Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Dewiswyd — Datgelu'r Wraig yn NghristSampl

Chosen -  Unveiling the Woman in Christ

DYDD 1 O 3

NID Y NORM YN UNIG

Roedd hi'n ymddangos mai dim ond diwrnod arall oedd hi iddi hi, yr un lleoedd, yr un rhestr o bethau i'w gwneud.

Roedd y dieithryn hwn, roedd hi eto i'w gyfarfod, yn mynd i newid ei bywyd am byth - doedd hi ddim yn gwybod hynny eto.

Roedd y cyfarfyddiad rhwng Iesu a’r wraig o Samaria mor drawsffurfiol nes iddi ddychwelyd ar unwaith i’w dinas, gan ddweud wrth bawb amdano. Dyna rym yr Efengyl!

Mae’r Efengyl yn chwalu rhwystrau, yn cael gwared ar batrymau hirsefydlog o gywilydd ac euogrwydd, ac yn rhyddhau’r crediniwr i gyflawnder eu hunaniaeth. Lledodd buddsoddiad amser Iesu gyda’r un fenyw hon drwy’r dref gyfan, gan arddangos pŵer trawsnewidiol yr Efengyl.

Efallai, roedd ganddi ei hamheuon fel llawer ohonom ni, ond trwy ddatguddiad Iesu, wnaeth hi ddarganfod wir natur y Tad. Mae'r wraig yng Nghrist yn gwybod bod Duw yn dda, waeth beth fo'r amgylchiadau o'i chwmpas. Nid yw'n fframio ei chanfyddiad o Dduw â'i hamgylchiadau. Nid yw hi'n cydymffurfio â'i theimladau na'i normau crefyddol, mae hi'n gwybod bod gwir natur Duw yn cael ei ddatgelu yng Nghrist.

Roedd Mair, chwaer Lasarus a Martha, yn deall y gwirionedd hwn yn berffaith. Byddai rheoleiddwyr y diwylliant a’r arferol yn ystod yr amseroedd hynny wedi bod yn wyllt gacwn o weld gwraig yn eistedd, yn gwrando, ac yn dysgu wrth draed Iesu fel disgybl. Yn wir, roedd Martha yn disgwyl mwy ohoni fel gwesteiwr yn derbyn gwestai i'w cartref. Ond, dewisodd Mair yr un peth sydd ei angen arnom ni i gyd – Crist ei Hun (Luc 10:42).

Nid Crist yn unig sydd ei angen arnom i ateb ein gweddïau. Dŷn ni ei angen oherwydd mae pwy ydyn ni'n deillio o'r Datguddiad o bwy yw e. Cawsom ein hunaniaeth fel Plant Duw trwy ei waith achubol ar y Groes.

Roedd yna rwyg hirsefydlog rhwng yr Iddewon a'r Samariaid wedi arwain atyn nhw’n mynd allan o'u ffordd i osgoi ei gilydd. Er gwaethaf hyn, teithiodd Iesu yn fwriadol trwy Samaria yn Ioan 4:4. Trodd yr hyn a oedd yn ymddangos fel diwrnod cyffredin yn rhyfeddod gan fod Duw ar waith y tu ôl i'r llenni, yn trefnu rhywbeth hardd. Wrth glywed yr Efengyl trwy Iesu, newidiwyd y wraig o Samaria am byth. Dadorchuddiwyd ei gwir hunaniaeth fel plentyn i Dduw, wedi ei dewis a’i charu cymaint â’r Iddewon yn ôl yn ei dydd. Gyda'i hunaniaeth newydd, daeth â mwy o feibion a merched i wybod pwy ydyn nhw yng Nghrist.

Waeth sut y dechreuodd dy stori

Cefaist dy ddewis a'th sefydlu yng Nghrist.

Gwrthod mynd â'r norm yn unig

Mae gen ti hunaniaeth newydd, gyda phosibiliadau newydd ac etifeddiaeth newydd; i gyd yng Nghrist.

Dalia ati i dyfu mewn Gras ac yng ngwybodaeth yr Arglwydd Iesu!

Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Chosen -  Unveiling the Woman in Christ

Fel merched, dŷn ni’n aml yn cael ein hunain yn jyglo llawer o wahanol rolau mewn bywyd. Ond yng nghanol y prysurdeb hwn, mae’n bwysig cofio, yn ein hanfod, pwy ydyn ni: Merched Dewisedig Duw, neu’r Wraig yng Nghrist. Yr hunaniaeth hon yw sylfaen ein bywydau, gan lunio ein perthynas â Duw ac eraill. Ymuna â ni dros y tridiau nesaf wrth i ni archwilio'r hunaniaeth hon yn fanylach!

More

Hoffem ddiolch i LOGIC Church am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://thelogicchurch.org/en/