Dewiswyd — Datgelu'r Wraig yn NghristSampl
DIM CYFYNGIADAU YNG NGHRIST
Yn nhrefn a chynllun Duw ar gyfer y ddynoliaeth, fe wnaeth e greu gwryw a benyw a'u gosod yn y safle uchaf o awdurdod y gall unrhyw greadigaeth fod - yng Nghrist! Nid ôl-ystyriaeth neu ychwanegiad oedd y Wraig ond rhan o gynllun gwreiddiol Duw.
"Felly dyma Duw yn creu pobl ar ei ddelw ei hun. Yn ddelw ohono’i hun y creodd nhw. Creodd nhw ynwryw ac yn fenyw,” Genesis 1:27 beibl.net
Crëwyd Adda yn Genesis 2, a chymerwyd Efa o'i ochr ac yna bu'n rhaid i ddyn syrthio. Fodd bynnag, mae unrhyw ddyn neu fenyw sy'n credu yng Nghrist wedi'i adbrynu ac nid yw bellach yn rhwym i natur Adda. Trwy farwolaeth, claddedigaeth, ac atgyfodiad Crist, y maent wedi eu derbyn i deulu Duw.
Ar ddechrau’r gyfres hon, buom yn trafod ein gwir hunaniaeth yng Nghrist. Mae’r hunaniaeth hon yn dod â phosibiliadau newydd a manteision bod yn rhan o deulu Duw. Nid oes yn rhaid i ni aros i fwynhau'r buddion hyn, mae gennym fynediad atynt i gyd yng Nghrist cyn gynted ag y credwn.
Yn llyfr Numeri 27:5-10, roedd merched Seloffchad wedi gofyn am rywbeth a oedd yn ymddangos yn annychmygol. Roedd yr etifeddiaeth a gadwyd yn ddiwylliannol i'r etifeddion gwrywaidd yn ddyledus iddyn nhw o ran safle ond eu hunig gyfyngiad oedd eu bod yn fenywaidd.
Ond yr hyn y byddai Cyfraith Moesenaidd yn ei gadw, wnaeth gras greu eithriad ar ei gyfer. A thrwy ymyrraeth gras, daeth yr eithriad hwn yn rheol i fenywod eraill yn y diwylliant hwnnw. Gwnaeth Gras Duw ddarpariaeth ar gyfer merched Seloffehad ac mae wedi sicrhau bod cymaint mwy ar gael i ti yng Nghrist.
Mae popeth sydd ei angen arnat ti ar gyfer bywyd a duwioldeb eisoes ar gael yng Nghrist.
Annwyl Wraig yng Nghrist, dylet fyw yn yr ymwybyddiaeth o'th hunaniaeth.
Mynna realiti dy greadigaeth newydd yn wyneb amgylchiadau heriol trwy aros gydag Efengyl Gras Duw. Mae nid yn unig yn ein hatgyfnerthu i oresgyn yr heriau hynny, gan fod holl fendithion Duw ar gyfer ein bywydau wedi'u cynnwys ynddo.
Wrth inni gloi’r gyfres hon, adrodda’r geiriau hyn yn rymus drosot ti dy hun.
Datganiadau:
- Fi yw cyfiawnder Duw yng Nghrist Iesu
- Dw i wedi fy mhrynu yn yr Arglwydd
- Fi yw anwylyd y Tad.
- Mae fy holl bechodau wedi’i maddau
- Dw i'n cael fy ngharu'n angerddol gan Dduw
- Dw i wedi cael help nerthol gan Dduw
- Dw i’n cael fy nghadw a'm diogelu gan Dduw
- Dw i'n mwynhau cymorth angylion
- Dw i wedi fy mendithio'n ddi-alw'n ôl
- Dw i wedi cael,maddeuant tragwyddol
- Dw i wedi fy iachau drwy’r Arglwydd
- Dw i’n mwynhau iechyd dwyfol
- Y mae gen i ffafr a doethineb Duw
- Dw i’n ffrwythlon, yn ffynnu, yn rhagori, ac yn llwyddo ym mhopeth dw i’n ei wneud
- Mae gen i eneiniad sy’n lluosi
- Does dim byd yn fy erbyn
- Does dim byd yn marw yn fy nwylo
- Dydw i byth yn sownd
- Mae'r goruwchnaturiol yn naturiol i mi
- Mae pob peth yn cydweithio er fy lles
- Mae Duw yn fy ngharu i yn fwy nag y mae’r diafol yn fy nghasáu
- Mae gras yn gweithio i mi!
Am y Cynllun hwn
Fel merched, dŷn ni’n aml yn cael ein hunain yn jyglo llawer o wahanol rolau mewn bywyd. Ond yng nghanol y prysurdeb hwn, mae’n bwysig cofio, yn ein hanfod, pwy ydyn ni: Merched Dewisedig Duw, neu’r Wraig yng Nghrist. Yr hunaniaeth hon yw sylfaen ein bywydau, gan lunio ein perthynas â Duw ac eraill. Ymuna â ni dros y tridiau nesaf wrth i ni archwilio'r hunaniaeth hon yn fanylach!
More