Canlyn yn yr Oes FodernSampl
Peilot aer gyfer y Daith
Pan dw i'n edrych ar dirlun bywyd a charu llawer o bobl heddiw, dw i'n gweld ofn. Ofn gwneud camgymeriad. Ofn colli allan. Ofn colli cyfleoedd. Mewn eraill dw i'n clywed balchder - y mynnu i fyw bywyd ar eu telerau eu hunain fel bod neb yn gallu bygwth eu rhyddid mynegiant. Mewn nifer fawr hefyd dw i'n gweld chwant. Pam ymrwymo i garu rywun yn emosiynol pan mae modd i ti eu defnyddio'n gorfforol? Ofn, balchder a chwant yw gwreiddyn llawer o broblemau sy'n codi i'r wyneb mewn perthnasoedd.
Nid amcan run o'r rhain yw cariad. Mae ofn yn cilio a chuddio, ond mae cariad yn agored a rhoi'n rhydd. Ni fydd balchder yn caniatáu'r risg o ddatgelu'r hunan i un arall, ond mae cariad yn risgio bod yn fregus er mwyn rywun arall. Mae chwant yn dweud wrth y person arall dy fod eisiau'r rhannau ti'n gallu eu defnyddio'n unig, ond mae cariad yn cofleidio'r person - ar eu dyddiau da a drwg.
Mor belled ag y bydd ofn, chwant a balchder yn rheoli'r berthynas, byddi'n rhuthro ymhellach oddi wrth cariad. Bydd y pethau hyn yn dy ynysu neu'n creu perthynas arwynebol na fydd yn anrhydeddu Duw. Dyma'r sefyllfa dw i'n ei weld yn ein diwylliant heddiw. Dw i'n gweld cenhedlaeth ar goll ar y môr, yn ansicr o sut i lywio trwy fôr tymhestlog cariad ac osgoi maglau ofn, chwant a balchder. Mae nhw mynd gyda'r llif ac yn cael eu taro gan y gwynt a'r tonau.
Yn y gorffennol, beth amser yn ôl, pan oedd llong yn hwylio ar fôr tymhestlog, byddai rhaid i gapten gyfaddef nad oedd yn adnabod yr ardal roedd ynddi i lywio'r llong yn ddiogel i mewn i'r porthladd. Pan roedd hyn yn ei daro (cyn dyddiau cyfathrebu modern\) byddai'n codi baner oedd yn arwyddo, "Dw i angen peilot." Pan fyddai peilot yn gweld y faner ar y llong byddai'n neidio i'w gwrwgl, mynd allan at y llong, ac yn mynd ar y llong.
Byddai'r peilot yn cymryd rheolaeth o'r llong a'i llywio'n ddiogel drwy'r creigiau a'r basleoedd, yn ddiogel i mewn i'r porthladd. Bydden nhw'n hedfan bared arall ar y llong i ddangos nad oedd angen peilot arall i ddod ar y llong - roedd y faner honno yn hanner coch a hanner gwyn. Roedd y faner hon yn dweud, "Mae gen i beilot." Doedd dim, angen unrhyw beilot arall ac roedd y bobl lleol yn gallu gweld fod y llong mewn dwylo diogel.
Ynghanol moroedd ansicr wrth i ti ganlyn, mae gen tithau ffordd o lywio ffordd ymlaen. Gelli godi baner i ildio a chyfaddef dy fod tithau "angen peilot" fydd yn dy arwain oddi wrth beryglon o dan yr wyneb. Gelli godi baner ymrwymiad i ddweud wrth y byd "mae gen i beilot" a dewis ei ddilyn e'n unig.
Duw yw'r un a'th wnaeth a fe'n unig all dy arwain adre'n ddiogel. Mae'r Beibl yn dweud wrthon ni mai cariad yw Duw (gweler 1 Ioan, pennod 4, adnod 8). Felly, cyfaddefa heddiw dy fod angen llywiwr heddiw ar ddyfroedd dieithr cariad. Dweda wrth Dduw dy fod angen iddo arwain y ffordd i ti. Gyda canlyn dyma ble mae rhaid i'r daith ddechrau.
Ymateb
Pa rôl mae ofn, balchder a chwant wedi chwarae'n wrth i ti ymlid cariad rhamantus? Sut wyt ti wedi profi cariad iachus?Sut 2ddyfroedd tymhestlog2 wyt ti wedi'u profi wrth ganlyn?
Beth mae e'n ei olygu'n dy fywyd o ganlyn i ildio a chyfaddef fod arnat angen un i'th arwain?
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Canlyn... ydy'r gair yn codi pryder neu ddisgwyliad yn y galon? Gyda chymaint o ffyrdd technegol i gysylltu mae mynd ati i ganlyn fel ei fod wedi mynd yn gymaint mwy ffwndrus a rhwystredig nag erioed o'r blaen. Yn y cynllun 7 diwrnod hwn sydd wedi'i seilio ar Sengl, Canlyn, dyweddïo, Priodi bydd Ben Stuart yn eich helpu i weld fod gan Dduw bwrpas i'r tymor hwn yn eich bywyd, ac mae e'n cynnig egwyddorion arweiniol i'ch helpu i benderfynu pwy a sut i ganlyn. Gweinidog Eglwys Passion City, Washington DC yw Ben, a chyn-gyfarwyddwr gweithredol Breakaway Ministries, astudiaeth Beiblaidd wythnosol wedi'i fynychu gan filoedd o fyfyrwyr coleg ar gampws Texas A&M
More