Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Numeri 27

27
Merched Seloffehad
1Yna daeth ynghyd ferched Seloffehad fab Heffer, fab Gilead, fab Machir, fab Manasse, o deuluoedd Manasse fab Joseff. Enwau ei ferched oedd Mala, Noa, Hogla, Milca a Tirsa. 2Safasant wrth ddrws pabell y cyfarfod o flaen Moses ac Eleasar yr offeiriad, ac o flaen yr arweinwyr a'r holl gynulliad, a dweud, 3“Bu farw ein tad yn yr anialwch; nid oedd ef ymhlith y rhai o gwmni Cora a ymgasglodd yn erbyn yr ARGLWYDD, ond bu ef farw oherwydd ei bechod ei hun, heb adael mab ar ei ôl. 4Pam y dylai enw ein tad gael ei ddileu o'i dylwyth am nad oedd ganddo fab? Rho inni etifeddiaeth ymhlith brodyr ein tad.”
5Cyflwynodd Moses eu hachos o flaen yr ARGLWYDD, 6a dywedodd yr ARGLWYDD wrtho: 7“Y mae cais merched Seloffehad yn un cyfiawn; rho iddynt yr hawl i etifeddu ymhlith brodyr eu tad, a throsglwydda etifeddiaeth eu tad iddynt hwy. 8Dywed wrth bobl Israel, ‘Os bydd dyn farw heb fab, yr ydych i drosglwyddo ei etifeddiaeth i'w ferch. 9Os na fydd ganddo ferch, rhowch ei etifeddiaeth i'w frodyr. 10Os na fydd ganddo frodyr, rhowch ei etifeddiaeth i frodyr ei dad. 11Os na fydd gan ei dad frodyr, rhowch ei etifeddiaeth i'w berthynas agosaf, er mwyn iddo ef gael meddiant ohono.’ ” Bu hyn yn ddeddf a chyfraith i bobl Israel, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.
Josua i Olynu Moses
Deut. 31:1–8
12Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Dringa'r mynydd hwn, sef Mynydd Abarim, ac edrych ar y wlad a roddais i bobl Israel. 13Ar ôl iti ei gweld, fe'th gesglir dithau at dy bobl, fel y casglwyd dy frawd Aaron, 14am i chwi wrthryfela yn erbyn fy ngorchymyn yn anialwch Sin, a gwrthod fy sancteiddio yng ngŵydd y cynulliad pan fu cynnen yn eu plith wrth y dyfroedd.” Dyfroedd Meriba-cades yn anialwch Sin oedd y rhain. 15Dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD, 16“Boed i'r ARGLWYDD, Duw ysbryd pob peth byw, benodi rhywun dros y cynulliad 17i'w harwain a'u tywys wrth iddynt fynd a dod, rhag i gynulliad yr ARGLWYDD fod fel defaid heb fugail.” 18Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Cymer Josua fab Nun, dyn sydd â'r ysbryd ynddo, a gosod dy law arno; 19pâr iddo sefyll o flaen Eleasar yr offeiriad ac o flaen yr holl gynulliad, a rho iddo siars yn eu gŵydd hwy. 20Rho iddo gyfran o'th awdurdod di, er mwyn i holl gynulliad pobl Israel ufuddhau iddo. 21Y mae i sefyll o flaen Eleasar yr offeiriad, a bydd yntau'n ymgynghori ar ei ran gerbron yr ARGLWYDD trwy'r Wrim; ar ei orchymyn ef, bydd holl gynulliad pobl Israel yn mynd allan ac yn dod i mewn.” 22Gwnaeth Moses fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD iddo; cymerodd Josua, a pheri iddo sefyll o flaen Eleasar yr offeiriad ac o flaen yr holl gynulliad, 23a gosododd ei ddwylo arno, a rhoi iddo'r siars, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi cyfarwyddo Moses.

Dewis Presennol:

Numeri 27: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda