Canlyn yn yr Oes FodernSampl
Egwyddorion Canlyn (rhan 1)
Wrth edrych ar egwyddorion canlyn, yn bwysicach na dim, rwyt ti angen gwahodd Duw'r bydysawd i mewn i'r broses. Caniatâ am pwy ydy e ddylanwadu ar dy feddyliau a'th weithredoedd. Mae gweddi'n dy ryddhau o'r ofn o fod ar ben dy hun - ac yn dy amddiffyn rhag cyfaddawdu dy safonau. Rwyt yn gallu ymlacio a mwynhau bob munud oherwydd rwyt yn gallu gorffwys o wybod fod dy Dduw nerthol a chariadus yn dy arwain mewn ffordd dda. Pan mae gen ti gysylltiad clir efo Duw, rwyt yn gallu gweld pobl fel creadigaethau gwerthfawr yn ei ddelw e - nid i'w defnyddio ond eu hanrhydeddu.
Wrth ganlyn, mae'r anrhydedd yna'n dechrau pan wyt ti'n dilyn ail egwyddor canlyn: bod yn eglur gyda'r person arall. Yn Effesiaid pennod, 4, adnod 15 mae Paul yn dweud mai nodwedd pobl Iesu yw eu bod yn dweud "y gwir wrth eich gilydd". Mae Diarhebion pennod 24, adnod 26 yn dweud, "Mae rhoi ateb gonest fel cusan ar y gwefusau." Mae e'n arwydd o barch a chariad i ddweud y gwir wrth rywun. Felly maga'r dewrder i ddweud wrth berson arall beth rwyt ti'n feddwl, sut rwyt yn teimlo, a beth hoffet ti ei wneud.
Gofala dy fod yn bod dy f glir Gad i'r person arall wybod sut rwyt yn teimlo am y profiad - paid ei gadw e neu hi'n synfyfyrio ar beth fydd yn digwydd nesaf. Mae amwyster yn anghyfforddus. Hefyd, bydd yn glir am sut fydd y broses yma o ganlyn yn debygol o ddod i ben. Rhanna dy lefel o gyfforddusrwydd a'th brofiad ar unrhyw adeg. Dylai bod ffordd eglur allan. Pan fyddi'n rhoi eglurder i bobl, rwyt yn rhoi cyfle iddyn nhw fod yn nhw eu hunain.
Does dim angen i ddilynwyr Iesu fod yn n aneglur. Mae bywyd yn rhy fyr. Does gen ti ddim amser i chwarae ar emosiynau bobl. Dweda'r hyn rwyt yn feddwl. Golyga beth ti'n ddweud. Bydd yn eglur am y broses.
Trydydd egwyddor ar gyfer canlyn yw, y dylai fod rhwng dilynwyr Crist. Mae'r Beibl yn glir gan ddweud y dylai rheiny sy'n trystio Iesu ganlyn (a phriodi) rheiny sy'n trystio Iesu. Mae'n iawn i ti garu rheiny nad ydyn nhw'n credu ond dwyt ti ddim i gael perthynas ramantus â nhw. Fel credinwyr yng Nghrist mae canlyn yn ran o fod mewn cymuned â chredinwyr eraill - perthynas gyfamodol. Dydy Duw ddim yn adnabod canlyn fel "statws." Rwyt yn ai'n frawd a chwaer yng Nghrist neu ŵr a gwraig. Does dim ffordd ganol. Felly, paid ffwndro hyn.
Yn yr un ffordd mae'r Beibl yn tynnu llinell bendant at beth sy'n cael ei ganiatáu'n rywiol. Mewn priodas caiff llawer i ganiatáu. Tra'n sengl, does dim yn cael ei ganiatáu. A phan yn canlyn does dim yn ganiataol. dydy gwir gariad ddim yn gofyn am gael perthynas gorfforol tra ar yr un pryd yn osgoi cyfrifoldeb i ofalu amdanat ti'n emosiynol ac ariannol. Felly, mae'r ddau ohonoch yn parhau i fod yn sengl tan ar ôl i chi briodi gerbron Duw. Dych chi ar wahân.
Rwyt yn atebol gerbron Duw am dy fywyd dy hun. Felly, dylet drin canlyn fel tymor o werthuso fydd yn arwain i ganlyniad cadarn am y person arall. Defnyddia canlyn i ddarganfod os wyt mewn partneriaeth dda ai peidio.
Ymateb
Sut wyt ti wedi gwahodd Duw i mewn i'th fywyd o ganlyn? Pam ei bod hi'n bwysig i'w wahodd e i mewn i'r broses cyn i ti ddechrau canlyn rhywun?
Pa ffyrdd sy'n weddus i ddweud wrth rhywun dy fwriad i ofyn iddyn nhw am ddêt? Sut mae anrhydeddu rywun rwyt eisiau eu canlyn yn y modd rwyt yn eu trin?
Pa ffiniau mae Duw wedi'u gosod mewn perthnasoedd? os wyt ti wedi croesi unrhyw un o'r ffiniau yma sut mae cael dy hun yn ôl ar y llwybr cywir?
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Canlyn... ydy'r gair yn codi pryder neu ddisgwyliad yn y galon? Gyda chymaint o ffyrdd technegol i gysylltu mae mynd ati i ganlyn fel ei fod wedi mynd yn gymaint mwy ffwndrus a rhwystredig nag erioed o'r blaen. Yn y cynllun 7 diwrnod hwn sydd wedi'i seilio ar Sengl, Canlyn, dyweddïo, Priodi bydd Ben Stuart yn eich helpu i weld fod gan Dduw bwrpas i'r tymor hwn yn eich bywyd, ac mae e'n cynnig egwyddorion arweiniol i'ch helpu i benderfynu pwy a sut i ganlyn. Gweinidog Eglwys Passion City, Washington DC yw Ben, a chyn-gyfarwyddwr gweithredol Breakaway Ministries, astudiaeth Beiblaidd wythnosol wedi'i fynychu gan filoedd o fyfyrwyr coleg ar gampws Texas A&M
More