Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Canlyn yn yr Oes FodernSampl

Dating In The Modern Age

DYDD 5 O 7

Sut i Ganlyn

Sawl blwyddyn yn ôl tra'n ymweld â'r Grand Canyon cerddais ymhell i mewn i'r ceunant i weld rhaeadr. Wrth gerdded ar lan Afon Colorado fe wnes i gyfarfod cwpl ifanc oedd yn mynd i weld y rhaeadr hefyd. Cefais fy ngwahodd i ymuno hefo nhw, ond ro'n i'n teimlo y bydden nhw'n fy arafu. Wrth ruthro yn fy mlaen ro'n i'n poeni fy mod wedi methu'r rhaeadrau. Wrth fynd i banig, sgrialais i fyny clogwyn a dychryn carw achosodd i mi cael codwm a disgyn nôl i lawr y ceunant. Wrth i mi orwedd yna clywais sŵn dŵr yn syrthio. Dilynais y sŵn a dod ar draws y cwpl annwyl yn eistedd ar waelod y rhaeadr yn mwynhau eu cinio.

Dw i'n dweud y stori hon i ddarlunio gwirionedd: fe wnaeth y cwpl a minnau gyrraedd i ble roedden ni'n mynd ond gymerais i lwybr llai effeithlon a heb fod gymaint o hwyl i gyrraedd yna. Mae hyn yn darlunio canlyn modern. Mae pobl yn syrthio mewn cariad bob dydd. Eto, mae'r daith yn cymryd gymaint hirach - dydy llawer ddim yn priodi ns eu bod wedi pasio deg a'r hugain oed. Yn y gorffennol roedd y llwybrau yn gliriach, ond nawr rydyn ni'n ymbalfalu drwy ddrysni heb unrhyw offer, heb dywysydd, a fawr ddim bwyd. Dŷn ni'n cyrraedd yna ond yn cael ein cam drin gryn dipyn ar y ffordd.

Mae rheolau canlyn wedi troi'n amwys ac ansicr. Dylai canlyn gael ei gysylltu â geiriau fel hwyliog a llon a calonogi. Ond, yn amlach na pheidio dw i'n clywed y geiriau trist, blinderus a ingol. Fel rywun sy'n caru ei ffrindiau sengl ieuainc, dw i eisiau iddyn nhw gael taith hawdd. Ac mae taith hawdd yn bosib! Mae'r llwybr at gariad yn gallu bod yn boenus, ond mae yna ffordd i lywio drwyddo fydd yn osgoi poen diangen.

Mae'r rhan helaeth o trallod heddiw wedi'i achosi gan ddiffyg proses ganlyn bwriadol. Sylwa, dw i'n dweud proses - mae'r gair yn awgrymu symudiad. Dylai canlyn fod yn gyfres o weithrediadau tuag at ddiwedd sydd wedi'i ragordeinio. dydy e ddim yn statws rwyt yn eistedd ynddo heb unrhyw fath o fomentwm. Mae, i fod, yn broses o arfarnu gyda diweddglo o'r enw priodi.

Mae'r broses hon wedi'i nodweddu gan egwyddorion diamser wedi'i gwreiddio yng nghymeriad a chariad Duw. Sylwa mod i'n eu galw nhw'n egwyddorion,nid camau. Byddai camau yn gymaint haws - drwy ddilyn y camau byddi'n cael bywyd priodasol hapus! Dydy canlyn ddim yn digwydd fel hyn, gan fod perthnasedd yn rhy ddynamig. Mae canlyn fwy fel hwylio ar draws y cefnfor, yn hytrach na gosod gwrthrych at ei gilydd. Dydy camau ddim yn gweithio pan yn hwylio mewn cwch ar draws y cefnfor. Fedri di ddim cael cyfarwyddiadau ar gyfer pob troad ar y ffordd, oherwydd mae'r amgylchedd yn ddynamig. Pwy a ŵyr pa stormydd fyddi di'n eu profi ar y daith?

fodd bynnag, gall egwyddorion arbed dy fywyd ar y môr. Gall gwybod i sut i lywio gyda'r sêr, neu ddefnyddio cwmpawd, neu lywio drwy ddefnyddio map a secstant yn gallu dy arwain, yn union fel mae egwyddorion mewn canlyn yn dy helpu i wynebu unrhyw heriau y byddi'n eu hwynebu. Bydd yr wybodaeth yn dy arwain o lannau bod yn sengl i borthladd priodas.

Bydd dilyn yr egwyddorion y bydda i'n eu trafod yn y ddau ddarlleniad yn hawlio dy sylw'n gyfan gwbl. Bydd e'n cymryd ymdrech lew. Bydd yr egwyddorion yma - os y byddi'n eu cymhwyso i dy amgylchedd canlyn ddynamig - yn dy arwain yn ddiogel drwy ddyfroedd tymhestlog canlyn.

Ymateb

Pa eiriau wyt ti'n eu cysylltu â chanlyn? Beth yw dy ddisgwyliadau am sut i ganlyn? Beth yw dy ffordd o feddwl?

Beth mae e'n ei feddwl fod canlyn i fod yn broses? Pa weithredoedd sydd yn y broses o ganlyn? I ble wyt ti'n mynd ar y daith? Os nad oes gen ti ddiddordeb mewn priodi, beth yw dy opsiynau ar gyfer cael perthynas iach?

Pa sgiliau perthnasoedd sydd arnat angen gweithio arnyn nhw i lwyddo wrth ganlyn? Sut wyt ti'n gwrando, gwylio ac asesu'r bobl rwyt yn eu cyfarfod? Sut all y broses hon fod yn antur?

Diwrnod 4Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Dating In The Modern Age

Canlyn... ydy'r gair yn codi pryder neu ddisgwyliad yn y galon? Gyda chymaint o ffyrdd technegol i gysylltu mae mynd ati i ganlyn fel ei fod wedi mynd yn gymaint mwy ffwndrus a rhwystredig nag erioed o'r blaen. Yn y cynllun 7 diwrnod hwn sydd wedi'i seilio ar Sengl, Canlyn, dyweddïo, Priodi bydd Ben Stuart yn eich helpu i weld fod gan Dduw bwrpas i'r tymor hwn yn eich bywyd, ac mae e'n cynnig egwyddorion arweiniol i'ch helpu i benderfynu pwy a sut i ganlyn. Gweinidog Eglwys Passion City, Washington DC yw Ben, a chyn-gyfarwyddwr gweithredol Breakaway Ministries, astudiaeth Beiblaidd wythnosol wedi'i fynychu gan filoedd o fyfyrwyr coleg ar gampws Texas A&M

More

Hoffem ddiolch i Ben Stuart am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.thatrelationshipbook.com