecs, a gwrthod maddau.

Sut fedri di ddweud dy fod yn Gristion a dal gafael fel gelain ar y rhain? Y ffaith ydy, mae yna dros bum can gorchymyn ymddygiad yn y Testament Newydd. Mae duw yn rhoi'r gorchmynion hyn i ni oherwydd wneith o fyth oddef beth allai dy ddinistrio. Mae'n dy garu gormod.

Ond os ydyn ni'n dal gafael i'r pechodau bu Iesu farw drostyn nhw i'n hachub dŷn ni'n creu Iesu ffug, s ffydd dychmygol sydd gynnon ni.

Edifeirwch Beiblaidd yw'r weithred mwyaf o ostyngeiddrwydd, gan agor ein bywydau i ryfeddod gras Duw. I ddweud y gwir, mae Duw yn addo bod yn rasol pan dŷn ni'n bod yn ostyngedig (Iago, pennod 4, Pedr, pennod 5). Dyna pam mae edifeirwch mor bwysig.... allwn ni ddim bod ag unrhyw gywilydd ohono. Mae'n rhaid fod y rhai sy'n chwilio a'r credinwyr sy'n proffesu. fel ei gilydd, yn gwybod hyn. Mae e'n angenrheidiol i'n ffydd a'n iachawdwriaeth!

Mae edifeirwch yn golygu, newid ein meddwl gymaint ac mor ddyfn fel ei fod yn newid ein personoliaeth o graidd ein bodolaeth. Pan dŷn ni'n troi at Grist, mae e'n ein gwneud yn newydd sbon, gan roi y gras i ni fyw fel e.

Dyma edifeirwch Beiblaidd - dyma'r broses o'n hail-greu yn g Nghrist, gan adlewyrchu natur Duw a daioni i'n byd. Oes gwell gwahoddiad|

Diwrnod 4Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Killing Kryptonite With John Bevere

Fel Superman ei hun sy'n gallu gorchfygu pob gelyn, mae gen ti fel dilynwr Crist y gallu goruwchnaturiol i orchfygu'r heriau sy'n dy wynebu. Ond y broblem i ti a Superman ydy, mae yna kryptonite sy'n dwyn dy nerth. Bydd y cynllun hwn yn dy helpu i ddadwreiddio kryptonite ysbrydol o dy fywyd, fel y gelli gyflawni dy botensial ges ti gan Dduw i gofleidio bywyd heb gyfyngiadau

More

Hoffem ddiolch i John a Lisa Bevere (Messenger Rhyngwladol) am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i http://killingkryptonite.com