Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Lladd Kryptonite Gyda John BevereSampl

Killing Kryptonite With John Bevere

DYDD 1 O 7

Falle y bydd hyn yn dipyn o syndod ond un o'm mwriadau yw i dy wneud yn rwystredig...Ddweda i wrthot ti pam.

Mae yna ddatgysylltiad iawn rhwng beth ddigwyddodd yn eglwys y Testament Newydd a beth sy'n digwydd yn yr eglwys heddiw. Bydden hawdd iawn rhoi y bai ar ar fudiadau darniog, arweinwyr annuwiol , diwylliant, ac yn y blaen, ond gad i ni gymryd y cyfle i archwilio ein bywydau ein hunain.

Y gwir amdani yw roedd y Cristnogion cyntaf yn oruwchddynol ac roedd pobl yn syfrdanu atyn nhw. Dyma rai o'u gorchestion sydd i'w gweld yn y Gair.

Doedd neb o'u cymuned mewn angen - doedd gan neb unrhyw anghenion corfforol a doedd yna neb ar fudd-dal llywodraethol (Actau, pennod 4, adnodau 33 i 35). Daeth dinasoedd cyfan at Iesu ar amrantiad, a lledaenodd yr efengyl drwy ardaloedd eang mewn mater o flynyddoedd (Actau, pennod 9, adnodau 32 i 35 a phennod 19, adnod 10).

Roedd nerth Duw yn gweithio drwyddyn nhw gymaint roedd rhaid iddyn nhw argyhoeddi bobl nad oedden nhw'n dduwiau (Actau, pennod 10, adnodau 25 a 26, pennod 14, adnodau 8 i 18) - meddylia am hynny am ychydig eiliadau. Gawson nhw gyfnodau o addoli mor bwerus fel bod wedi'i gwneud hi'n glir y bydd Cristnogion y dyddiau olaf yn gwneud gymaint mwy na'r credinwyr cynnar yma. Y cwestiwn ydy, pam nad ydyn ni'n gweld y gweithrediadau mawr addawodd Duw?

Dw i'n credu, yn union fel roedd gan superman kryptonite, mae gan yr eglwys - yr unigolion hynny sy'n honni dilyn Crist - yr un broblem.

Roedd kryptonite yn dod o'r blaned be ddaeth Superman a phob tro roedd yn agosáu ar y deunydd roedd yn colli ei bŵer aruthrol gan droi'n wan - hyd yn oed yn wnach na dyn cyffredin. Os wyt ti'n edrych ar yr eglwys heddiw - y nifer sy'n ysgaru, y defnydd o bornograffi, anfoesoldeb rhywiol sydd yn waeth os rywbeth na'r byd - mae'n glir bod yna ychydig o kryptonite yn ein plith.

Dylai cyfwr yr eglwys heddiw, sy'n edrych yn gwbl groes i fwriadau a phwrpas Duw ar gyfer ein bywydau. fel dilynwyr Crist , dy wneud yn rwystredig.

Yn y defosiynau hyn bydden yn dysgu beth yw'r kryptonite hwn a sut i gael gwared arno, ond mae'n rhaid i ni gyntaf wybod a chredu yn ein potensial. Byddi heb unrhyw gymhelliad i wneud y gorau o un rhyw botensial nad wyt yn ymwybodol ohono.

Beth wnei di, nawr rwyt yn ymwybodol o'th botensial?

Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Killing Kryptonite With John Bevere

Fel Superman ei hun sy'n gallu gorchfygu pob gelyn, mae gen ti fel dilynwr Crist y gallu goruwchnaturiol i orchfygu'r heriau sy'n dy wynebu. Ond y broblem i ti a Superman ydy, mae yna kryptonite sy'n dwyn dy nerth. Bydd y cynllun hwn yn dy helpu i ddadwreiddio kryptonite ysbrydol o dy fywyd, fel y gelli gyflawni dy botensial ges ti gan Dduw i gofleidio bywyd heb gyfyngiadau

More

Hoffem ddiolch i John a Lisa Bevere (Messenger Rhyngwladol) am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i http://killingkryptonite.com