Dewiswyd — Datgelu'r Wraig yn NghristSampl
WEDI DY ETHOL AR GYFER EI OGONIANT
"Hyd yn oed [yn ei gariad] cawsom eindewisganddo, i fod (mewn perthynas â’r Meseia) ac i fod yn lân a di-fai yn ei olwg, >, ". - Effesiaid 1:4 (AMPC)
Nid yw Duw yn dilorni dy orffennol, mae'n ei drawsnewid!
Roedd Ruth wedi blino.
Wedi ei geni i linach a oedd wedi’u llethu gan felltithion ac yn addoli duw wnaeth erioed faddau, teimlai Ruth bwysau ei hamgylchiadau yn drwm iawn arni. Gan ddioddef bywyd creulon ar ôl iddi golli ei gŵr, dewisodd ddilyn ei mam-yng-nghyfraith, Naomi, am ei bod wedi clywed bod Duw maddeugar ganddi.
Mae stori Ruth, fel llawer o fenywod yn y Beibl, yn cyfeirio at y prynedigaeth a geir yn natguddiad Iesu. Roedd eu straeon yn arwyddocaol, nid o ganlyniad i'w duwioldeb - ond oherwydd eu bod yn cyfeirio at y trawsnewidiad a ddaeth Iesu trwy iachawdwriaeth.
Trodd Rahab hefyd, wedi blino ar y status quo, at Dduw’r Israeliaid, gan adael diogelwch ymddangosiadol ei dinas gaerog gref. Yn union fel y merched hyn, waeth beth yw ein dechreuadau, mae troi at Dduw yn trawsnewid ein straeon. Nid yw'n dilorni ein gorffennol, mae'n ei siapio'n rhywbeth hardd.
Un stigma y mae merched yn ei ysgwyddo gyda’i gilydd yw’r cyfrif am gwymp dyn yng Ngardd Eden.
O ganlyniad i Efa gael ei thwyllo, mae'r fenyw wedi cael ei gweld fel yr un mwyaf naïf. Fodd bynnag, roedd Gras Duw ar waith cyn y greadigaeth. Yn Genesis 3:15, rhoddir un o addewidion iachawdwriaeth; y bydd had y wraig a had y gelyn yn elynion.
Dyma oedd datganiad genedigaeth Iesu. Roedd Duw wedi dewis ein prynu a’n hadfer, gan ddangos ein trystio trwy ymgnawdoliad Iesu yn Mair.
Os gallai drystio’r wraig gyda'r gair yn gnawd, faint mwy y gair ysgrifenedig!
Annwyl Wraig, dylet wybod dy fod wedi dy ethol ar gyfer ei Ogoniant! Cofleidia dy hunaniaeth ynddo e wrth i ti fynd o gwmpas dy ddiwrnod!
Am y Cynllun hwn
Fel merched, dŷn ni’n aml yn cael ein hunain yn jyglo llawer o wahanol rolau mewn bywyd. Ond yng nghanol y prysurdeb hwn, mae’n bwysig cofio, yn ein hanfod, pwy ydyn ni: Merched Dewisedig Duw, neu’r Wraig yng Nghrist. Yr hunaniaeth hon yw sylfaen ein bywydau, gan lunio ein perthynas â Duw ac eraill. Ymuna â ni dros y tridiau nesaf wrth i ni archwilio'r hunaniaeth hon yn fanylach!
More