Cyflwynodd Moses eu hachos o flaen yr ARGLWYDD, a dywedodd yr ARGLWYDD wrtho: “Y mae cais merched Seloffehad yn un cyfiawn; rho iddynt yr hawl i etifeddu ymhlith brodyr eu tad, a throsglwydda etifeddiaeth eu tad iddynt hwy. Dywed wrth bobl Israel, ‘Os bydd dyn farw heb fab, yr ydych i drosglwyddo ei etifeddiaeth i'w ferch. Os na fydd ganddo ferch, rhowch ei etifeddiaeth i'w frodyr. Os na fydd ganddo frodyr, rhowch ei etifeddiaeth i frodyr ei dad.
Darllen Numeri 27
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Numeri 27:5-10
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos