Canlyn yn yr Oes FodernSampl
Egwyddorion Canlyn (Rhan 2)
Daeth y darn ddoe i ben gyda'r egwyddor o ymreolaethpan yn canlyn - canlyn un sy'n credu yng Nghrist hefyd. Pan fyddi'n dilyn y canllaw hwn, bydd y ddau ohonoch yn gweithredu o dan yr un "rheolau" wrth ystyried dilyn Duw. Mae hyn yn arwain at yr egwyddor nesaf: purdeb rhywiol.
Mae purdeb rhywiol yn egwyddor sydd wedi mynd ar goll yn y cyfnod modern. Ond mae e'n bwysig achos mae e'n golygu gymaint mwy na chyffwrdd corfforol. Mae uno cymaint mwy dyfnach yn cymryd lle pan mae dau yn dod at ei gilydd. Mae dy gymar i fod yn ffrind gorau i ti, ond os wyt ti'n rhuthro i mewn i berthynas rywiol yn rhy sydyn, mae e'n cymylu dy allu i ddadansoddi os yw'r person ynffrind da. Mae e'n gwneud i ti aros mewn perthynas yn hirach na ddylet ti, ac mae terfynu'r berthynas yn brifo cymaint mwy.
Mae hyn yn arwain at yr egwyddor nesaf: dylet drin y person rwyt yn ganlyn fel plentyn i Dduw. Mae hyn yn dangos sut un wyt ti. Felly, pan rwyt ti ar ddêt rwyt ti angen a mae'r person rwyt gyda nhw angen gweld eich gilydd fel plentyn mabwysiedig Duw. Sut wyt ti'n trin plentyn Brenin y nefoedd? Gyda chwrteisi, moesgarwch, parch, a charedigrwydd. Dylet fod eisiau i dy bresenoldeb yn y berthynas wneud y person yn well. Dylet fod eisiau annog y person i drystio a charu Duw fwy-fwy o ganlyniad i dy bresenoldeb yn ei fywyd neu ei bywyd.
Dy nod ddylai bendithio ac nid dim ond yn syml greu argraff. Felly, ewch am bryd o fwyd, dewch i adnabod eich gilydd, gwnewch y pethau dych chi'n eu mwynhau. Nid ceisio ennill ei ffafr ddylai dy fwriad fod, ond yn syml gloriannu os ydych yn gymwys. Gwranda'n ofalus, gofynna gwestiynau da, a rhanna dy feddyliau'n onest. Canmol, Anoga. Bydd yn ddidwyll a charedig. Paid bod dan straen i greu argraff. Mae mynd ar ddêt ar gyfer cloriannu a bendithio. A dim mwy.,
Mae hyn yn dod â ni at yr egwyddor nesaf: caniatáu pobl rwyt yn ei drystio i mewn i sgwrs y berthynas y garwriaeth. Mae teimladau rhamantus, yn feddwol, a gwyrdroëdig, felly mae cael y lleisiau cywir yn rhan o'r sgwrs yn gallu helpu ti rhag treulio gormod o amser gyda'r person anghywir. Dewisa ffrindiau sy'n caru Duw, caru ti, a fydd ddim ag ofn dweud wrthot ti'n union beth mae nhw'n feddwl. Gofynna iddyn nhw rannu eu teimladau mor fuan â sydd bosib ac yn gyson. Amgylchyna dy hun gyda chynghori duwiol.
Egwyddor ddiwethaf canlyn yw bod yn amyneddgar. Gad i'r berthynas dyfu ar ei gyflymder ei hun. Paid rhuthro i wisgo modrwy, ac arhosa i weld personoliaeth y person arall. Bydd rhai bobl, o'r dechrau'n anaddas ar gyfer canlyn. Bydd eraill i'w gweld yn iawn ar y dechrau, ond dros amser byddi'n cwestiynu rhannau o'u cymeriad. Gwylia'n ddigon hir i weld sut mae nhw'n ymateb pan nad yw pethau'n mynd o'u plaid. Rho ddigon o amser i ti dy hun i'w gweld ym mhob sefyllfa.
A fyddi di'n dod o hyd i gymar addas? Dwn i ddim! Ond dw i'n gwybod fod Duw wedi rhoi doethineb i ti, ac yntau i bwyso arno ar daith drwy dy fywyd. Dw i'n gweddïo y bydd dy obeithion yn y tymor hwn o ganlyn wedi'i ganolbwyntio ar y Brenin, nid ar dywysog neu dywysoges. Dw i'n gweddïo y byddi'n cerdded gydag e, gan gredu ei fod yn gofalu am dy anghenion, ac yn ôl ei ewyllys, dy arwain at y person cywir.
Ymateb
Pam fod purdeb rhywiol yn bwysig yn y broses o ganlyn? Sut all ymatal cyn priodas dy helpu i adeiladu perthynas fydd yn un fydd yn gadarn ar ôl priodi?
Sut mae'r ffordd rwyt yn trin y person rwyt yn ei garu/charu'n dweud am dy gymeriad? Pam ei bod hi'n bwysig trin y person arall fel plentyn annwyl Duw?
Pwy sy'n gallu siarad gwirionedd i mewn i'th fywyd wrth i ti ganlyn? Pa mor agored wyt ti i gyngor y person hwnnw/honno?
Pryd wyt ti wedi'i chael hi'n anodd i fod yn amyneddgar mewn perthynas? Pa bethau elli di ond eu dysgu am rywun dros dymhorau o amser?
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Canlyn... ydy'r gair yn codi pryder neu ddisgwyliad yn y galon? Gyda chymaint o ffyrdd technegol i gysylltu mae mynd ati i ganlyn fel ei fod wedi mynd yn gymaint mwy ffwndrus a rhwystredig nag erioed o'r blaen. Yn y cynllun 7 diwrnod hwn sydd wedi'i seilio ar Sengl, Canlyn, dyweddïo, Priodi bydd Ben Stuart yn eich helpu i weld fod gan Dduw bwrpas i'r tymor hwn yn eich bywyd, ac mae e'n cynnig egwyddorion arweiniol i'ch helpu i benderfynu pwy a sut i ganlyn. Gweinidog Eglwys Passion City, Washington DC yw Ben, a chyn-gyfarwyddwr gweithredol Breakaway Ministries, astudiaeth Beiblaidd wythnosol wedi'i fynychu gan filoedd o fyfyrwyr coleg ar gampws Texas A&M
More